Adroddiad sgrinio gwarchod natur a threftadaeth

Sgrinio safleoedd dynodedig ar gyfer ceisiadau trwydded

​Chwiliwch am ardal warchodedig ar y map isod trwy gyfeiriad, côd post, neu enw pentref, tref neu ddinas. 

Cliciwch ar eicon 'rhestr haenau' ar y dde uchaf i weld y mathau gwahanol o ardaloedd gwarchodedig. Gallwch ychwanegu neu dynnu haenau. 

 

Gallwch hefyd ddefnyddio ein hadnodd safleoedd dynodedig  i ganfod rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir sydd ger y gweithgarwch sydd gennych mewn golwg.

Mae’r adnodd yn darparu gwybodaeth am y dynodiadau canlynol:
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
- Ardaloedd Gwarchod Arbennig
- Ramsar

Sut i ddefnyddio’r offeryn?

Gallwch wneud chwiliad drwy ddefnyddio enw’r safle dynodedig neu’r sir lle mae eich gweithgarwch yn cael ei gynnal, a’r math o ddynodiad. 

Mae’n bwysig cofio bod pellteroedd sgrinio ar gyfer ceisiadau am drwyddedau yn cael eu cymryd o ffin y safle/gweithgaredd arfaethedig, ac nid y canolbwynt. 

Sut all y wybodaeth fod o gymorth i mi?

Os ydych yn gwneud cais am drwydded bwrpasol, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hyn i’ch helpu i gwblhau asesiad o’r peryglon safle penodol

Os ydych yn gwneud cais am drwydded reolau safonol, gall y wybodaeth helpu i nodi p’un a allwch gwrdd â rhai o feini prawf y lleoliad ar gyfer y set o reolau safonol rydych ei angen.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod meini prawf lleoliad arall yn berthnasol i’r rhan fwyaf o drwyddedau reolau safonol. Hyd yn oed os nad yw eich gweithgaredd arfaethedig (safle) o fewn pellter o safle dynodedig ar yr offeryn sgrinio, mae’n bosibl na fyddwch hyd yn oed wedyn yn cwrdd ag oll meini prawf y lleoliad, ar gyfer y set o reolau rydych eu hangen. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â ni am gyngor cyn gwneud cais  ffurfiol er mwyn gweld ag ydych yn cwrdd â’r holl feini prawf perthnasol ar gyfer y lleoliad

Sut gallaf gael rhagor o gyngor?

Os ydych dal yn ansicr ynghylch a oes angen i chi ystyried safleoedd dynodedig, neu sut y gallent effeithio ar eich gweithgaredd , gallwch gysylltu â ni i drafod eich cais  o hyn ymlaen. Rydym yn cynnig gwasanaeth arweiniad a chyngor cyn gwneud cais, ar gyfer yr holl geisiadau am drwyddedau.

Gallwch siarad â’ch swyddog cydymffurfio lleol os oes gennych un, neu wneud cais am gyngor cyn ymgeisio ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf