Pam y thema hon?

Wedi'u hysbrydoli gan ymchwydd o ymwybyddiaeth gyhoeddus, mae pobl yn fyd-eang yn dangos eu bod yn pryderu am yr amgylchedd naturiol, gan alw ar lywodraethau ar bob lefel i gwrdd â'r heriau a berir gan newid hinsawdd sy'n cyflymu a chwymp ecolegol.

Wrth ymateb i'r ymchwydd o farn ymysg pobl o bob oedran yng Nghymru, gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019, gan ddweud ei bod yn gobeithio y byddai'n:

“sbarduno ton o weithgarwch gartref ac yn rhyngwladol, o'n cymunedau, busnesau a sefydliadau ein hunain i seneddau a llywodraethau o amgylch y byd. Mae'r datganiad o argyfwng yn yr hinsawdd yn her hanfodol ar gyfer pob un ohonom a dylai gydnabod yr argyfwng amgylcheddol ehangach, yn enwedig colli bioamrywiaeth.”
- Syr David Henshaw, cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru,

Bydd newidiadau i'n hinsawdd a phatrymau tywydd yn cael effaith sylweddol ar lesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae tymereddau uwch a digwyddiadau tywydd eithafol a achosir gan y newid yn yr hinsawdd yn rhoi pwysau nawr ar ecosystemau, seilwaith, yr amgylchedd adeiledig, ein tirwedd unigryw a'n treftadaeth ddiwylliannol, y mae'r cyfan ohonynt yn cyfrannu at wydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol.

Coedwig Fforest fawr

Hyd yn hyn, mae 3 o'r 5 awdurdod lleol yng Nghanol De Cymru hefyd wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae 2 o’r 5 awdurdod lleol wedi datgan argyfwng natur. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cydnabod y ddau argyfwng yn eu cynllun rheoli ‘Y Bannau - Y Dyfodol’.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn enghraifft o bolisi a deddfwriaeth sydd â’r nod o gael effaith gadarnhaol ar ein bywydau beunyddiol a bywyd dinesig.

Mae'r cyfan yn dechrau gyda gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r buddion a'r gwasanaethau y mae'r amgylchedd naturiol yn eu cynnig i ni. Ein nod yw bod y byd naturiol yn cael ei werthfawrogi nid yn unig gan gymunedau lleol, ond hefyd gan gynllunwyr ac eraill sy'n gwneud penderfyniadau.

Fel y rhan fwyaf poblog yng Nghymru, sy'n gartref i 29% o boblogaeth y wlad a 18% o'i mannau trefol, mae Canol De Cymru hefyd yn ardal sy'n adnabyddus am ei harddwch naturiol eithriadol. Mae'n lle ble mae tirweddau trefol a gwledig yn agos iawn at ei gilydd, siŵr o fod yn fwy nag mewn unrhyw ran arall o Brydain, heb sôn am Gymru. Gyda hynny mewn golwg, mae annog pobl i ryngweithio fwy â'r byd naturiol yn ymddangos yn gwbl naturiol, o geisio gair gwell.

Ceir angen dybryd i sicrhau ein bod yn cynnal a gwella cysylltiad pobl â'r byd naturiol a’u gwerthfawrogiad ohono. Yn anffodus, mae'n rhy hawdd i gymunedau ddatgysylltu'n gorfforol ac yn feddyliol rhag natur. Gall seilwaith trefol llwyd eang fod yn rhwystr, yn aml mewn modd llythrennol.

Dros y blynyddoedd i ddod, mae cynlluniau i dwf trefol sylweddol ddigwydd ar draws Canol De Cymru. Ein gweledigaeth yw y bydd pobl yn cael eu hamgylchynu gan amgylchedd o ansawdd da, gan ddiogelu, rheoli a chynnal ar yr un pryd ein cymysgedd trefol/gwledig unigryw.

Trwy wella ein cysylltiad â natur, gallwn wella nid yn unig ein hiechyd a llesiant cyffredinol, ond hefyd ein gwybodaeth am faterion amgylcheddol, a’n gallu i fynd i’r afael â hwy, sy'n fwy cysylltiedig yn gyffredinol â thirweddau trefol, er enghraifft llifogydd (dŵr wyneb ac afonydd) ac ansawdd aer.

Bydd ein Datganiad Ardal yn nodi tystiolaeth ynghylch ein hadnoddau naturiol a'r buddion a gwasanaethau y gallant eu darparu. Trwy wella dealltwriaeth pobl o'r buddion a gwasanaethau hyn (e.e. hyrwyddo rôl seilwaith gwyrdd mewn amgylchedd trefol gwydn), gallwn ddechrau mynd i'r afael â nifer o'r heriau a chyfleoedd cenedlaethol gyda'n gilydd wrth fynd ati i wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys y canlynol: 

  • Cefnogi dulliau ataliol mewn perthynas â chanlyniadau iechyd, â ffocws penodol ar y materion iechyd cyhoeddus allweddol o lygredd aer a sŵn a achosir gan drafnidiaeth, mynd i'r afael ag anweithgarwch corfforol a gwella iechyd meddwl

  • Gwrthdroi’r dirywiad i fioamrywiaeth

  • Lleihau'r risg o lifogydd a gwneud cymunedau a busnesau yn fwy gwydn

  • Cefnogi’r broses o liniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd trwy ddulliau rheoli ar lefel yr ecosystem

  • Lleihau llygredd sŵn a lefel y llygredd yn ein haer a gwella ansawdd yr aer

  • Gwella ansawdd ein dŵr a sicrhau cyflenwad digonol ohono

  • Gweithredu i leihau'r pwysau ar ein hadnoddau naturiol, er enghraifft drwy gofleidio ynni adnewyddadwy neu annog pobl i ddefnyddio adnoddau mewn modd mwy effeithlon

  • Cefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd

Dyn yn loncian yng nghaeau Pontcanna

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Byddai llwyddiant yn golygu bod:

  • y Datganiad Ardal yn darparu sylfaen dystiolaeth leol i lywio mecanweithiau cyflenwi, gan sicrhau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

  • Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru 2017 yn cael ei weithredu'n lleol, gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth a roddwyd ar waith drwy ein Proffiliau Ecosystem (gweler ein thema ‘Adeiladu ecosystemau gwydn’) i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol, a'r buddion maent yn eu darparu ar gyfer ffyniant llesiant ac economaidd, yn cael eu gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau

  • Pob corff cyhoeddus yn cydnabod y cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu ar gyfer llesiant yn eu cynlluniau a strategaethau eu hunain

  • Y Datganiad Ardal yn gyrru gweithgarwch addasu ymlaen ledled Cymru, gan gyflenwi'r camau gweithredu o fewn Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd

Mae ecosystemau iach a gwydn yn ein darparu â buddion hanfodol a chynhenid ar gyfer ein bywydau a'n llesiant, gan gynnwys y gallu i gymunedau a busnesau addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Bydd Proffiliau Ecosystem Canol De Cymru, sy'n cael eu datblygu o dan ein thema ‘Adeiladu gwydnwch ecosystemau’, yn cael eu defnyddio i ddeall statws presennol ein hecosystemau yn well, gan nodi cyfleoedd ar gyfer gwella iechyd ecosystemau ac adeiladu gwydnwch.

Mae y thema ‘Cysylltu pobl â natur’ yn archwilio sut mae'r buddiannau a ddarperir gan ecosystemau gwydn yn cael eu gwerthfawrogi, gan geisio ymgorffori'r wybodaeth hon o fewn y broses o wneud penderfyniadau (gan sicrhau bod iechyd ecosystemau yn cael ei ystyried fel blaenoriaeth) drwy gydnabod ei chyfraniad at lesiant cymunedau.

Gyda'i gilydd, mae'r ddwy thema hyn yn darparu fframwaith ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gan danategu'r tair thema arall sy'n ffurfio ein Datganiad Ardal (Gweithio gyda dŵr, Gwella ein hiechyd a Gwella ansawdd ein haer). Trwy'r fframwaith hwn, byddwn yn nodi ein hegwyddorion sylfaenol er mwyn sicrhau, wrth fynd i'r afael â chyfleoedd a heriau cenedlaethol, fod y camau gweithredu a nodwyd yn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau fel eu bod yn cyflawni buddion sydd â'r nod o wella ein llesiant.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Rydym wedi cysylltu ag ystod o sefydliadau er mwyn nodi mecanweithiau a fydd yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Er bod rhai o'r rhain wedi'u nodi yn Neddf yr Amgylchedd, mae eraill yn fwy lleol, sy'n cynnwys ffyrdd newydd o weithio.

Trwy ein gwaith ymgysylltu, rydym wedi dysgu y bydd rhanddeiliaid yn cyfeirio at y Datganiad Ardal fel sylfaen dystiolaeth ganolig i lywio mecanweithiau cyflenwi allweddol, gan sicrhau bod adnoddau naturiol (a'r buddion maent yn eu darparu) yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol o fewn y broses o wneud penderfyniadau.

Ein nod yw arddangos arweinyddiaeth drwy fod yn dryloyw, gan ddangos sut rydym wedi defnyddio ein Datganiad Ardal i lywio gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun, amlinellu’r ffyrdd gorau yn ein barn ni o gyflawni rheolaeth gynaliadwy, a gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid, gyda golwg o hyd ar adeiladu gwydnwch ein hecosystemau a gwella'r buddiannau maent yn eu darparu.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i nodi atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n mynd i'r afael â'r blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd rydym wedi'u nodi hyd yn hyn, gan gyfrannu yn y pen draw at gyflenwi'r Polisi Adnoddau Naturiol. Rydym yn troedio'n ofalus er mwyn sicrhau nad ydym yn creu mecanweithiau newydd lle mae rhai yn bodoli yn barod. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu prosesau o wneud penderfyniadau y gallwn ychwanegu gwerth atynt drwy hyrwyddo rôl atebion sy'n seiliedig ar natur.

Plentyn a chi ger afon Ogmore

Beth yw'r camau nesaf?


Bydd y Datganiad Ardal yn sicrhau bod y buddion a'r cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cyflenwi yn cael eu deall, a bod y weledigaeth a rennir hon o'r amgylchedd naturiol yn cael ei defnyddio fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae'r ffyrdd o wneud hyn yn cynnwys:

  • Trwy weithredu'r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy, bydd Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill yn ystyried y sylfaen dystiolaeth leol a ddarperir gan y Datganiad Ardal

  • Trwy ddatblygu asesiadau seilwaith gwyrdd, bydd awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill yn sicrhau bod y Datganiad Ardal yn darparu sylfaen dystiolaeth leol ar gyfer rhwydweithiau ecolegol, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu rhestr ddata o seilwaith gwyrdd ar draws Canol De Cymru

  • Trwy ddarparu sylfaen dystiolaeth leol i gefnogi asesiadau effaith amgylcheddol ac iechyd strategol

  • Trwy ddarparu'r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi blaengynlluniau bioamrywiaeth cyrff cyhoeddus a chynorthwyo cyrff cyhoeddus i gyflenwi eu dyletswydd Adran 6, gan sicrhau bod gwydnwch ecosystemau yn cael ei ystyried ar raddfa fras

  • Sicrhau y bydd yr amgylchedd naturiol, a'r rôl sydd ganddo mewn llesiant a ffyniant economaidd (gan gynnwys addasu i’r newid yn yr hinsawdd), yn cael ei werthfawrogi a'i integreiddio'n llwyr yng ngwaith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac eraill

  • Sicrhau y bydd cynlluniau lleol a rhanbarthol allweddol, fel Parc Rhanbarthol y Cymoedd, hefyd yn cyflenwi yn erbyn y prif heriau a chyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiad Ardal

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol yn nodi'r angen am rwydweithiau ecolegol gwydn fel cam gweithredu â blaenoriaeth, i'w symud ymlaen drwy'r Datganiadau Ardal. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i’r Datganiadau Ardal gefnogi ffyrdd newydd o weithio sy'n gwerthfawrogi'r amgylchedd naturiol, yn adeiladu partneriaethau cyfiawn, ac yn gosod yr amgylchedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae gennym ddeddfwriaeth o'r radd flaenaf yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu unrhyw beth os nad yw pobl yn ei deall, neu eu bod yn methu/gwrthod ei defnyddio i lywio neu wneud penderfyniadau.

Bydd Datganiadau Ardal yn darparu'r dystiolaeth i gefnogi mecanweithiau cyflenwi allweddol. Mae rhai wedi'u nodi yn Neddf yr Amgylchedd ac mae'n rhaid iddynt ystyried y Datganiadau Ardal. Mae'r rhain yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol, asesiadau llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a chynlluniau Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Bydd mecanweithiau eraill (fel blaengynlluniau bioamrywiaeth cyrff cyhoeddus a chynlluniau cwmnïau dŵr) yn cael eu cefnogi gan Ddatganiadau Ardal drwy’r ddyletswydd Adran 6. Bydd y Datganiad Ardal hefyd yn darparu tystiolaeth allweddol i ffurfio mecanweithiau eraill fel asesiadau seilwaith gwyrdd awdurdodau lleol, y cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy, a strategaethau addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r thema hon, ochr yn ochr â'r gyntaf o bum thema sy'n rhan o'n Datganiad Ardal (Adeiladau ecosystemau gwydn), yn darparu'r mecanwaith y gellir rhedeg yr holl benderfyniadau drwyddo er mwyn sicrhau cyflenwi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng Nghanol De Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn modd agored a thryloyw. Gyda hynny mewn golwg, rydym am annog pobl i gysylltu â natur. Mae proses y Datganiad Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu’r camau nesaf. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, ebostio ni ar southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf