Sut i wneud cais am grant

Bydd angen i chi gwblhau pedair rhan o’r ffurflen a lanlwytho dogfennau.

Gallwch ei chadw unrhyw bryd a pharhau i weithio arni yn ddiweddarach.

Paratoi eich cais am grant

Os ydych yn paratoi atebion i’r adrannau hyn, dylech fod yn barod i ddechrau’r cais ar-lein.

Eich cyfeirnod

Sicrhewch fod gennych gyfeirnod ar gyfer y grant yr ydych yn dymuno gwneud cais amdano. Byddwch angen hwn i anfon y ffurflen gais ar-lein. 

Rhan A: Ynglŷn â chi

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • eich enw, cyfeiriad a manylion eich sefydliad
  • rhif yr elusen, rhif TAW neu rif cofrestru’r cwmni, os yw’n berthnasol
  • cyfeiriad y wefan a manylion y cyfryngau cymdeithasol
  • manylion llofnodwyr awdurdodedig eich sefydliad
  • cadarnhad o gofrestriad TAW

Dogfennau y gall y bydd angen ichi eu uwchlwytho yn Rhan A

Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen y canlynol arnom ni:

  • copi o un o’ch biliau cyfleustodau i gadarnhau eich cyfeiriad a
  • chopi ardystiedig o’ch pasbort neu eich trwydded yrru
  • dogfennau llywodraethol (y trydeddd sector)

Rhan B: Eich cynnig

Gofynnir ichi am y manylion canlynol:

  • teitl eich prosiect
  • costau
  • faint o gyllid ydych chi’n gwneud cais amdano
  • dyddiad dechrau a gorffen eich prosiect
  • rhaid i chi gynnwys disgrifiad o’ch prosiect (800 gair ar y mwyaf) gan gynnwys:
    • Beth fyddwch yn ei wneud a pham
    • Beth yw’r angen a’r galw
    • Pam ydych chi mewn lle da i arwain hyn
    • Pwy fydd ynghlwm wrth y prosiect
    • Sut y bydd cydweithio yn cryfhau’r prosiect
    • Sut y bydd eich cynnig yn bodloni amcanion CNC ar gyfer y grant hwn.
  • Disgrifiad byr yn egluro a yw eich prosiect yn defnyddio dull arloesol (gallai hyn gynnwys arloesedd cymdeithasol neu dechnegol, neu ddefnyddio technoleg gyfredol mewn ffordd newydd). Bydd angen i chi egluro sut y mae hyn yn ychwanegu gwerth at eich cynnig?
  • ble bydd eich prosiect yn digwydd – gallwch uwchlwytho map
  • manylion unrhyw ganiatadau sy’n ofynnol ar gyfer eich prosiect
  • pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennych i ddatblygu a dylunio eich prosiect
  • beth ydych chi’n fwriadu ei wneud a phryd; beth ydych chi’n obeithio ei gyflawni a sut y byddwn yn mesur cynnydd – dyma eich cynllun prosiect manwl
  • pam ydych chi’n meddwl fod y prosiect yn cynrychioli gwerth da am arian
  • sut y bydd canlyniadau eich prosiect yn cael eu cynnal pan ddaw’r prosiect i ben a sut fyddwch chi’n ariannu unrhyw gostau rheolaidd
  • beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cael cyllid ar gyfer y prosiect hwn

Dogfennau y bydd angen i chi eu uwchlwytho yn Rhan B

Rhan C: Cyflawni a rheoli 

Bydd rhaid ichi ddweud wrthym:

  • sut y byddwch yn rheoli’r prosiect, pa un a oes gennych reolwr prosiect a sut mae eich bwrdd neu grwpiau prosiect yn gweithio (hyd at 250 gair)
  • disgrifiwch y prif risgiau a sut ydych yn bwriadu eu rheoli (hyd at 250 gair)
  • sut y byddwch yn rhoi cyhoeddusrwydd i’ch prosiect (uchafswm o 250 o eiriau)
  • a oes gennych unrhyw bartneriaid cyflawni ffurfiol a beth yw rôl y rhain yn y prosiect
  • sut y bydd pobl o gefndiroedd amrywiol ac o bob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan yn eich prosiect (uchafswm o 250 o eiriau)
  • sut y byddai eich prosiect yn hybu a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ac yn annog arferion dwyieithog da (uchafswm o 250 gair)

Dogfennau y bydd angen i chi uwchlwytho o bosibl yn Rhan C

  • Os oes gennych bartneriaid cyflawni ffurfiol, bydd angen ichi uwchlwytho copi o unrhyw gytundeb a lofnodwyd.
  • Eich polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth, os oes gennych un.

Rhan D: Cyllid

  • Er mwyn ein helpu i gadarnhau nad oes achosion o gyllido dwbl, yn yr adran hon bydd angen ichi ddweud wrthym am y cyllid arall a gadarnhawyd ar gyfer y prosiect hwn, gan gynnwys
    • a ydych wedi derbyn cyllid gan gorff cyhoeddus sy’n cyfrif fel rheoli cymhorthdal (cymorth gwladwriaethol cyn hynny) yn ystod y tair blynedd ddiwethaf a dylech uwchlwytho eich datganiad rheoli cymhorthdal os yw’n berthnasol
    • manylion unrhyw gyllid arall ar gyfer gweithgareddau a gwmpesir gan y prosiect arfaethedig hwn
    • manylion unrhyw ffynonellau cyllid eraill ydych wedi eu derbyn/y gwnaethoch gais amdanynt ar gyfer y prosiect hwn

Dogfennau y bydd angen i chi eu uwchlwytho yn Rhan D

  • Bydd angen i chi uwchlwytho manylion costau’r prosiect gan ddefnyddio ein templed. Dysgu sut i gwblhau manylion y costau a chael templed.
  • Os ydych yn sefydliad sydd newydd ffurfio ers llai na chwe mis ac nad oes gennych set o gyfrifon, bydd angen y canlynol arnom ni:
    • cyfriflenni banc a chysoniad banc ar gyfer y tri mis diwethaf, neu
    • lythyr gan y banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif
  • Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen y canlynol arnom ni, eich cyfriflenni banc ar gyfer y tri mis diwethaf
  • Polisi caffael, os oes gennych un
  • Eich datganiad rheoli cymorthdaliadau, os yn berthnasol
  • Os oes gennych gyfrifon micro-gwmni neu os yw eich cyfrifon statudol yn fwy na chwe mis oed, bydd angen eich cyfrifon rheoli arnom ni 

Datganiad o ddiddordeb

Cadarnhewch a ydych chi neu unrhyw un sy’n gyfrifol am lofnodi/cymeradwyo eich cais yn perthyn neu’n gysylltiedig ag unrhyw swyddog, gweithiwr neu aelod o fwrdd CNC, ac os ‘oes’ rhowch fanylion.

Rhestr wirio - cadarnhau

Ticiwch y blychau i fynd ymlaen i’r dudalen olaf a rhowch y cyfeiriad e-bost yr hoffech chi i gopi o’ch cais gael ei anfon iddo.

Dechreuwch eich cais ar-lein


Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a fu’ch cais yn llwyddiannus o fewn pedwar mis i dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.

Os bydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth gennych chi, byddwn mewn cysylltiad.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon llythyr dyfarnu atoch. Bydd yn dweud wrthych faint y byddwn yn ei dalu i chi a phryd.

Mae llawer o gystadleuaeth am ein cyllid ac mae llawer mwy o geisiadau’n dod i law nag yr ydym yn gallu eu cefnogi.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn egluro pam i chi. Yn anffodus ni allwn roi adborth penodol ar bob cais.

Cyflwyno adroddiadau cynnydd

Byddwn yn gofyn i chi anfon adroddiadau rheolaidd atom drwy gydol y prosiect fel y gallwn ryddhau’r cyllid i chi. Byddwn yn cytuno ar gyfnodau cyflwyno adroddiadau â chi yn seiliedig ar eich cynllun cyflawni’r grant.

Mater i chi yw dweud wrthym am berfformiad a chynnydd eich prosiect.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd angen i chi anfon adroddiad terfynol atom ni.

Efallai y byddwn hefyd yn gwerthuso’ch prosiect dair blynedd ar ôl iddo ddod i ben. Mae hyn yn gyfle i chi fydd dweud wrthym sut mae eich prosiect yn cyflawni newidiadau tymor hwy y gallech fod wedi dweud wrthym amdanynt.

Os oes angen cymorth arnoch

Cysylltwch â ni ar unrhyw adeg o’ch cais os ydych yn teimlo eich bod ar goll neu’n ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf.

E-bost: grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf