Croeso i Ganol De Cymru, sy'n gartref i 29% o boblogaeth Cymru ond sydd ond yn cwmpasu 6% o dir y wlad. Er gwaethaf ei maint bach, mae gan yr ardal hon sydd â phoblogaeth ddwys adnoddau naturiol gwych sydd wedi cefnogi cymunedau drwy gydol y Chwyldro Diwydiannol, ac sydd nawr yn darparu cyfleoedd ar gyfer y chwyldro llesiant.

Pan fo adnoddau naturiol yn ffynnu, mae cymdeithas, llesiant a’r economi yn ffynnu hefyd. Mae angen i ni warchod a gwella gwydnwch ein hecosystemau, gan gynyddu’r buddion maen nhw’n eu darparu ac atal colled bioamrywiaeth.

Mae'r amgylchedd naturiol yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer llesiant. Trwy'r Datganiad Ardal, rydym yn gwella'r ffordd rydym yn gwerthfawrogi ein hadnoddau naturiol – a'r buddion maent yn eu darparu i ni.

Trwy ein Datganiad Ardal, rydym am sicrhau bod amgylcheddau dŵr canol de Cymru yn cael eu diogelu a'u gwella at fudd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Credwn nad yw cymdeithas iach yn un sy'n aros i weld pobl yn dioddef o salwch. Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb cyffredin i ystyried sut mae ein hiechyd yn cael ei effeithio gan ystod eang o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol, ac i weithredu'n unol â hynny er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mae ansawdd aer yn fater pwysig ar gyfer amgylchedd trefol iawn Canol De Cymru. Mae angen i ni gydnabod a gwerthfawrogi'r rôl y mae ecosystemau gwydn yn gallu ei chwarae wrth wella ansawdd aer yr ardal, gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei osod wrth wraidd y datrysiad.