Polisi Cwynion a Chanmoliaeth

Codi cŵyn

Datganiad a Phwrpas

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymroddedig i ddelio’n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion y byddwn yn eu derbyn am ein gwasanaeth. Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad yw ein cwsmeriaid yn glir yn eu cylch. Os yn bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau y gallem fod wedi'u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth â hawl yr ydym wedi methu â’i ddarparu. Byddwn bob amser yn ceisio dysgu o'n camgymeriadau a gwella ein gwasanaethau. 

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru ymdrin â chwynion yn unol â Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn yr arferion gorau a nodir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ac y manylir arnynt ym mholisi a chanllawiau Pryderon a Chwynion Enghreifftiol OGCC.

Pryd y dylid defnyddio'r Polisi hwn

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd neu fusnes, sydd wedi derbyn, neu a oedd â hawl i dderbyn, gwasanaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cwyn. Mae’r un peth yn wir os ydynt wedi dioddef oherwydd y camau amhriodol neu ddiffyg gweithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ogystal, bydd apeliadau y mae unrhyw fusnes a reoleiddir yn dymuno eu codi’n anffurfiol yn erbyn ein penderfyniadau rheoleiddio, hefyd yn cael eu trin fel cwynion yn unol â’r polisi hwn.  Nid yw gwneud apêl i ni yn y modd hwn yn effeithio ar unrhyw hawl statudol i apelio a allai fod gennych na’r terfynau amser ar gyfer gwneud apêl statudol, na’ch hawl i ystyried gofyn i’r llysoedd adolygu ein penderfyniad.

Beth yw Cwyn

Mae cwyn yn

  • fynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
  • cael ei gyflwyno naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar trwy unrhyw ddull cyfathrebu
  • cael ei wneud gan un neu fwy o aelodau'r cyhoedd
  • ymwneud â gweithred neu ddiffyg gweithredu neu am safon y gwasanaeth a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gofyn am ymateb

Gall y gŵyn fod am Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun, rhywun sy’n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth darparwr gwasanaethau cyhoeddus y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan ohoni. Ni ddylai’r weithdrefn hon fodd bynnag gael ei defnyddio gan aelod o staff neu ddarpar aelod o staff fel cyfrwng i godi materion cyflogaeth. Mae systemau mewnol eraill ar gael ar gyfer y mathau hyn o bryderon, er enghraifft gweithdrefnau chwythu'r chwiban, bwlio, neu weithdrefnau cwyno.

Nid yw cwyn:

  • yn gais cychwynnol am wasanaeth*
  • yn apêl gan drydydd parti yn erbyn 'penderfyniad a wnaed yn briodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eithrio pan fo’r trydydd parti hwnnw’n fusnes a reoleiddir sy’n codi apêl anffurfiol
  • yn fodd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi ‘a wnaed yn briodol’
  • yn fodd i grwpiau/sefydliadau lobïo geisio hyrwyddo achos

Hefyd, nid yw’r polisi hwn yn berthnasol os yw’r mater yn ymwneud â:

  • mater Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR), Rhyddid Gwybodaeth (FOI) neu Reoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (o dan yr amgylchiadau hyn, dylech gysylltu ag accesstoinformationteam@naturalresourceswales.gov.uk)
  • unioni drwy gyfrwng achosion cyfreithiol

*Os ydych yn cysylltu â ni am wasanaeth am y tro cyntaf, nid yw'r polisi hwn yn berthnasol oherwydd dylid rhoi cyfle i ni ymateb i’ch cais yn y lle cyntaf. Os byddwch yn gwneud cais am wasanaeth ac yna'n anhapus â'n hymateb, byddwch yn gallu mynegi eich pryder yn unol â'r polisi hwn.

Egwyddorion allweddol

Bydd cwynion a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu trin yn y fath fodd fel mai’r achwynydd yw’r ffocws ac nid y broses ei hun. Byddwn yn defnyddio’r egwyddorion canlynol wrth ymdrin â chwynion:

Yn hygyrch ac yn syml

  • Byddwn yn cyhoeddi ein polisi a’n gweithdrefn ynglŷn â sut i wneud cwyn a’r ffordd yr ymdrinnir â hi
  • Bwriedir i’r polisi a’r weithdrefn fod yn hawdd eu deall a’u dilyn – i’r cyhoedd ac i staff.

Yn deg ac yn ddiduedd

  • Byddwn yn ymdrin â phryderon mewn ffordd agored a diduedd.
  • Caiff achwynwyr eu sicrhau na fydd gwneud cwyn yn effeithio’n negyddol ar eu cyswllt gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.

Yn amserol, effeithiol a chyson

  • Byddwn yn ymdrechu i sicrhau, lle bo’n briodol ac yn bosibl, y dylai staff rheng flaen geisio datrys cwynion eu hunain yn unol â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Ein prif egwyddor fydd 'Ymchwilio Unwaith, Ymchwilio'n Dda' - pan fydd angen ymchwiliad ffurfiol i gŵyn, dylid gwneud hyn yn drylwyr i sefydlu ffeithiau'r achos.
  • Byddwn yn delio â'ch pryderon cyn gynted â phosibl ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses.

Yn atebol

  • Byddwn yn rhoi esboniad gonest, seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhoi rhesymau dros benderfyniadau
  • Pan ganfyddir bod cyfiawnhad i bryderon, fel y bo’n briodol byddwn yn:
    • cydnabod camgymeriadau
    • ymddiheuro mewn ffordd ystyrlon
    • unioni pethau
    • darparu camau unioni prydlon, priodol a chymesur
  • Sicrhau bod achwynwyr yn cael gwybod am eu hawl i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (neu am lwybrau priodol eraill sy’n agored iddynt, er enghraifft, Comisiwn y Gymraeg mewn perthynas â chwynion am gydymffurfio â Chynlluniau Iaith Gymraeg a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

Sicrhau gwelliant parhaus

  • Byddwn yn ceisio casglu gwersi a ddysgwyd o gwynion a defnyddio'r wybodaeth honno i sicrhau gwelliant parhaus yn y gwasanaeth a ddarperir.

Camau Cwynion

Mae dau gam i bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer delio â chwynion. Ategir y rhain gan yr egwyddorion a amlinellir uchod:

Cam 1 - Datrys Anffurfiol

Fel sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym gyfrifoldeb i ystyried unrhyw gwynion am ddiffyg gwasanaeth neu unrhyw bryderon ehangach am y gwasanaeth o ddifrif.

Mae'r cam hwn yn cynnig y cyfle i ymgysylltu'n anffurfiol ar y pwynt darparu gwasanaeth i ddatrys cwynion naill ai ar yr adeg y mae'r pryder yn codi neu'n fuan iawn wedi hynny. Mewn llawer o achosion, yr unig gam fydd ei angen fydd esboniad neu gamau gweithredu adferol priodol eraill gan staff rheng flaen. Yn ddelfrydol, bydd unrhyw bryderon gan fusnesau neu unigolion a reoleiddir ynghylch ein penderfyniadau rheoleiddio hefyd yn cael eu datrys drwy'r dull hwn, cyn i apeliadau ffurfiol gael eu cyflwyno.

Cam 1 Amser Ymateb – ein nod yw ymateb ar unwaith i bryderon a godwyd mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir ac mae cyswllt uniongyrchol (wyneb yn wyneb, dros y ffôn) â'r cyhoedd a chwsmeriaid yn debygol o fod yn fwyaf effeithiol wrth gyflawni'r datrysiad dymunol. Dylid cwblhau Cam 1 cyn gynted â phosibl ac ni ddylai gymryd mwy na deg diwrnod gwaith.

Os nad yw'n bosibl datrys y pryder o fewn yr amserlen hon, bydd y cwynion yn cael eu trosglwyddo i'r cam ymchwilio ffurfiol.

Os nad yw hyn yn effeithiol a bod y gŵyn yn cael ei ffurfioli yna gwneir asesiad o ddifrifoldeb a chymhlethdod tebygol y gŵyn.

Sut i fynegi pryder neu gwyno

Gallwch fynegi eich pryder mewn unrhyw un o'r ffyrdd isod.

  • Gallwch gysylltu â'n Hwb Cwsmeriaid: 0300 065 3000 os ydych am wneud eich cwyn dros y ffôn.
  • Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gallwch anfon e-bost atom yn complaintsandcommendations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • Gallwch ysgrifennu llythyr atom yn y cyfeiriad canlynol:

Cwynion
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Cam 2 - Ymchwiliad Mewnol Ffurfiol

Ar gyfer cwynion sy'n cyrraedd y cam hwn, byddwn yn mabwysiadu'r egwyddor o 'ymchwilio unwaith, ymchwilio'n dda'. Byddwn yn ymdrin yn drylwyr â'r pryderon a godwyd gan fod yn hyblyg i ymchwilio iddynt mewn modd sy'n gymesur â graddau cymhlethdod y gŵyn.

Ymchwiliadau Ffurfiol ar Gam 2 – bydd cwynion difrifol neu gwynion heb eu datrys yn cael eu cydnabod o fewn pum diwrnod gwaith.  Rhoddir ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, er y gallwn ymestyn yr amser ymateb hwn mewn rhai amgylchiadau. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn:

  • rhoi gwybod i chi o fewn yr amser hwn pam y credwn y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio
  • dweud wrthych faint o amser y disgwyliwn iddo gymryd
  • rhoi gwybod i chi ble rydym wedi cyrraedd gyda'r ymchwiliad, a
  • rhoi diweddariadau rheolaidd i chi, gan gynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol

Canlyniad

Mewn ymateb i gŵyn ffurfiol byddwn yn esbonio sut a pham y daethom i'n casgliadau. Os byddwn yn canfod ein bod wedi gwneud pethau'n anghywir, byddwn yn dweud wrthych beth ddigwyddodd a pham. Os byddwn yn canfod bod nam yn ein systemau neu'r ffordd rydym yn gwneud pethau, byddwn yn dweud wrthych beth ydyw a sut rydym yn bwriadu newid pethau i'w atal rhag digwydd eto. Os bydd angen, byddwn yn cynhyrchu adroddiad hirach. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn bob amser yn ymddiheuro.

Unioni Pethau

Os na wnaethom ddarparu gwasanaeth y dylech fod wedi'i gael, byddwn yn anelu at ei ddarparu nawr os yw hynny'n bosibl. Os na wnaethom rywbeth yn dda, byddwn yn ceisio unioni'r sefyllfa. Os ydych ar eich colled o ganlyniad i gamgymeriad ar ein rhan ni, byddwn yn ceisio eich rhoi yn ôl yn y sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe baem wedi gwneud pethau'n iawn.

Ymchwiliadau Cam 2 fydd safbwynt terfynol y sefydliad ar y mater. Ni fydd llwybr apelio pellach o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd ein cyfathrebiad yn ei gwneud yn glir mai i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gwneir unrhyw apêl.

Amser wedi mynd heibio

Byddwn ond yn gallu edrych ar eich pryderon os byddwch yn dweud wrthym amdanynt o fewn 6 mis i sicrhau eich pryderon tra bod y materion yn dal yn ffres ym meddwl pawb.

Efallai y bydd amgylchiadau eithriadol y byddwn yn edrych ar bryderon a ddaw i'n sylw yn ddiweddarach na hyn. Bydd angen rhesymau cryf arnom pam nad ydych wedi gallu dod ag ef i'n sylw yn gynharach a darparu digon o wybodaeth am y mater i'n galluogi i'w ystyried yn iawn. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw bryderon am faterion a ddigwyddodd fwy na thair blynedd yn ôl, waeth beth fo’r amgylchiadau.

Ar gyfer apeliadau y mae busnes a reoleiddir yn dymuno eu codi’n anffurfiol yn erbyn ein penderfyniadau rheoleiddio, rhaid i’r rhain gael eu cofrestru o fewn 15 diwrnod i’r dyddiad y gwnaethom gadarnhau ein penderfyniad yn ysgrifenedig i chi.

Cwynion yn ymwneud ag Achosion Cyfreithiol neu Ddisgyblu eraill

Yn achlysurol, bydd cwynion a dderbynnir yn cynnwys achosion cyfreithiol neu ddisgyblu. Efallai y bydd angen gohirio ymchwiliad i gŵyn hyd nes y daw'r achos hwnnw i ben.

Cwynion yn ymwneud ag ymddygiad staff

Bydd cwynion gan gynnwys agwedd Ymddygiad Staff yn cael eu hymchwilio o dan Bolisi Cwynion CNC i ystyried a yw’r dystiolaeth a ddarparwyd yn awgrymu bod ymddygiad priodol wedi’i dorri ar gyfer staff gwasanaethau cyhoeddus.

Cwynion yn ymwneud â mwy nag un darparwr gwasanaeth

Mae yna adegau pan fydd cwyn a dderbynnir yn ymwneud â mwy nag un sefydliad ac yn yr achosion hyn byddwn yn gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda'r sefydliadau eraill dan sylw.

Cwynion ynghylch gwasanaethau sydd wedi'u contractio allan

Os yw'r gŵyn yn ymwneud â sefydliad sy'n gweithio ar ein rhan (e.e. contractwyr) efallai y byddwch am godi'r mater yn anffurfiol gyda nhw yn gyntaf. Fodd bynnag, os ydych am fynegi eich pryder neu gŵyn yn ffurfiol, byddwn yn ymchwilio i hyn ac yn ymateb i chi.

Lle rydym wedi contractio darpariaeth gwasanaeth i sefydliadau preifat/gwirfoddol, byddwn yn sicrhau bod eglurder ynghylch ymdrin â chwynion yn y gwasanaeth a ddarperir.

Dysgu gwersi

Rydym yn cymryd eich pryderon a’ch cwynion o ddifrif ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau a wnaethom. Mae ein huwch dîm rheoli yn ystyried crynodeb o'r holl gwynion bob chwarter yn ogystal â manylion unrhyw gwynion difrifol. Bydd ein Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn ystyried ein hymateb i gwynion o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Lle mae angen newid, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu sy'n nodi'r hyn y byddwn yn ei wneud, pwy fydd yn ei wneud ac erbyn pryd y bwriadwn ei wneud. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y newidiadau rydym wedi'u haddo wedi'u gwneud.

Beth os bydd angen help arnaf

Bydd ein staff yn ceisio eich helpu i fynegi eich pryderon i ni. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, byddwn yn ceisio eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu. Efallai y byddwch am gysylltu â gwasanaeth eiriolaeth annibynnol a allai eich cynorthwyo. Mae rhagor o wybodaeth am Gyrff eiriolaeth a chynghori ar gael ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ombwdsmon

Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn yng Ngham 2, gallwch ei huwchgyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth a gall ymchwilio i’ch cwyn os credwch eich bod chi’n bersonol, neu’r person yr ydych yn cwyno ar ei ran:

  • wedi cael eu trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran y corff sy’n ei ddarparu
  • wedi bod dan anfantais bersonol oherwydd methiant gwasanaeth neu wedi cael eu trin yn annheg.

Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddwyn eich pryderon i’n sylw yn gyntaf a rhoi cyfle i ni unioni pethau. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon drwy:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae

Pencoed

CF35 5LJ

Mae yna sefydliadau eraill hefyd sy'n ystyried cwynion. Er enghraifft, Comisiwn y Gymraeg am wasanaethau yn Gymraeg neu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Gallwn eich cynghori am sefydliadau o'r fath.

Beth rydyn ni'n ei ddisgwyl gennych chi

Nid ydym yn ystyried bod penderfyniad i fynd ar drywydd cwyn neu gryfder teimlad am safonau ein gwasanaeth yn amhriodol ac rydym yn cydnabod y gall rhai pobl ymddwyn yn groes i'w cymeriad ar adegau o drafferth neu drallod. Fodd bynnag, bydd unrhyw weithredoedd gan y rhai sy’n codi pryderon neu’n gwneud cwyn, sy’n ddig, yn or-feichus neu’n barhaus yn wyneb ymatebion rhesymol, yn cael eu hystyried yn ofynion afresymol ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn ystyried bod y camau gweithredu canlynol, yn enwedig o’u cyfuno â phersonoli diffygion canfyddedig mewn safonau gwasanaeth i aelodau unigol o staff, yn annerbyniol:

  • Bygythiadau
  • Camdriniaeth eiriol bersonol
  • Anfoesgarwch
  • Gwahaniaethu
  • Honiadau di-sail
  • Ymddygiad ymosodol cyffredinol wedi'i gyfeirio at staff Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Naws neu ddull annerbyniol a ddefnyddir mewn cyfathrebiadau mewn perthynas â chŵyn

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall dyfalbarhad cyfreithlon wrth fynd ar drywydd cwyn ddod i mewn i ofynion afresymol ac annerbyniol. Gall yr amgylchiadau hyn fod yn berthnasol pan:

  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgelu’r holl wybodaeth berthnasol ac mae’r achwynydd bellach yn gwneud galwadau afresymol y tu hwnt i gwmpas y gŵyn gychwynnol
  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dihysbyddu ei allu i ymateb, yn dilyn ymatebion cynharach a ddarparwyd i’r safon uchaf posibl sydd wedi’u hanwybyddu neu eu diystyru a wrthodwyd.

Neu'r achwynydd:

  • Yn gwrthod yn barhaus i dderbyn penderfyniad a wnaed mewn perthynas â chwyn
  • Yn gwrthod yn barhaus i dderbyn esboniadau sy’n ymwneud â’r hyn y gall neu na all Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud
  • Parhau i ddilyn cwyn heb gyflwyno unrhyw wybodaeth newydd

Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn bod rhai neu unrhyw rai o’r nodweddion hyn yn berthnasol, yna rydym yn cadw’r hawl i nodi i’r achwynydd y dylai pob cyswllt â Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol fod yn ysgrifenedig neu drwy gynrychiolydd. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i nodi y bydd pob gohebiaeth yn y dyfodol yn cael ei darllen a'i ffeilio ond dim ond yn cael ei chydnabod ac yn ymateb iddi os yw'r achwynydd yn darparu gwybodaeth newydd arwyddocaol yn ymwneud â'i achos.

Mewn achosion eithriadol, gall dyfalbarhad afresymol effeithio ar ein gallu i ddarparu ein gwasanaeth arferol. Gan ddibynnu ar faint o ohebiaeth neu reoleidd-dra cyfathrebiadau ffôn, mae’n bosibl y byddwn yn nodi, ar ôl ystyried yn ofalus, ein bod yn mynnu bod pob gohebiaeth bellach â Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei chyflwyno’n ysgrifenedig yn ystod adolygiad neu ymchwiliad i gŵyn. Ni fydd hyn yn berthnasol i alwadau sy'n ymwneud â digwyddiadau amgylcheddol. I adrodd am ddigwyddiad amgylcheddol:

Ffoniwch 0300 065 3000, 24 awr y dydd

Dewiswch opsiwn 1 ar gyfer Cymraeg a 2 ar gyfer Saesneg.

Canmoliaeth

Er ein bod yn ymdrechu i ddysgu o gwynion, hoffem hefyd gydnabod yr agweddau cadarnhaol ar y gwasanaethau a ddarparwn a chydnabod Canmoliaeth. Rydym yn ystyried gwasanaeth cwsmeriaid da iawn “yn annatod”, felly rydym yn falch o nodi pob achos pan oedd ein gwasanaeth yn cael ei weld fel rhywbeth “tu hwnt i’r disgwyliadau”.

Anogir pob cwsmer ac aelod o'r cyhoedd i gyflwyno canmoliaeth yn ymwneud â'r gwasanaethau a ddarparwyd gennym. Mae'n bwysig cydnabod bod llwyddiant ein sefydliad yn dibynnu ar gyfranogiad a gweithredoedd gweithwyr.

Gallwch gymeradwyo gweithiwr wyneb yn wyneb, drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost at complaintsandcommendations@naturalresourceswales.gov.uk neu ysgrifennu at:

Canmoliaeth

Maes y Ffynnon

Penrhosgarnedd

Bangor

Gwynedd

LL57 2DW

Cwblhewch y ffurflen Canmoliaeth os yw'n well gennych.

Preifatrwydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon pellach, cysylltwch â dataprotection@naturalresourceswales.gov.uk. Gweler ein polisi preifatrwydd sy'n disgrifio sut rydym yn casglu, defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth.

Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat a/neu iaith arall, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Perchennog

Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Fersiwn

Adolygwyd ddiwethaf – Ebrill 2023.

I'w adolygu bob dwy flynedd. Gwneir diwygiadau'n gynharach lle bydd newid perthnasol i ddeddfwriaeth neu i anghenion busnes, ac yn sgil cynnal trafodaethau â'r undebau llafur cynrychiadol.​

Mannau eraill yng Cysylltu â ni

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf