Polisi gwrth-dwyll

Mae'r polisi hwn yn gymwys i bob aelod o staff, staff anweithredol (h.y. aelodau o'r Bwrdd), contractwyr, cleientiaid neu unrhyw unigolyn arall sy'n gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Deddf Twyll 2006

Mae twyll yn drosedd, a gall y cosbau a gwmpesir gan y ddeddf olygu hyd at 10 mlynedd o garchar. Mae cosbau ychwanegol yn cynnwys y posibilrwydd o ddirwy ddiderfyn ac atafaelu asedau.

Diffinio twyll

Mae twyll yn fath o weithgarwch troseddol. Mae'n weithred o ddichell er elw personol neu er mwyn achosi colled i barti arall. Mae Deddf Twyll 2006 yn disgrifio tri phrif drosedd o ran twyll.

Twyll drwy ymhoniad anwir

Dyma pryd y bydd rhywun yn gwneud ymhoniad anwir, gan wybod bod yr ymhoniad yn anwir neu’n gamarweiniol neu y gallai fod, gyda'r bwriad o wneud elw neu achosi colled.

Twyll drwy fethu â datgelu gwybodaeth

Dyma pryd y bydd rhywun yn methu â datgelu gwybodaeth i unigolyn pan roeddent o dan ddyletswydd gyfreithiol i ddatgelu'r wybodaeth honno, gyda'r bwriad o wneud elw neu achosi colled.

Twyll drwy gamddefnyddio statws

Dyma pryd y bydd rhywun sydd â statws, lle mae disgwyl iddynt ddiogelu, neu beidio â gweithredu yn erbyn buddiannau ariannol unigolyn arall, yn camddefnyddio'r statws hwnnw, gyda'r bwriad o wneud elw neu achosi colled. Gall y camddefnydd gynnwys hepgoriad yn hytrach na weithred.

Ein hymrwymiad i chi

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi unrhyw un sy'n codi pryderon gwirioneddol didwyll o dan y polisi hwn, hyd yn oed os canfyddir nad oeddent yn gywir.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i sicrhau na fydd unrhyw un yn dioddef triniaeth andwyol o ganlyniad i wrthod cymryd rhan mewn gweithgarwch twyllodrus, neu o ganlyniad i adrodd ei amheuon didwyll fod trosedd o dwyll gwirioneddol neu bosibl wedi digwydd, neu fod posibilrwydd iddi ddigwydd.

Byddwn yn ymchwilio i unrhyw achos o rwystro neu atal rhywun rhag adrodd yn yr amgylchiadau hyn, ac yn ymdrin ag ef yn unol â Pholisi a Gweithdrefn Rheoli Camymddwyn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfrifoldebau

Mae pob aelod o staff neu unigolyn sy'n gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am lwyddiant y polisi hwn.

Caiff unrhyw achos o fethu â chydymffurfio ei drin fel trosedd ddisgyblaethol a gallai arwain at ddwyn achos troseddol.

Cyfrifoldebau staff

  • Dylech adrodd unrhyw bryderon neu amheuon ar unwaith drwy eich cadwyn rheoli llinell ac yn uniongyrchol i'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol (os yw eich amheuon yn cynnwys eich rheolwr llinell neu'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol, neu os nad ydych yn teimlo bod eich cyhuddiad yn derbyn sylw priodol, mae'n rhaid i chi ei uwchgyfeirio i fyny'r gadwyn rheoli llinell neu gyfeirio at ein polisi chwythu'r chwiban).

  • Byddwch yn effro i'r posibilrwydd y gallai digwyddiad neu drafodyn anarferol fod yn arwydd o weithgarwch twyllodrus.

  • Cydweithiwch yn llawn â phwy bynnag sy'n cwblhau gwiriadau mewnol, adolygiadau neu ymchwiliadau twyll.

  • Cwblhewch bob hyfforddiant gorfodol yn ôl y cyfarwyddyd.

Cyfrifoldebau rheolwr llinell

Yn ogystal â'i gyfrifoldebau fel y'u nodwyd uchod, rhaid i bob rheolwr llinell wneud y canlynol:

  • Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer ei staff er mwyn adrodd unrhyw bryderon am weithgarwch twyllodrus.

  • Asesu'r mathau o risgiau mewn perthynas â'i faes cyfrifoldeb a sicrhau bod rheolaethau'n gymesur ac y cydymffurfir â hwy.

  • Adolygu a phrofi'r holl reolaethau sy'n berthnasol i'w faes gwaith yn rheolaidd, yn gymesur â lefel y risg.

  • Sicrhau bod pawb sy'n atebol yn uniongyrchol iddo wedi darllen a deall y polisi hwn.

  • Sicrhau bod pawb sy'n atebol yn uniongyrchol iddo'n cwblhau eu hyfforddiant gorfodol yn ôl y cyfarwyddyd.

Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol a'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol yn darparu cyngor ac arweiniad i reolwyr llinell fel y bo'n briodol.

Cyfrifoldebau'r Cynghorydd Llywodraethu Ariannol

  • Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer adrodd unrhyw bryderon am weithgarwch twyllodrus.

  • Cysylltu â staff perthnasol mewn perthynas ag unrhyw gyhuddiadau.

  • Darparu cyngor yn ôl yr angen er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi gwrth-dwyll.

  • Adolygu'r polisi gwrth-dwyll a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig pan fydd newidiadau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodloni ei ofynion deddfwriaethol. 

  • Cofnodi a chadw trosolwg o bob achos lle ceir amheuaeth o dwyll, gan sicrhau yr hysbysir y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) am bob achos yn gyson.

Cyfrifoldebau'r Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

  • Adolygu pob achos honedig o dwyll.

  • Cymeradwyo unrhyw waith angenrheidiol i benderfynu a yw'n ofynnol cynnal ymchwiliad ffurfiol.

  • Cymeradwyo cychwyn pob ymchwiliad ffurfiol.

  • Cymeradwyo dod ag unrhyw ymchwiliad ffurfiol i ben.

Cyfrifoldebau Archwilio Mewnol

Darparu gwerthusiad gwrthrychol o ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu, asesiad risg a rheolaeth y sefydliad i'r Swyddog Cyfrifyddu, a darparu barn arnynt.

Cyfrifoldeb dros y polisi gwrth-dwyll

Mae'r Swyddog Cyfrifyddu'n gyfrifol am sefydlu'r system reolaeth fewnol sydd wedi'i dylunio i wrthsefyll y risgiau y mae'r busnes yn eu hwynebu. Mae'n atebol am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hyn.

Mae'r Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi hwn yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol. Mae hefyd yn gyfrifol am weithredu'r polisi hwn, monitro'i effeithiolrwydd a sicrhau bod pwynt cyswllt yn ei le er mwyn ymdrin ag unrhyw ymholiadau mewn perthynas â dehongli'r polisi.

Adrodd amheuon neu bryderon

Ebost: ReportFraud@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyfeiriad:

Tîm Archwilio Mewnol

Ty Cambria

29 Heol Casnewydd

Caerdydd

CF24 0TP

Diweddarwyd ddiwethaf