Ailgysylltu Pobl a Lleoedd – Gwella Iechyd, Llesiant a’r Economi

Llun gan Peter Lewis

Ers cyhoeddi’r Datganiadau Ardal ym mis Mawrth 2020 maen nhw’n naturiol wedi esblygu i adlewyrchu blaenoriaethau ar ôl y pandemig ar gyfer ein hamgylchedd ar draws Canolbarth Cymru.

 

Cafwyd ffocws ar alluogi a grymuso cymunedau i ddatblygu eu gwytnwch eu hunain, gyda chymorth.

 

Trwy gyflawni themâu’r Datganiad Ardal, byddwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r Argyfyngau Bioamrywiaeth a Hinsawdd ar raddfa leol.

Pam y thema hon?

Mae’r amgylchedd naturiol yng Nghanolbarth Cymru yn cynnig llawer o wasanaethau ecosystem i ni, er nad yw gwerth y rhain yn cael ei werthfawrogi’n llwyr gan gymdeithas, sy’n llesteirio ein gallu i reoli a diogelu ein hasedau naturiol yn y ffordd fwyaf cynaliadwy.

Mae tystiolaeth fod gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored yn gwneud cyfraniad positif i’n hiechyd corfforol a meddyliol.  Mae ein mannau gwyrdd trefol a gwledig, parciau, coetiroedd, caeau, mynyddoedd a dŵr yn ein helpu i deimlo’n well yn feddyliol ac yn gorfforol.  Gall mynediad i’r amgylchedd naturiol gynnig cyfleoedd amrywiol yn ogystal â gweithgareddau corfforol, gan gynnwys cwmnïaeth, gweithgarwch ystyrlon, myfyrdod, antur a dysgu. Mae gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored yn aml am ddim ac maent yn darparu cyfleoedd i bawb, waeth beth yw eu hoedran neu eu gallu.

Gall ailgysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol greu cymdeithas iachach a hapusach.  Mae posibiliadau enfawr i leihau ein dibyniaeth ar feddyginiaethau rhagnodol gan ddefnyddio rhagnodi gwyrdd a chymdeithasol fel gofal iechyd ataliol.  Pan fydd pobl yn deall gwerth eu hamgylchedd, maent yn fwy tebygol o’i ddiogelu a’i warchod.Mae twristiaeth yn chwarae rhan amlwg iawn yn economi Canolbarth Cymru, drwy wariant ymwelwyr a chyflogaeth gysylltiedig.  Mae twristiaeth gweithgareddau yn tyfu’n gyflym yn yr ardal hon, oherwydd ei dibyniaeth ar yr amgylchedd naturiol.  Mae llawer o fusnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghanolbarth Cymru, sy’n cefnogi tua 10% o economi dwristiaeth Cymru gyfan ar hyn o bryd.  Mewn rhan wledig o Gymru, sydd â phoblogaeth wasgaredig, mae’r incwm hwn yn hollbwysig i lawer o gymunedau lleol.


Pont garreg gyda bwâu addurniadol dros afon, gyda choed ar lannau’r afonLlun gan Peter Lewis

 

Plentyn yn taflu pelen eira mewn coetir conwydd.Llun gan Peter Lewis

Mae Canolbarth Cymru yn cynnig cyfleoedd di-rif ar gyfer mwynhau’r awyr agored yng nghefn gwlad.  Mae dau Lwybr Cenedlaethol - Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr - yn mynd drwy’r ardal, yn ogystal â’r rhan drawiadol a garw o Lwybr Arfordir Cymru ar hyd arfordir Ceredigion.  Mae Canolbarth Cymru wedi elwa oherwydd y diddordeb cynyddol mewn beicio mynydd, ac mae nifer o lwybrau swyddogol ac sy’n cael eu rheoli’n dda wedi’u sefydlu, er enghraifft safle Bwlch Nant yr Arian CNC ger Aberystwyth, yn ogystal â nifer o fentrau llwybrau dan arweiniad y gymuned.  Mae’r rhwydweithiau o lwybrau cerdded yn darparu mynediad i rai o’r ardaloedd mwyaf anghysbell o Ganolbarth Cymru, dan ddarparu teithiau cerdded pleserus ar gyfer pob gallu.

Mae llawer o warchodfeydd natur yng Nghanolbarth Cymru hefyd yn darparu mynediad i bawb.  Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn ger Rhaeadr a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ac Ynyslas yn ddim ond dau o’r safleoedd arbennig, niferus y gellir ymweld â hwy unrhyw amser, yn rhad ac am ddim.

Y prif feysydd dan sylw yn y thema hon yw:

  • helpu i gefnogi cymunedau i ddatblygu sgiliau a chyfrannu at y sylfaen dystiolaeth, gan ddefnyddio Gwyddor Dinasyddion

  • chwilio am ffyrdd newydd i bobl allu cysylltu â’u hamgylchedd lleol er mwyn helpu i wella eu hiechyd a’u lles

  • gweithio gyda gwahanol sefydliadau i ddatblygu cyfleoedd i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol ar garreg ein drws fel adnodd ar gyfer meddyginiaeth ataliol

  • datblygu’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi’r darpariaethau ynghylch iechyd a lles a’r cysylltiadau â’r amgylchedd naturiol

  • hyrwyddo cyfleoedd twristiaeth gynaliadwy er mwyn helpu i roi hwb i’r economi leol

  • hyrwyddo, annog a chefnogi gweithgareddau hamdden cynaliadwy, ailgysylltu pobl leol ac ymwelwyr gyda mynediad at yr amgylchedd naturiol

Nod y pwyntiau uchod yw rhoi arweiniad a helpu i osod blaenoriaethau ar gyfer prosiectau a gweithio ar y cyd. Trwy edrych ar y meysydd ffocws hyn gyda’i gilydd, byddwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r Argyfyngau Bioamrywiaeth a Hinsawdd ar raddfa leol. Nid yw’r rhestr o feysydd ffocws yn gynhwysfawr ac nid yw’n diystyru unrhyw faterion, syniadau neu atebion newydd sy’n dod i’r amlwg. Rydym ni eisiau annog cymunedau i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer eu mentrau lles cymunedol eu hunain.

Beth fyddai llwyddiant yn ei olygu?

Mae ailgysylltu pobl â’u hamgylchedd naturiol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y thema hon.  Dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym fod angen i’r arfer o ddefnyddio’r amgylchedd i fynd i’r afael ag iechyd a lles fod yn rhan hanfodol o’n cymdeithas.  Cydnabuwyd bod poblogaethau yn wasgaredig yng Nghanolbarth Cymru ac y gall ynysiad cymdeithasol gyfrannu’n fawr at iechyd meddwl gwael.

Yn y Datganiad Ardal hwn, hoffem edrych ar gyfleoedd pellach i gydweithio ar draws nifer o sectorau i:

  • ddatblygu tystiolaeth ynglŷn â gwerth yr amgylchedd naturiol i’r economi leol ac i’n llesiant corfforol a meddyliol

  • datblygu’r rhwydwaith gwyddor dinasyddion a’u cyfraniadau tystiolaeth er mwyn gwella ein hamgylchedd

  • cynyddu gweithgareddau hamdden cynaliadwy a darparu gwell mynediad i leoedd gwyrdd – adolygu’r cysylltiadau lleol presennol â’r amgylchedd leol ac adnabod lle mae angen gwelliannau

  • datblygu a hyrwyddo gwell rhwydwaith o lwybrau cerdded a chysylltedd ar gyfer cymunedau trefol a gwledig, i ddod â nhw’n nes at yr amgylchedd

  • datblygu cyfres o brosiectau cydweithredol ar draws y sectorau iechyd, yr amgylchedd a’r gymuned i annog gwell defnydd o fannau gwyrdd, gan gynnwys rhagnodi cymdeithasol trwy fentrau cymunedol lleol a meddygon teulu, sy’n gallu mynd i’r afael ag iechyd a lles corfforol a meddyliol

  • cynyddu cynaliadwyedd wrth reoli twristiaeth a datblygu’r economi leol drwy:
    • wella cludiant cyhoeddus cynaliadwy i gymunedau ac ymwelwyr
    • datblygu siarter twristiaeth gwyrdd i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy a hygyrchedd ar gyfer safleoedd i ymwelwyr
    • cynnal adolygiad o fodelau arfer da ar gyfer twristiaeth gynaliadwy ac edrych i weithredu’r rhain mewn meysydd eraill
    • darparu dulliau mwy cynaliadwy o reoli atyniadau ‘pot mêl’ i ymwelwyr a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac empathi ar gyfer yr amgylchedd naturiol maent yn ymweld ag ef

Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni gefnogi cymunedau ac economi Canolbarth Cymru, gan hefyd fodloni gofynion yr amgylchedd naturiol.

Rhaeadr Sgwd Yr EiraLlun gan Andrew Osborne

Gyda phwy rydym ni wedi gweithio hyd yn hyn?

Wrth ddatblygu’r Datganiad Ardal, defnyddiodd CNC ystod o adnoddau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), a Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom hefyd gymryd gwybodaeth o Gynlluniau Lles Powys a Cheredigion a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyd-fynd â’u blaenoriaethau a’u Nodau Llesiant, yn seiliedig ar anghenion lleol.

Mae CNC yn bartner allweddol ym Myrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Canolbarth Cymru. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r nod o alluogi cyrff cyhoeddus i gydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal a chreu gwell dyfodol i bobl Cymru. Yng Nghanolbarth Cymru, mae gennym ni Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.

Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynnal Asesiad Llesiant i ddeall y problemau a’r blaenoriaethau penodol mewn cymunedau lleol. Cynhyrchwyd Cynllun Llesiant gydag Amcanion Llesiant penodol, er mwyn gwella llesiant cymunedau. Mae’r cynlluniau a’r amcanion llesiant presennol yn weithredol rhwng 2018-2023.

Mae CNC yn gweithio fel rhan o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Phowys i gyflawni’r amcanion llesiant ar lefel gymunedol.

Mae rhagor o fanylion ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ar gael yma.

Fe wnaethom ni gynnwys ein rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu’r Datganiad Ardal, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny.

Ers ei gyhoeddi yn y lle cyntaf ym mis Mawrth 2020, rydym ni wedi parhau i ymgysylltu gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid er gwaetha’r anawsterau’n gysylltiedig â phandemig byd-eang. Roeddem yn falch o’r angerdd a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid wrth ein cynorthwyo i barhau i arwain Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn ei flaen, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.

Cynhaliwyd nifer o weithdai ymgysylltu rhwng 2019-2021 i ofyn i randdeiliaid beth hoffen nhw ei weld fel rhan o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Gweithgareddau Ymgysylltu

9 Digwyddiad Ymgysylltu, 224 o Gyfranogwyr mewn Grwpiau Cyfoedion, 241 o Ddilynwyr Facebook, 764 o bobl wedi ymgysylltu hyd yn hyn

Ffigyrau’n adlewyrchu digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2019-2021 

Roedd hi’n amlwg o’r gwaith ymgysylltu a’r adborth bod y broses Datganiad Ardal yn newydd i bawb a fu’n rhan ohono a bod y ‘ffordd newydd o weithio’ yn dal i adlewyrchu newid sylweddol o’r ffordd yr oedd pob un ohonom yn gweithio yn y gorffennol. Mae angen parhau i ddysgu, myfyrio ac addasu’r ffordd yr ydym ni i gyd yn gweithio er mwyn llwyddo.

Nod adolygiad 2022 o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru yw diweddaru’r testun craidd hwn i adlewyrchu datblygiad naturiol y Datganiad Ardal dros y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r newidiadau ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn dangos sut mae’r broses o greu datganiad wedi esblygu’n naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth o waith CNC a mewnbwn rhanddeiliaid. Bydd ein hymgysylltiad yn parhau wrth i’r Datganiad Ardal aeddfedu, datblygu ac esblygu.

Roedd ein digwyddiadau ymgysylltu yn annog trafodaethau ynglŷn â’r math o brosiectau a meysydd diddordeb yr oedd rhanddeiliaid yn awyddus i weithio arnynt. Rydym ni eisiau annog a datblygu cyfleoedd i gydweithio.

Rydym yn ystyried mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw helpu i hwyluso a sefydlu grwpiau cyfoedion ar y cam hwn, er mwyn annog a galluogi gwahanol randdeiliaid i ddod at ei gilydd a nodi blaenoriaethau ar gyfer y themâu ardal, y gallant ddatblygu camau gweithredu i’w cyflawni. Mae CNC eisiau symud i ffwrdd oddi wrth ‘ymgynghori’ tuag at ‘gydweithio’ a gweithredu ar lawr gwlad, hyd yn oed os mae hynny’n dal i fod yn daith ansicr i nifer wrth i ni wneud cynnydd gyda Datganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Mae llawer o’r rhai a gymerodd ran yn ein gwaith ymgysylltu hyd yma wedi sefydlu perthnasoedd gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda’i gilydd.  Mae’r broses ymgysylltu parhaus yn galluogi cyfleoedd pellach i ddatblygu perthnasoedd sydd eisoes wedi sefydlu a chreu rhai newydd. Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan os oes gennych brosiect neu syniad da ar gyfer prosiect! Rydym yn disgwyl y bydd cyfleoedd pellach yn dod i’r amlwg wrth i’r broses ymgysylltu barhau.  Mae’n bwysig pwysleisio bod y Datganiad Ardal yn perthyn i bob un ohonom – pawb sydd eisiau cymryd rhan – ac rydym yn awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni.

Gwaun ucheldir yn y blaendir gyda thyrbinau gwynt a mynyddoedd wedi’u gorchuddio ag eira yn y cefndir yn erbyn yr awyr las, glirLlun gan Ian Medcalf

Beth yw’r camau nesaf?

Mae angen i ni fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â’r ffaith fod cymaint o bobl yn dangos diffyg cysylltiad ac empathi gyda’u hamgylchedd naturiol, ac edrych ar gyfleoedd newydd i gynyddu mwynhad o’r byd naturiol. Bydd hyn, yn ei dro, yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles fel cymdeithas. Rydym ni eisiau annog mwy o bobl i ymgysylltu gyda’u hamgylchedd naturiol ac i leisio eu barn ynghylch y ffordd y mae eu hardaloedd hamdden yn cael eu rheoli. Bydd yn galw am ymrwymiad hirdymor i gyflawni newid gwirioneddol.  Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni ddatblygu ffordd i gydweithio i fynd i’r afael â’r materion hyn fel cymdeithas.

Mae pobl Canolbarth Cymru eisoes yn gwneud amrywiaeth eang o waith gwych. Mae angen dathlu a dysgu o arfer da.  I adeiladu ar hyn, mae’r Datganiad Ardal yn ein cyfeirio at rannu gwybodaeth a’n dealltwriaeth a dylunio ffyrdd arloesol i fynd i’r afael â’r heriau.

Mae CNC wedi dechrau nodi rhwydweithiau lle gellir dod â phrosiectau sydd â chanlyniadau tebyg ynghyd a gweithio arnynt gyda’i gilydd.  Mae bwriad yng Nghanolbarth Cymru i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd, nad ydynt o bosibl wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn draddodiadol ond a fydd, gyda’i gilydd, yn gallu cyflawni canlyniadau â buddiannau lluosog. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a Cheredigion wedi mabwysiadu’r dull hwn wrth gyflawni eu gwaith; yng Ngheredigion, maent wedi datblygu nifer o ‘is-grwpiau’ i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd ar lefel lle.

Bydd cyfleoedd ar gyfer cymorth ariannol i ddarparu prosiectau a syniadau trwy system gyllid grant Cyfoeth Naturiol Cymru. Cysylltwch â ni am fanylion pellach am y grantiau sydd ar gael, neu ewch i dudalen grantiau CNC.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae’r Datganiad Ardal yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae angen i ni barhau i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer Canolbarth Cymru, i’n galluogi i wneud gwell penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.  Mae’n bosibl adolygu bylchau yn y dystiolaeth ac ychwanegu ati drwy gydweithio a defnyddio’r holl ddata sydd ar gael i ddatblygu amcan pob thema.

Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i nodi’r themâu ar gyfer Canolbarth Cymru.  Mae sgyrsiau a thrafodaethau wedi rhoi dealltwriaeth i ni o’r materion a’r pwysau y mae gwahanol rhanddeiliaid, sectorau a chymunedau yn eu hwynebu. 

Trwy gydol ein proses ymgysylltu, mae wedi dod yn glir bod angen i’r Datganiad Ardal barhau i ymgysylltu ac ysbrydoli amrediad eang o randdeiliaid a chymunedau (y tu hwnt i’r sector amgylcheddol) er mwyn cyflawni canlyniadau llwyddiannus ar lawr gwlad, yn ogystal â chodi proffil yr amgylchedd naturiol ymhlith cymunedau lleol a sefydlu ffyrdd newydd o sicrhau mynediad gwell i bawb.

Sut all pobl gymryd rhan?

Gallwch ymuno â ni ar Facebook! Mae grŵp Facebook Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn un ffordd i chi gael y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf am Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.  Gall unrhyw un ymuno â’r drafodaeth ar-lein.  Mae’r grŵp wedi’i sefydlu i fod yn grŵp preifat ar hyn o bryd, ond rydym yn eich annog i sôn amdano ymhlith eich cydweithwyr a’ch cysylltiadau a allai fod yn awyddus i gymryd rhan.  Gofynnir tri chwestiwn syml i chi i ymuno â’r grŵp er mwyn ein bod yn sicrhau bod yr aelodau a’r cynnwys yn berthnasol i Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau pellach ac yn datblygu grwpiau a sgyrsiau penodol am bob un o themâu Canolbarth Cymru.  Os ydych eisoes ar ein rhestr bostio, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain.  Os hoffech gael eich ychwanegu i’r rhestr, anfonwch e-bost i mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae angen i ni barhau i ddatblygu’r Datganiad Ardal gyda’n gilydd, i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r Datganiad Ardal yn berchen i bob un ohonom – pawb sydd eisiau cymryd rhan – a byddem yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni ar unrhyw adeg i helpu i ddatblygu’r Datganiad Ardal fel proses sy’n esblygu’n barhaus. Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf