Pam y thema hon?


Dyma ystadegyn i chi – mae bron i 60% o ogledd-ddwyrain Cymru wedi'i ddynodi'n ffermdir caeedig, gan olygu mai dyma yw'r math o gynefin mwyaf dylanwadol yn yr ardal. O'r gweddill, dynodir 15% fel coetir, gyda mynyddoedd, rhostir a rhosydd yn ffurfio 10% ac 8% yn ardaloedd trefol, ac mae'r olaf 2% yn uwch na'r ffigur cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae gan y sawl sy’n rheoli’r amrediad eang hwn o gynefinoedd, gyfle i ystyried sut gall rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wella ein 'gwasanaethau ecosystemau', sef y buddion lluosog ac amrywiol a gawn oddi wrth yr amgylchedd naturiol ac ecosystemau iach. Mae'r rhain yn cynnwys bwyd, dŵr ac aer glân ynghyd â gwasanaethau rheoliadol, diwylliannol a chefnogol eraill fel storio carbon, cyfleoedd hamdden a gwella bioamrywiaeth. Drwy gydweithio i reoli'r tir yn gynaliadwy, gallwn gynnal a gwella'r gwasanaethau y mae natur yn eu darparu i ni.

Mae'r thema hon yn y Datganiad Ardal yn cwmpasu amrediad eang o'r cynefinoedd a geir ar draws gogledd-ddwyrain Cymru ac nid yw'n berthnasol i amaethyddiaeth yn benodol. Yn ystod ein digwyddiadau ymgysylltu, trafodwyd y pwnc mewn sawl gwahanol wedd gan gynnwys rheoli tir yn gynaliadwy, gwarchod ein pridd a dŵr, graddfa tirwedd (y'i hystyrir yn eang fel dull ehangach a chyfannol o reoli tir) ac amaethyddiaeth. Yn gychwynnol, defnyddiwyd y term ymbarél 'rheoli tir yn gynaliadwy', ac ychwanegwyd y gair 'ffermio' yn dilyn mewnbwn yn ystod digwyddiad ymgysylltu ym mis Gorffennaf 2019. Wedi'r cwbl, ffermio yw'r creigwely i ddiwydiant cynhyrchu bwyd gwydn yng Nghymru, ffaith y teimlodd llawer fod angen ei phwysleisio.

Cytunodd pawb a fynychodd ein digwyddiadau ymgysylltu y dylwn ni i gyd fod yn cydweithio er mwyn sicrhau y gall yr amgylchedd ddod yn rhan bwysig o'r broses ffermio. Dylai hynny, yn ei dro, baratoi'r ffordd at ddiwydiant cynhyrchu bwyd cynaliadwy a buddion cysylltiedig eraill fel bywyd gwyllt sy’n ffynnu a gwell mynediad i'n tirweddau gwerthfawr. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd cyn i ni nodi'r ffordd orau o gyflawni hyn.

Mae'r thema hon yn helpu i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau canlynol yn y Polisi Adnoddau Naturiol:

Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a datblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn

Yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, cafodd ei ddatgelu bod bywyd gwyllt yng Nghymru'n parhau i ddirywio, gydag 17% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Ers y 1970au, mae gloÿnnod byw a gwyfynod wedi dioddef dirywiad o 52% yng Nghymru. Ar frig y grŵp o blanhigion sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn y DU mae’r fflora sy'n gysylltiedig â thir âr, ac ystyrir bod 54 o rywogaethau yn brin neu dan fygythiad, a bod saith ohonynt wedi diflannu. Amcangyfrifir mai cyfanswm hyd holl wrychoedd Cymru yw 106,000 o gilometrau. Fodd bynnag, dynodir bod 78% o hwnnw mewn cyflwr gwael.

Cynnal capasiti cynhyrchu trwy wella ansawdd pridd

Amcangyfrifir bod y gost flynyddol o ddirywiad pridd yng Nghymru a Lloegr yn £1.2 biliwn, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cranfield yn 2015. Mae hyn yn bennaf wedi'i gysylltu â cholli cynnwys organig y pridd (sef 47% o gyfanswm y gost), cywasgiad (39%) ac erydu (12%). Mae ffermwyr yn rheoli 60% o'r tir yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae pridd gwael yn effeithio ar eu hincwm a ffordd o fyw. Nid yw rhai rheolwyr tir yn credu bod ganddynt broblemau erydu pridd. Fodd bynnag, gallai fod achosion o golli pridd yn raddol ar lefel isel, a niwed i strwythur pridd, sydd â goblygiadau hirdymor o ran cynaliadwyedd, cynhyrchiant, proffidioldeb a'r amgylchedd. Gall colli pridd ar fferm hefyd arwain at effeithiau annymunol, megis casglu ar heolydd ac eiddo cyfagos, mynd i gyrsiau dŵr a mygu graeanau ar welyau afonydd, gan achosi gorfaethu. Mae'n werth nodi nad yw hyn yn gysylltiedig â ffermdir yn unig ond gweithrediadau coedwigaeth hefyd, ynghyd â mathau eraill o ddefnydd tir. Gall cywasgiad a 'selio' pridd trefol hefyd arwain at broblemau llifogydd dŵr wyneb ar gyfer ein cymunedau

Lleihau lefel y llygredd yn yr aer a gwella ansawdd yr aer

Yn ôl Strategaeth Aer Glân DEFRA 2019, mae'r sector amaethyddol yn gyfrifol am 88% o allyriadau amonia'r DU, sy'n deillio o storio a lledaenu tail a slyri yn ogystal â defnyddio gwrteithiau anorganig. Mae amonia'n gwneud niwed i gynefinoedd naturiol sensitif ac yn cyfrannu at lygredd gronynnol mewn ardaloedd trefol.

Gwella ansawdd ein dŵr a sicrhau cyflenwad digonol ohono

Ceir dau prif ddalgylch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sef afon Clwyd ac afon Dyfrdwy. Mae’r rhan fwyaf o ddalgylch afon Clwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac mae'r un isafon fawr, afon Elwy, yn ardal gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf. Mae rhannau uchaf afon Dyfrdwy hefyd yn ymestyn i ardal gogledd-orllewin Cymru, gyda'r dalgylch isaf yn llifo dros ffin Lloegr i Wastadedd Sir Gaer ac Aber Afon Dyfrdwy.

Mae bron tair miliwn o bobl yn cael eu dŵr yfed o afon Dyfrdwy, gyda llawer ohonynt yn byw yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae pwysigrwydd strategol afon Dyfrdwy fel ffynhonnell dŵr yfed, a'r perygl iddi oherwydd llygredd, wedi arwain at yr afon yn dod yn un o'r afonydd sy’n cael ei gwarchod fwyaf yn Ewrop, gan ddod yn Barth Diogelu Dŵr dynodedig yn 1999.

Mae gan afon Clwyd ei rhagnentydd yng Nghoedwig Clocaenog, ac mae afon Elwy'n codi i'r gorllewin ar Fynydd Hiraethog. Amaethyddiaeth sydd â’r dylanwad mwyaf yn nalgylch gwledig afon Clwyd. Mae rhan o'r dalgylch isaf yn barth perygl nitradau ar gyfer dŵr wyneb a dŵr daear. Yn 2015, nid oedd 68% o’r holl gyrff dŵr croyw (fel y’u diffiniwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cyflawni statws da neu'n well yn gyffredinol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd y ffactorau cyfrannol yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd addasu ffisegol yn gyfrifol am 22% o fethiannau oherwydd pwysau fel rhwystrau yn atal pysgod rhag mudo (e.e. coredau)

  • Roedd llygredd o garthion a dŵr gwastraff yn gyfrifol am 22% o fethiannau

  • Roedd llygredd o ardaloedd gwledig (gan gynnwys arferion rheoli tir yn ogystal ag effeithiau o ddefnyddiau eraill fel ceffylau/stablau a chyrsiau golff) yn gyfrifol am 24% o fethiannau

  • Roedd llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth yn gyfrifol am 8% o fethiannau

  • Roedd llygredd o fwynfeydd yn gyfrifol am 6% o fethiannau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos (a bydd yn parhau i wneud hynny) â'n rhanddeiliaid gan gynnwys Dŵr Cymru a ffermwyr yn nalgylch afon Clwyd er mwyn sicrhau bod ein dyfroedd ymdrochi yn y Rhyl a Phrestatyn yn ennill statws digonol, da neu ragorol. Byddwn yn parhau i geisio cyllid, a chysylltu â phartneriaid i ddarparu cynlluniau sy'n lleihau mewnbynnau bacteriolegol yn y dalgylch. Mae Dŵr Cymru wedi dynodi dalgylch afon Clwyd yn beilot ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac mae eisiau gweithio'n gydweithredol er mwyn darparu gwelliannau amgylcheddol ynghyd â buddion iechyd a llesiant.

Pysgotwr eog ar afon Dyfrdwy

Sicrhau poblogaethau iach o bysgod

Gallai'r cysylltiad rhwng rheoli tir a phridd a phoblogaethau iach o bysgod ymddangos yn annelwig, i ddechrau. Er hynny, gall y dull o reoli pridd effeithio'n uniongyrchol ar gylch oes llawer o'r rhywogaethau a geir yn ein nentydd a'n hafonydd. Er enghraifft, mae angen graeanau ocsigenedig a glân ar eogiaid a brithyllod, er mwyn silio. Mae'n rhaid i ddŵr allu pasio drwy raean fel bod wyau'n gallu anadlu. Gall pridd a gwaddodion fygu wyau neu wneud graeanau'n anaddas ar gyfer silio.

Diogelu a chynyddu storfeydd carbon mewn priddoedd a biomas

Yn ôl adroddiad ar gyflwr pridd, o dan y teitl 'Summary of the state of the environment: soil', a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2019, mae pridd y DU yn cynnwys tua 10 biliwn o dunelli o garbon, sydd tua'r un faint â gwerth 80 blynedd o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae ffermio eisoes yn gyfrifol am adnodd carbon hanfodol mewn pridd, tirwedd goediog a chynefinoedd lled-naturiol. Trwy wella ein dull o reoli tir a newid ein defnydd o dir, gallwn nid yn unig ddal rhagor o garbon, ond hefyd gwarchod a gwella'r hyn sydd yno'n barod. Mae'r ffyrdd o gyflawni hyn yn cynnwys creu gwrychoedd mwy o faint, creu coetir ychwanegol a chreu pridd sy'n gyfoethog mewn carbon.

Addasu i'r newid yn yr hinsawdd

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi gosod y nod uchelgeisiol o gyrraedd targed o sero o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws sector amaethyddol Cymru a Lloegr erbyn 2040. Yn ôl Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gall amaethyddiaeth – a'r economi sy'n seiliedig ar dir – chwarae rhan allweddol mewn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan ei fod mewn sefyllfa unigryw i allu dal y prif nwy tŷ gwydr (carbon deuocsid) o'r aer a'i drosi, gyda chymorth gan ffermwyr, yn amrediad eang o fwydydd, ffibrau a thanwyddau. Wrth wella'r gallu hwn i ddal carbon, gallwn ei ddefnyddio i greu 'allyriadau negyddol', gan dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer a chydbwyso'r allyriadau methan ac ocsid nitraidd sy'n deillio o amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Mae angen i ni gydbwyso'r heriau niferus, a'r gystadleuaeth mewn defnydd, y mae ein tirweddau'n eu hwynebu. Gall dull integredig, yn ddelfrydol, greu lle ar gyfer ein holl wasanaethau ecosystemau.

Trwy gydol ein gweithgarwch ymgysylltu, cafodd y rhai a gymerodd ran anhawster i ddatblygu prosiectau â chanlyniadau hirdymor, ac felly ni chafwyd digon o gamau gweithredu clir i allu symud ymlaen. Y gobaith yw y bydd y broses Datganiadau Ardal yn datrys hyn. Mae angen i ni barhau i feithrin ymddiriedaeth a datblygu ffyrdd newydd o weithio, meithrin cydberthnasau a chreu ymdrech ar y cyd er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer y cyfleoedd canlynol:

Cynllun amaeth-amgylcheddol ar ôl Brexit

Fel prif gynghorydd i Lywodraeth Cymru, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn llywio trafodaethau'r Datganiad Ardal ynghylch cynllun amaeth-amgylcheddol ar ôl Brexit a phwysleisio'r dymuniad iddo gynnig cyfleoedd hyblyg ar gyfer blaenoriaethau lleol, rhai sy'n cydnabod (a) gwahaniaethau a gofynion lleol ar draws sectorau a lleoedd, a (b) yr angen i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau er budd cyhoeddus, fel rheoli llifogydd yn naturiol, sydd wedi'i anelu at leihau'r perygl llifogydd neu erydu arfordirol, trwy daliadau.

Fforwm Clwyd

Bydd y Datganiad Ardal yn ceisio barn ynglŷn â ffurfio Fforwm Clwyd, a fyddai â'r nod o hyrwyddo'r gwaith o reoli dalgylch afon Clwyd yn gynaliadwy, trwy reoli a chynllunio mewn modd cyfannol ac integredig. Byddai'r fforwm yn cynnwys amrediad eang o randdeiliaid a fyddai'n gweithio ar lefelau strategol a phrosiect er mwyn cyflawni targedau pendant, yn unol â blaenoriaethau'r Datganiad Ardal.

Darparu cyfleoedd yn seiliedig ar dystiolaeth

Bydd y Datganiad Ardal yn seiliedig ar dystiolaeth, a byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth yr ydym yn ei dal ac yn ei derbyn ar gael i bartïon a chanddynt fuddiant. Bydd y Datganiad Ardal hefyd yn hyrwyddo darlun cywir a chytbwys o'r holl dir a reolir yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn ogystal â 'chanolbwyntio ar ddatrysiadau'.

Meithrin ymddiriedaeth a chydberthnasau sy'n parhau

Bydd y Datganiad Ardal yn parhau i gynnal ymddiriedaeth trwy feithrin cydberthnasau cadarn â rhanddeiliaid sy'n cyfrannu amrediad eang o brofiadau y tu hwnt i'r buddiannau rheol tir arferol.

Clystyrau fferm

Bydd y Datganiad Ardal hwn yn cefnogi'r gwaith o greu 'clystyrau fferm' â'r nod o helpu rheolwyr tir i benderfynu sut orau i ffermio'n gynaliadwy, gan sicrhau enillion teilwng ar yr un pryd. Gellir annog cydweithrediad rhwng ffermydd cyfagos hefyd, gan hyrwyddo'r buddion o rannu seilwaith, peiriannau ac arferion gorau.

Cyswllt Ffermio a phwysigrwydd trosglwyddo sgiliau

Bydd y Datganiad Ardal hefyd yn hyrwyddo gwaith Cyswllt Ffermio ynghyd â phwysigrwydd gwybodaeth, trosglwyddo sgiliau, hyfforddiant ac arweiniad. Gall meysydd arbenigedd gynnwys cynllunio rheoli maethynnau, profi pridd, rheoli pridd, cynllunio rheoli gwastraff fferm, a thechnoleg a ffermio manwl.

Datblygu economi fwyd leol

Mae'r gadwyn fwyd yn gyfrifol am 31% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn yr Undeb Ewropeaidd. Trwy gydweithio, gallwn fynd i'r afael â hyn mewn ffyrdd fel prynu bwyd yn lleol, bwyta yn ôl y tymhorau a lleihau'r milltiroedd bwyd (y pellter y mae bwyd yn cael ei gludo o’r ffynhonnell/gwneuthurwr i'r defnyddiwr). Mae hefyd angen i ni leihau faint o ddeunyddiau pecynnu bwyd a ddefnyddir, sy'n ychwanegu at wastraff a thirlenwi, ar yr un pryd â chynyddu nifer y cynefinoedd bioamrywiaeth ar gyfer pryfed a bywyd gwyllt.

Rheoli maethynnau mewn dalgylchoedd afon

Bydd y Datganiad Ardal yn ceisio hyrwyddo'r arfer o leihau maethynnau, creu buddion amgylcheddol a meithrin cydberthnasau llwyddiannus rhwng rhanddeiliaid a chymunedau.

Ymgorffori coed i'r busnes ffermio

Mae angen i ni feddalu'r ffiniau rhwng coetiroedd, coedwigaeth ac amaethyddiaeth er mwyn ymgorffori coed mewn amaeth-fusnesau yn llwyddiannus. Mae'n hanfodol sicrhau cydbwysedd lle gallwn ddod o hyd i le i goed mewn ffyrdd nad ydynt yn effeithio'n negyddol ar ddefnydd tir pwysig arall, er enghraifft systemau bwyd amaethyddol a rheoli tir cynaliadwy. Yn ogystal, dylai dulliau ystyriol o blannu sicrhau nad yw cynefinoedd pwysig, sydd eisoes yn storio lefelau sylweddol o garbon, neu sy'n cefnogi cynefinoedd a/neu rywogaethau â blaenoriaeth yn dioddef effeithiau negyddol coed na fyddai’n addas ar gyfer amgylcheddau o’r fath.

Gellir integreiddio cyfran sylweddol o goed newydd i mewn i ffyrdd presennol o ddefnyddio tir, er enghraifft trwy blannu yng nghorneli caeau, pentiroedd a gwrychoedd ar ffermydd, gan hybu cynhyrchiant amaethyddol ar yr un pryd â darparu buddion o ran carbon a bywyd gwyllt. Dylai'r Datganiad Ardal hyrwyddo coed a choetir yng nghyd-destun rheoli tir, gan sicrhau bod plannu newydd yn ategu buddiannau amaethyddol a chynhyrchu bwyd yn hytrach na chystadlu yn eu herbyn. Gellid hefyd cynnal a gwella gwrychoedd, ynghyd â sicrhau bod cymhellion ar gael i dirfeddianwyr i blannu coed ar rannau lleiaf cynhyrchiol eu tir (roedd colli gwrychoedd yn bryder arbennig yn ystod y digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd yn Rhuthun ym mis Tachwedd 2019). Mewn rhai achosion, gellid rhoi cefnogaeth i alluogi coetiroedd i adfywio'n naturiol, sy'n gallu bod yn llawer rhatach na phlannu coed.

Mynd i'r afael â gwastraff anghyfreithlon a throseddau gwastraff

Mae gwastraff sydd wedi'i ollwng yn anghyfreithlon yn gostus ac yn llafurus i gael gwared ohono, yn beryglus i iechyd dynol, yn niweidiol i fywyd gwyllt a da byw ac, mewn rhai achosion, gall lygru cyrsiau dŵr a halogi tir. Yn rhy aml, mae trosedd gwastraff – gwaredu neu reoli gwastraff yn anghyfreithlon – yn effeithio fwyaf ar gymunedau difreintiedig. Trwy gydweithio, gallwn fynd i'r afael â'r gweithgaredd hwn sy'n difetha ein tirweddau gwledig a threfol.

Rheoli llifogydd yn naturiol

Ystyr rheoli llifogydd yn naturiol yw'r hyn sy'n digwydd pan gaiff prosesau naturiol eu defnyddio i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys plannu coed, ardaloedd storio all-lein, rheoli pridd a thir, rheoli twyni tywod a thraethau, rhwystrau mewn afonydd, a chreu gwlyptiroedd newydd. Mae angen i ni gydweithio â natur er mwyn archwilio dulliau newydd o reoli llifogydd, gan ystyried mesurau, ar lefel dalgylch, sy'n lliniaru'r risg o lifogydd i lawr yr afon, yn ogystal â darparu buddion lluosog i gymunedau lleol. Gwnaeth un awdurdod lleol, a oedd yn awyddus i leihau effaith llifogydd yn ei ardal, ddangos meddylfryd 'i fyny'r afon' drwy ddatgan ei fod am blannu coed mewn awdurdod cyfagos. Dylid hefyd cefnogi ffermwyr i ddarparu nwyddau cyhoeddus trwy gynllun grant y mae modd ei addasu.

Addysg

Mae angen i ni weithio gyda cholegau lleol a chenedlaethol er mwyn annog datblygu modiwlau dysgu sy'n canolbwyntio ar reoli tir yn gynaliadwy, codi ymwybyddiaeth ynghylch technolegau newydd a ffermio manwl sy'n darparu buddion i'r amgylchedd a busnesau amaethyddol.

Creu 'Map Stori' fel offeryn ymgysylltu

Byddai creu offeryn 'Map Stori' er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd yn galluogi pobl i ddilyn cynnydd, gan ddangos tystiolaeth a llwyddiant yn erbyn y thema. Gallai hyn, yn ei dro, alluogi mwy o newid, dylanwadu ar farn a chynyddu ymwybyddiaeth. Byddai'r mapiau hyn yn cael eu dylunio ar gyfer unrhyw gynulleidfa â mynediad i'r rhyngrwyd.

Datblygu astudiaethau achos

Mae straeon yn bwysig. Maent yn ennyn ein diddordeb, felly rydym yn dysgu ganddynt. Mae angen i ni ddatblygu a rhannu astudiaethau achos am blannu coed a chreu coetiroedd sy'n rhoi sylw i'r llwyddiannau. Dylai'r astudiaethau achos hyn hefyd fynd i'r afael â'r gamdybiaeth gyffredin fod manteision amgylcheddol yn cael eu cyflawni ar draul datblygiad economaidd.

Teulu yn cerdded ar lan y môr Rhyl© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Daeth cyfanswm o 148 o bobl yn cynrychioli 68 o sefydliadau ar draws 28 o sectorau gwahanol (â chylchoedd gorchwyl eang) i bum digwyddiad ymgysylltu wedi'u trefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2019. Gwnaeth pob un ond un ddigwydd mewn lleoliadau cymunedol lleol, ac eithrio lleoliad mwy, trefol, Neuadd Tref Dinbych ym mis Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ymgysylltu ag uwch-reolwyr ac arweinwyr portffolio'r tri awdurdod lleol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Dafydd Thomas, ymgynghorydd llesiant allanol, yn bresennol ym mhob digwyddiad, a oedd yn cynnwys gweithdrefn arloesol o'r enw 'cylch cyfarfod' wedi'i dylunio i annog cyfranogwyr i rannu eu teimladau gwirioneddol, blaenoriaethu'r hyn oedd wir yn bwysig iddynt, a gweithio gyda'i gilydd i gael canlyniadau.

Bu cynrychiolaeth dda yn ystod y digwyddiadau rhanddeiliaid gan gyrff yn y sector amaethyddol fel Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Coleg Cambria a Cyswllt Ffermio. Ymhlith y sefydliadau eraill a gymerodd ran mewn trafodaethau ar y thema hon roedd Dŵr Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolwyr o feysydd cadwraeth ac addysg.

Er bod llawer o sectorau'n cael eu cynrychioli'n dda, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol fod angen ehangu apêl Datganiadau Ardal y tu hwnt i'r 'bobl arferol'. Mae angen i gymunedau a'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd gymryd rhan (hyd yn hyn, roedd cyfranogwyr o'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd ond yn cyfri am 15% o'r sawl a gymerodd ran). Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, anfonwyd gwahoddiadau at oddeutu 2,500 o fusnesau bach a chanolig, eto mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn siomedig. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad Cymru Ifanc, a gynhaliodd gyfres o weithdai ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a fydd yn cyfrannu at y Datganiad Ardal ac, yn y broses, yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu grymuso.

Rydym bob amser wedi cydnabod pa mor bwysig yw ymgysylltu â chymunedau, ac rydym yn y broses o ystyried y ffordd orau o wneud hynny er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd wedi cael eu trafod hyd yn hyn. Gadewch i ni eich sicrhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog ac yn cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n rhannu nodau neu ddibenion cyffredin, gan eu helpu i lunio a chyflawni'r Datganiad Ardal fel ei fod o fudd i'w cymunedau lleol.

Beth yw'r camau nesaf?


Drwy gydol 2020, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni ddechrau cyflwyno'r cyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiad Ardal. Rydym yn disgwyl i fwy o gyfleoedd godi wrth i'r broses ymgysylltu fynd yn ei blaen.

Mae'r camau gweithredu i CNC a'n rhanddeiliaid yn cynnwys y canlynol:

  • Ceisio ehangu apêl proses y Datganiad Ardal, gan annog sefydliadau i ddeall bod hyn yn rhywbeth y gallant ei llunio, dylanwadu arni ac ymgysylltu â hi

  • Adolygu'r Datganiad Ardal yn gyson, gan ddatgelu syniadau a thystiolaeth newydd sy'n dod i'r amlwg, ynghyd â thrafodaethau sy'n cael eu cynnal

  • Parhau i fapio'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ofalus, gan estyn allan i sectorau a sefydliadau nad ydyn ni wedi siarad â hwy hyd yn hyn

  • Cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n cyfrannu at y Datganiad Ardal, a chael mwy o ymdeimlad yn y broses o ran ai'r cyfleoedd sy'n cael eu nodi yw'r rhai cywir mewn gwirionedd

  • Annog amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddod ynghyd a ffurfio grŵp ffocws 'thema' i ddatblygu'r cyfleoedd a nodwyd ymhellach

  • Annog ffyrdd newydd o weithio, i gydberthnasau newydd gael eu meithrin, a pharhau i feithrin ymddiriedaeth gyda'n partneriaid presennol

  • Cynnwys adborth o sesiynau ymgysylltu Cymru Ifanc yn y Datganiad Ardal

  • Cyfeirio partneriaid a chymunedau at gyfleoedd am ariannu sy'n cefnogi cyflawniad y Datganiad Ardal, gan gynnwys rhaglen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun

  • Codi pwyntiau a thrafodaethau penodol am bolisi sy'n ymwneud â Datganiadau Ardal yn ein rôl fel prif gynghorydd i Lywodraeth Cymru

  • Gwella'n defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, wrth ystyried ffyrdd arloesol eraill o gynnwys pobl ym mhroses y Datganiad Ardal

  • Annog gwell dulliau o weithio rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, gyda'r nod o wella canlyniadau ar draws gogledd-ddwyrain Cymru

Sut mae'r hyn rydym wedi'i gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae'r egwyddorion sy'n sail i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn hanfodol i broses y Datganiad Ardal. Wrth wraidd ei ddatblygiad mae ein hymgysylltiad cydweithredol ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, rhai presennol a rhai newydd. Rydym wedi ceisio dechrau sgyrsiau sy'n bwysig, gan ofyn i bobl siarad â phobl nad ydynt yn eu hadnabod, neu na fyddent fel arall yn siarad â hwy. Wrth wneud hynny, daeth yn glir fod llawer yn rhannu gweledigaeth debyg o'r dyfodol, un a oedd yn y pen draw yn gosod y sylfeini ar gyfer ein pum thema. Er bod rhai o'r sgyrsiau hynny'n heriol, roeddent bob tro'n werth chweil ac yn gynhyrchiol.

Mae'r broses hon wedi'n helpu i ddiffinio'r broblem ar y cyd ac ennill dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r camau gweithredu posib, cyn penderfynu ar yr hyn sydd angen cael ei wneud i gyflawni'n 'gweledigaeth' a rennir. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o ran sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio. Yn y gorffennol, rydym wedi parhau gyda'n hopsiynau dewisol heb ymgysylltu na chwilio am unrhyw fath o gonsensws. Yr her nawr yw gweithio gyda'n partneriaid, ein rhanddeiliaid a'n cymunedau wrth lunio, ac yn y pen draw, gyflawni'r cyfleoedd hyn.

Bydd y Datganiad Ardal yn galluogi pob un ohonom i wneud penderfyniadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu nid yn unig ar yr wybodaeth sydd gennym, ond tystiolaeth mae ein partneriaid yn ei darparu. Bydd llawer o'r data ar gael i bawb drwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu model mapio gofodol i gefnogi cynllunio datblygu, yn benodol mewn perthynas â seilwaith gwyrdd trefol, creu coetir a bioamrywiaeth. Dylai hyn, ynghyd â pheth o'r dystiolaeth y mae ein rhanddeiliaid wedi'i chasglu, sicrhau y bydd gan Ddatganiadau Ardal ran ganolog yn y broses o ddatblygu cynlluniau datblygu lleol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth o hyd, ond rydym yn gweithio i'w llenwi.

Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod bod angen i ni ddiogelu ein hecosystemau, a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, drwy feithrin gwydnwch. Mae perthynas gref rhwng rheoli tir yn gynaliadwy, ein pedair thema Datganiad Ardal arall, a'r cyfle i gyflawni manteision lluosog sy'n rhyng-gysylltu. Mae'r holl themâu hyn wedi'u dylunio i wneud ein gwasanaethau ecosystemau’n fwy gwydn, i liniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac i helpu'n cymunedau i addasu i hinsawdd sy'n newid. Unwaith eto, nid yw rhai o'r manylion am sut orau i ddatblygu'r cyfleoedd hyn wedi cael eu trafod. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod modd mwyhau llawer ohonynt naill ai trwy ddilyn y llwybr seiliedig ar ogledd-ddwyrain Cymru a ddiffinnir yma, neu drwy ymgymryd ag ymagwedd fwy rhanbarthol ar y cyd â gogledd-orllewin Cymru.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, rydym yn rhagweld y bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch diogelu pridd a dŵr drwy ffermio a rheoli tir yn gynaliadwy fel ffordd o ymgysylltu ymhellach. Caiff manylion eu cyhoeddi wrth i broses y Datganiad Ardal ddatblygu. Cadwch lygad allan felly. Os ydych am gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch northeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf