Rydyn ni eisiau clywed gennych chi


Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i gael gwell dealltwriaeth o sut mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol nhw.

Bwriad y dudalen hon yw bod yn gyflwyniad i'r broses Datganiadau Ardal, ynghyd â'r heriau, cyfleoedd a'r 'themâu' cysylltiedig, a sut mae hynny'n berthnasol i'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a lles.

Rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn a'ch syniadau am sut y gall eich gwaith gyfrannu at y broses Datganiadau Ardal, ynghyd â sut y gallen ni roi cymorth strategol i chi. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio NRWhealthpolicy@naturalresourceswales.gov.uk

Tirwedd dinas Caerdydd gyda choed trefol

Iechyd/lles a Datganiadau Ardal

Mae adnoddau naturiol yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd a'n lles – yr aer rydyn ni'n ei anadlu, y dŵr rydyn ni'n ei yfed, y bwyd rydyn ni'n ei fwyta, ein hanghenion sylfaenol. Maen nhw’n rhoi egni, ffyniant a diogelwch i ni, heb sôn am leoedd a mannau ar gyfer gweithgarwch corfforol a hamdden. Yn ei dro, mae amgylchedd iach a ffyniannus yn hyrwyddo gwydnwch mewn cymunedau a chyfleoedd sylweddol i wella bywydau pobl. Fodd bynnag, dim ond os caiff yr amgylchedd naturiol ei reoli'n gynaliadwy a'i gydnabod am y manteision a ddaw yn ei sgil y gall hyn ddigwydd.

Mae ein hamgylchedd naturiol yn chwarae rhan hanfodol yn yr hyn a elwir yn benderfynyddion iechyd, fel y mae ‘A health map for the local human habitat' gan Barton a Grant (2006) yn ei egluro. Mae hyn yn cynnwys:

Ecosystemau byd-eang, sefydlogrwydd yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth -hanfodol i iechyd a goroesiad pobl

Mae argyfwng presennol yr hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar iechyd. Rydyn ni’n cael mwy o dywydd poeth, llai o gofnodion o ddiwrnodau oer, a mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol fel llifogydd. Gall y rhain olygu perygl uniongyrchol i fywyd a'n gadael yn agored i glefydau trosglwyddadwy, yn ogystal â chael effaith niweidiol ar ein lles meddyliol. Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn wynebu argyfwng natur gan golli ein bioamrywiaeth, rhywbeth sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel bwyd, meddygaeth ac ymchwil i glefydau, yn ogystal â bod o bwysigrwydd personol, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol i gymunedau.

Yr amgylchedd naturiol ac adeiledig – creu mannau iach

Mae'r amgylchedd sy'n ein hamgylchynu yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd a'n lles. Gall mynediad i seilwaith gwyrdd a glas (fel afonydd, camlesi a phyllau) annog gweithgarwch corfforol, gwella ein hiechyd meddwl a lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chlefydau nad ydynt yn drosglwyddadwy. Mae cymunedau a gynlluniwyd gyda lles mewn golwg yn tueddu i fod â lefelau sŵn isel, ansawdd aer gwell, mwy o gydlyniant cymunedol ac maent hefyd yn meithrin cynhyrchu bwyd lleol.

Byw, gweithio a dysgu – rhyngweithio â'n hamgylchedd naturiol

Mae'r ffordd rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn dysgu yn yr amgylchedd naturiol ac yn ymwneud ag ef yn cyfrannu at ein lles a'n bodlonrwydd, yn ogystal â chefnogi creadigrwydd ac arloesedd. Gall cyflogaeth, gwirfoddoli, profiad gwaith, addysg a/neu hyfforddiant yn yr amgylchedd naturiol gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, hybu lles meddyliol, datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd, a gwella ein dealltwriaeth o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Gall hefyd leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy berchnogi a chyfranogi yn y gymuned leol, yn ogystal â chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r economi o ran sut rydyn ni’n rhyngweithio ac yn defnyddio ein gwasanaethau.

Cymunedau cryf a ffyrdd iach o fyw – ein dewisiadau a'n cysylltiad â’r cymuned

Caiff ein hymddygiad fel unigolion, gan gynnwys y dewisiadau a wnawn, ei effeithio gan amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys ein hymwneud â phobl eraill, ein rhan yn y gymuned, dewisiadau o ran ffordd o fyw, a'n hymdeimlad o reolaeth dros yr amgylchedd o'n cwmpas. Mae adnoddau naturiol yn gyfrwng ar gyfer gweithgarwch corfforol ac, felly, yn bwysig i'n hiechyd. Maen nhw’n darparu lle i ryngweithio ag eraill. Maent yn gwella cydlyniant cymunedol. Maent yn cefnogi ein hiechyd meddwl. Felly, wrth ystyried datblygu neu wneud newidiadau i seilwaith gwyrdd, mae'n gwneud synnwyr bod cymunedau'n cael eu cynnwys, er enghraifft drwy annog defnydd, perchnogaeth ac ymgysylltiad drwy gynnal a chadw.


Mae Datganiadau Ardal yn rhoi cyfle i adeiladu ar ymrwymiad Cymru i gysylltu polisi amgylcheddol â'r agenda iechyd ehangach, er enghraifft drwy fynd i'r afael â gordewdra, codi ein lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl, a chynnwys Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) sy'n ystyried goblygiadau iechyd y penderfyniadau a wnawn.

Gyda'n gilydd, gallwn gyflawni'r saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er budd ein pobl, ein heconomi a'n hamgylchedd (sef Cymru lewyrchus, Cymru wydn, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru o ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy'n gyfrifol yn mewn cyd-destun byd-eang).

Bydd Asesu'r Effaith ar Iechyd hefyd yn helpu i ddatblygu rhaglenni, prosiectau a strategaethau er mwyn cydnabod effeithiau a sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl.

Gwaith cydweithredol


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cydweithio i feithrin a chreu partneriaethau newydd â'r sector iechyd, ynghyd ag ystod eang o randdeiliaid eraill, gan ddatblygu ffyrdd arloesol o gydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â'r hinsawdd, natur ac iechyd mae cymdeithas yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn awyddus i weithio gyda phartneriaid lleol i sicrhau bod adnoddau naturiol ar gael sy'n cynnig manteision niferus i'n hiechyd a'n lles.

Mae Datganiadau Ardal yn rhoi'r canlynol i weithwyr iechyd proffesiynol:

  • Blaenoriaethau o ran yr amgylchedd a'r hinsawdd mewn gwahanol ardaloedd daearyddol, gan amlygu'r effaith a gaiff y rhain ar les cymunedau lleol
  • Anghenion y cymunedau eu hunain, gan fod pob Datganiad Ardal wedi'i ysgrifennu mewn ymgynghoriad â phobl leol a rhanddeiliaid gan dynnu sylw at yr hyn sydd, yn eu tyb nhw, yn bwysig i'w hamgylchedd a'u hiechyd
  • Ymagwedd gydgysylltiedig at bolisi a chyflawni sy'n cynnwys yr amgylchedd, rheoli adnoddau naturiol ac iechyd a lles

Bydd gwaith o'r broses Datganiadau Ardal yn effeithio ar benderfynyddion ehangach iechyd a lles. Dyna pam rydyn ni’n annog pob gweithiwr iechyd proffesiynol i edrych ar y wybodaeth a ddarperir yn y Datganiadau Ardal, ac i ystyried sut y gallai fod o fudd iddyn nhw yn eu penderfyniadau o ddydd i ddydd.

Darganfod Themâu Datganiadau Ardal


Gellir gweld disgrifiad llawn o'r gwahanol themâu sy'n dod i'r amlwg o bob rhan o Gymru yma:

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf