Adroddiad atebolrwydd 2020/21

Mae ein Hadroddiad Atebolrwydd yn amlinellu prif nodweddion o ran sut rydym yn rheoli ein sefydliad. Mae ganddo dair adran.

Yn y tudalennau canlynol, bydd ein Hadroddiad Llywodraethu Corfforaethol yn egluro pwy yw ein Bwrdd a'n tîm uwch-reoli, sut maen nhw'n gweithio, a'r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu rheoli a'u goruchwylio'n effeithiol er mwyn cyflawni ein hamcanion.

Mae ein Hadroddiad Cyflogau a Staff yn disgrifio sut rydym yn ymdrin â chyflogau'r Bwrdd ac uwch-reolwyr yn ogystal â darparu trosolwg o gyfansoddiad ein staff.

Mae ein Hadroddiad Atebolrwydd Seneddol ac Archwilio yn dwyn ynghyd gofynion ychwanegol y gofynnir amdanynt i ddangos ein hatebolrwydd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rheoleidd-dra gwariant, a'r farn a roddwyd gan ein harchwilydd.

Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol

Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Caiff y Prif Weithredwr ei gefnogi gan dîm o Gyfarwyddwyr Gweithredol a Chyfarwyddwyr sy'n dod ynghyd i ffurfio'n Tîm Gweithredol.  Ymunodd dau Gyfarwyddwr Gweithredol newydd â ni ym mis Medi 2020: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol.

Swydd Deiliad y swydd Hyd gwasanaeth yn y Tîm Gweithredol

Prif Weithredwr

Clare Pillman

26 Chwefror 2018 i presennol

Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Ceri Davies  

1 Ebrill 2013 i presennol

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Kevin Ingram

1 Ebrill 2013 i 9 Ebrill 2020

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Rachael Cunningham

7 Medi 2020 i presennol

Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau

Gareth O’Shea

27 Ebrill 2015 i presennol

Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Prys Davies

1 Ebrill 2019 i presennol

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Sarah Jennings

7 Medi 2020 i presennol


Mae Cofrestr Buddiannau ein Tîm Gweithredol fel ym Mawrth 2021 wedi'i chynnwys yma:

Enw Swydd Buddiant Unigolyn Rôl

Clare Pillman

Prif Weithredwr

Dim buddiannau i'w datgan

Dim buddiannau i'w datgan

Dim buddiannau i'w datgan

Ceri Davies

Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth

Personol

Aelod o Fwrdd Cynghori FLEXIS, prosiect a ariennir gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru sy'n cefnogi ymchwil i ynni yng Nghymru.

Ceri Davies

Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Arall

Personol

Aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff

Prys Davies

Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth

Personol

Llywodraethwr Ysgol, Ysgol Pen-cae, Caerdydd

Gareth O’Shea

Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau

Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth

Personol

Aelod o banel cyllido annibynnol yn ardal Merthyr Tudful i werthuso ac argymell ceisiadau prosiect ar ran y rhaglen Buddsoddi Lleol a ariennir gan yr UE.

Rachael Cunningham

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth

Personol

Ymddiriedolwr elusen Chwarae Teg

Sarah Jennings

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth

Personol

Ymddiriedolwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Sarah Jennings

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth

Personol

Ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Cymru


Gofrestr Buddiannau ar gyfer aelodau o’n bwrdd.

Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Mae paragraff 23 (1) o'r Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, Ddatganiad o Gyfrifon ar y ffurf a sail a amlinellir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau, a rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru ac o'r incwm a gwariant, y newidiadau yn ecwiti trethdalwyr, a'r llifoedd arian ar gyfer y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi'r cyfrifon, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth a gwneud y canlynol:

  • cadw at y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol
  • nodi a ddilynwyd y safonau cyfrifyddu perthnasol a nodwyd yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, a datgelu ac egluro unrhyw amrywiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol
  • paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw
  • cadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad oedd archwilwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol ohoni, a chymryd pob cam i wneud ei hunan yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o'r wybodaeth honno
  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol amdanynt ac am y dyfarniadau sydd eu hangen i bennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.

Mae Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol Llywodraeth Cymru wedi dynodi Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru fel ei Swyddog Cyfrifyddu. Cyfrifoldebau'r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, yw sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'n atebol amdano; cadw cyfrifon priodol; gweinyddu mewn modd darbodus ac economaidd; osgoi gwastraff a gorwario; a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac effeithiol, fel y nodwyd yn y Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Cyfoeth Naturiol Cymru.

Datganiad Llywodraethu

Mae'r datganiad hwn yn nodi'r strwythurau llywodraethu, rheolaethau mewnol a fframweithiau sicrwydd sydd wedi bod ar waith yn CNC yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21 ac mae’n cyd-fynd â chanllawiau Trysorlys ei Mawrhydi a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel y Swyddog Cyfrifyddu dynodedig ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, fy rôl hefyd yw diogelu arian cyhoeddus ac asedau sefydliadol drwy roi trefniadau ar waith ar gyfer llywodraethu ein materion ac arfer ein swyddogaethau mewn modd effeithiol. Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn ddarlun gwir a theg o sut mae'r sefydliad wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn hon. Cadarnhaf hefyd nad oes gwybodaeth heb ei chasglu sydd wedi dod i'm sylw, neu wybodaeth yr wyf yn ymwybodol ohoni, nad yw wedi cael ei chyflwyno er sylw Archwilio Cymru.

Ein strwythur llywodraethu

Mae ein strwythur sefydliadol yn dangos sut rydym wedi'n sefydlu i weithio a chyflawni ein hamcanion.

Penodir aelodau ein Bwrdd gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus, ac felly mae ein cadeirydd yn atebol i'n Gweinidog nawdd yn Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae gennym 12 o aelodau bwrdd sy’n cael cyflogau, dan arweiniad ein cadeirydd, Syr David Henshaw, gyda deg aelod anweithredol a finnau fel aelod gweithredol o'r Bwrdd. Yr Athro Steve Ormerod yw is-gadeirydd penodedig CNC a Julia Cherrett yw'r Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol. Cyflwynwyd y rôl Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol i gefnogi'r cadeirydd yn ei rôl, gweithredu fel cyfryngwr ar gyfer cyfarwyddwyr anweithredol pan fo angen, arwain y cyfarwyddwyr anweithredol wrth oruchwylio'r cadeirydd, a sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu’n glir rhwng y cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Roedd un newid i'n Bwrdd eleni, sef ymddiswyddiad Mr Chris Blake o'i rôl fel cyfarwyddwr anweithredol y Bwrdd ym mis Chwefror 2021.

Yn dilyn proses recriwtio allanol, penodwyd Colette Fletcher i'r rôl Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd o fis Hydref 2020.

I wneud ein dyletswyddau, rydym yn cwrdd fel Bwrdd llawn gyda chraffu ychwanegol yn cael ei wneud gan chwe phwyllgor. Mae ein Tîm Gweithredol yn darparu diweddariadau strategol a gweithredol i'n Bwrdd a'n pwyllgorau o ran craffu a gwneud penderfyniadau yn ôl y gofyn.

Caiff pob pwyllgor ei gadeirio gan aelod o'r Bwrdd ac, heblaw am y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth, mae pob un yn cynnwys o leiaf tri aelod anweithredol arall o'r Bwrdd. Mae gan aelodau anweithredol eraill o'r Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau heb hawliau pleidleisio. Nid oes gennym Bwyllgor Enwebu, gan fod ein haelodau bwrdd anweithredol yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu meysydd ffocws gwaith a phresenoldeb ar ein Bwrdd a'n pwyllgorau.

Lle mae cyfnod dilynol wedi'i gymeradwyo, mae wedi'i adlewyrchu yn y 'Dyddiad gorffen cyfredol' yn y tabl. Lle mae hyn yn berthnasol, mae'r term wedi'i farcio â *

Aelodau anweithredol Cyfnod Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen cyfredol

Syr David Henshaw (cadeirydd)

1

1 Tachwedd 2018

31 Hydref 2023

Yr Athro Steve Ormerod

1

1 Tachwedd 2018

31 Hydref 2022

Karen Balmer

2

9 Tachwedd 2015

8 Tachwedd 2022

Chris Blake

2

9 Tachwedd 2015

24 Chwefror 2021

Catherine Brown

1

1 Tachwedd 2018

31 Hydref 2022

Julia Cherrett

1*

1 Tachwedd 2018

31 Hydref 2025

Geraint Davies

1

1 Ionawr 2019

31 Hydref 2024

Howard Davies

2

9 Tachwedd 2015

31 Awst 2021

Dr Elizabeth Haywood

2

9 Tachwedd 2015

31 Awst 2021

Zoe Henderson

2

9 Tachwedd 2015

8 Tachwedd 2022

Dr Rosie Plummer

1*

1 Tachwedd 2018

31 Hydref 2024

Yr Athro Peter Rigby

1*

1 Tachwedd 2018

31 Hydref 2023

 

Ein strwythur gweithrediaeth. Esboniwyd y manylion yn y testun cyfagos

Cyfarfodydd y Bwrdd

Cynhaliom chwe chyfarfod deuddydd ac un diwrnod datblygu eleni – cynhaliwyd pob un ohonynt yn rhithwir. Mae'r eitemau sefydlog ar ein hagenda yn cynnwys y canlynol: cyllid yn ystod y flwyddyn; adrodd ar berfformiad; ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur; a diweddariadau strategol a gweithredol gan y cadeirydd, y Prif Weithredwr a phwyllgorau.

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth ynghylch ein gwaith ar ein gwefan, gan gynnwys papurau i'w hystyried gan y Bwrdd cyn y cyfarfodydd hynny a gynhelir yn gyhoeddus. Mae papurau Bwrdd yn cael eu paratoi gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac maent yn destun craffu a chymeradwyaeth fewnol cyn cyfarfodydd Bwrdd.

Mae holl ddyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ac agendâu blaenorol ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â'r papurau a'r cofnodion o'n sesiynau cyhoeddus. Mae Tîm Gweithredol CNC, ein Bwrdd a'n pwyllgorau wedi parhau i gyfarfod drwy gydol y cyfyngiadau symud COVID-19 yn rhithwir. O ganlyniad y cyfyngiadau symud, nid ydym wedi gallu cwrdd yn gyhoeddus, ond o fis Medi 2020 rydym wedi caniatáu’r cyhoedd i arsylwi cyfarfodydd rhithwir. Mae'r diffyg cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi golygu nad yw'r Bwrdd wedi gallu symud o amgylch rhanbarthau gwahanol yng Nghymru fel sy'n digwydd fel arfer neu gynnig sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid fel a gynlluniwyd. Ymgysylltu allanol yw un o elfennau ein gwaith yr effeithiwyd arni fwyaf, gan arwain at oedi mewn rhaglenni ymgysylltu a hyfforddi ar raddfa fawr.

Presenoldeb aelodau Bwrdd 2020/21

Enw Presenoldeb yn y cyfarfod Presenoldeb ar ddiwrnodau datblygu

Syr David Henshaw (cadeirydd)

6 allan o 6

1 allan o 1

Yr Athro Steve Ormerod

6 allan o 6

1 allan o 1

Karen Balmer

6 allan o 6

1 allan o 1

Chris Blake

4 allan o 5

1 allan o 1

Catherine Brown

6 allan o 6

1 allan o 1

Julia Cherrett

6 allan o 6

1 allan o 1

Geraint Davies

6 allan o 6

1 allan o 1

Howard Davies

6 allan o 6

1 allan o 1

Dr Elizabeth Haywood

6 allan o 6

1 allan o 1

Zoe Henderson

6 allan o 6

1 allan o 1

Dr Rosie Plummer

6 allan o 6

1 allan o 1

Yr Athro Peter Rigby

6 allan o 6

1 allan o 1

Clare Pilman (Prif Weithredwr)

6 allan o 6

1 allan o 1


Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Prif rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yw cynghori'r Bwrdd a chynorthwyo'r Swyddog Cyfrifyddu yn y gwaith o fonitro, craffu a herio'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer archwilio, llywodraethu, rheolaethau mewnol a rheoli risg. Cadeirydd y pwyllgor hwn yw Catherine Brown. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod fel Swyddog Cyfrifyddu CNC, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Mae aelodau'r Tîm Gweithredol bellach yn mynychu'r pwyllgor i drafod unrhyw adroddiadau archwilio mewnol â sicrwydd cyfyngedig.

Y flwyddyn hon, rhoddodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sylw i amrediad o faterion, gan gynnwys y canlynol:

  • Trosolwg a llywodraethu gwerthiannau pren
  • Gwelliannau i'n dull rheoli risg
  • Cynllun Archwilio Mewnol 2020/21
  • Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2019/20 a chynlluniau ar gyfer yr adroddiad hwn, 2020/21
  • Adroddiad Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth, gan gynnwys seibergadernid

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn 2020/21

 

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd

Catherine Brown (cadeirydd)

7

7

Karen Balmer

7

7

Dr Rosie Plummer

7

7

Yr Athro Peter Rigby

7

5


Pwyllgor Pobl a Chyflogau

Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn ystyried materion sy'n ymwneud â rheoli pobl, taliadau, a newid sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros oruchwylio tâl ac amodau cyflogaeth staff ar y lefel uchaf, strategaeth dâl gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, darparu cynllun pensiwn, cynllun y sefydliad, llesiant, iechyd a diogelwch, gofal cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a datblygu cynllun y Gymraeg. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod.

Aeth y pwyllgor i'r afael ag amrywiaeth o faterion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y canlynol:

  • Cynllunio’r Sefydliad
  • Llesiant, Iechyd a Diogelwch ac Adolygiadau o Ddigwyddiadau Difrifol
  • Gwaith craffu ar bolisïau Rheoli Pobl arfaethedig
  • Recriwtio a'r broses recriwtio
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth sefydliadol

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd ar y Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn 2020/21

 

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd

Zoe Henderson (cadeirydd)

4

4

Karen Balmer

4

3

Howard Davies

4

2

Julia Cherrett

4

3


Pwyllgor Cyllid (Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad ynghynt)

Yn ystod 2020, ymgorfforwyd gwaith sawl is-grŵp y Bwrdd i'r Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad ac mae enw'r pwyllgor bellach wedi cael ei ddiwygio i'r Pwyllgor Cyllid. Mae'r pwyllgor yn darparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio busnes a pherfformiad, cynlluniau codi tâl, a materion masnachol. Wrth gyflawni ei rôl, mae'r pwyllgor yn canolbwyntio ar gyfeiriad a datblygu strategol, ond mae hefyd yn chwarae rôl wrth graffu ar berfformiad a chyflawniad.   Yn dilyn ymddiswyddiad Chris Blake fel aelod o'r Bwrdd, mae Syr David Henshaw yn gweithredu fel cadeirydd dros dro y pwyllgor nes y penodir cadeirydd newydd.

Eleni, gwnaeth y pwyllgor ystyried y canlynol:

  • Monitro perfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn
  • Adolygu cyflawniad a pherfformiad 2019/20
  • Cynllunio ariannol a busnes 2021/22
  • Adolygiad strategol o godi tâl
  • Datblygu’r Strategaeth Fasnachol
  • Cynllun Corfforaethol 2022 – 2027

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd ar y Pwyllgor Cyllid yn 2020/21

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd

Chris Blake (cadeirydd, hyd at Chwefror 2021)

7

6

Syr David Henshaw (cadeirydd dros dro, o Chwefror 2021)

1

1

Julia Cherrett

7

7

Dr Elizabeth Haywood

7

6

Dr Rosie Plummer

7

6


Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig

Mae'r Bwrdd wedi dirprwyo ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur a thirweddau gwarchodedig i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Mae aelodau o'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig hefyd yn cefnogi'r Tîm Gweithredol a'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol, gan gynnwys rheoli tirwedd, tirweddau dynodedig, a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd ar y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn 2020/21

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd

Howard Davies (cadeirydd)

4

4

Geraint Davies

4

4

Dr Elizabeth Haywood

4

4

Yr Athro Steve Ormerod

4

4

Dr Rosie Plummer

4

3


Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd (Grŵp Cynghori gynt)

Mae'r pwyllgor yn gynghorol ac mae'n adrodd i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ei brif gyfrifoldebau yw craffu ar raglenni buddsoddi Rheoli Perygl Llifogydd presennol a rhai ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac ystyried materion allweddol a allai effeithio ar gyflawni gwaith sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd yng Nghymru. Ym mis Mai 2020, newidiwyd yr enw, er mwyn sicrhau ei fod yn unol â phwyllgorau eraill y Bwrdd.

Mae'r pwyllgor fel arfer yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd ynghyd â'r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau, a'r Pennaeth Cyllid.

Gwnaeth y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd adolygu meysydd, gan gynnwys:

  • blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd
  • llywodraethu rhaglen gyfalaf rheoli perygl llifogydd
  • y cynllun tymor canolig diweddaraf ar gyfer ein rhaglen gyfalaf
  • y dangosyddion perfformiad cyfredol sy'n ymwneud â chyflwr yr asedau perygl llifogydd a gedwir gan CNC
  • ardrethi a phraeseptau Ardaloedd Draenio Mewnol ar gyfer 2021/22

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn 2020/21

 

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd

Dr Elizabeth Haywood (cadeirydd)

3

3

Chris Blake (hyd at Chwefror 2021)

3

2

Julia Cherrett

3

3

Geraint Davies

3

2


Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth

Sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn 2020 i ddarparu cyngor annibynnol a her mewn perthynas â swyddogaeth tystiolaeth CNC. Mae'r pwyllgor hefyd yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach, a chyda defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth, o brosesau tystiolaeth a blaenoriaethau.

Mae'r pwyllgor yn cynnwys dau aelod anweithredol o'r Bwrdd, saith aelod allanol annibynnol, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, a Phennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth.

Yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr 2020, trafododd y pwyllgor feysydd a oedd yn cynnwys llywodraethu tystiolaeth yn CNC a gwaith yr Adran Gwybodaeth a Thystiolaeth a'r Grŵp Tystiolaeth Integredig, a derbyniwyd cyflwyniadau yn arddangos ehangder y gweithgareddau ledled y sefydliad ynghylch meysydd o bryder cyhoeddus.

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd ar y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn 2020/21

 

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd

Yr Athro Peter Rigby (cadeirydd)

1

1

Yr Athro Steve Ormerod

1

1


Effeithiolrwydd y Bwrdd

Cafodd y Bwrdd sesiwn wedi'i hwyluso'n allanol ym mis Hydref 2020, lle trafodwyd y cynnydd a wnaed tuag at eu gweledigaeth gyfunol gytunedig.  Gwnaethant hefyd rannu’r hyn oeddent wedi ei ddysgu am eu harweinyddiaeth eu hunain ac arweinyddiaeth eraill yn ystod COVID-19.

Mae sesiwn ar y cyd, gyda'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol, wedi cael ei gohirio ddwywaith o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 oherwydd y dewis y dylid cynnal y sesiwn wyneb yn wyneb.

Ein gweithrediaeth

Caiff rheolaeth feunyddiol ein sefydliad ei chyflawni drwy'r Tîm Gweithredol, sy'n fy nghynnwys i fel Prif Weithredwr a phum Cyfarwyddwr Gweithredol a chyfarwyddwyr sy'n atebol i mi. Mae'r Tîm Gweithredol yn cyfarfod ddwywaith y mis i ystyried busnes corfforaethol craidd, er enghraifft diweddariadau cyllid, gwybodaeth am berfformiad, llesiant, iechyd a diogelwch, y gofrestr risg strategol, ac ati. Maent hefyd yn craffu ac yn ystyried penderfyniadau sy'n ymwneud â materion strategaeth, polisi a gweithredol.

Ein strwythur gweithredol. Esboniwyd y manylion yn y testun cyfagos

Islaw ein Tîm Gweithredol, mae ein Tîm Arwain yn chwarae rôl arweiniol wrth reoli'r busnes o ddydd i ddydd. Mae ei aelodau'n benaethiaid adrannau sy'n atebol i'r Tîm Gweithredol, gan gynnwys y rheiny yn ein swyddogaethau corfforaethol (megis Cyllid, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu). Mae Grŵp y Tîm Arwain yn cwrdd yn fisol i ddatrys materion trawstoriadol, er enghraifft, y gwaith cychwynnol o amgylch blaenoriaethau'r gyllideb, ac i adolygu perfformiad manwl, megis ein gwybodaeth reoli fisol.

Mae ein strwythur yn pwysleisio cyflawni ar sail lleoedd: saith Pennaeth Lleoedd o fewn Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau unigol i oruchwylio cyflawniad ein holl swyddogaethau mewn rhanbarth penodol yng Nghymru. Yna mae gennym Benaethiaid Gwasanaeth enwebedig (y mae pob un ohonynt yn Bennaeth Lle hefyd) sy'n arwain ar oruchwylio cyflawniad swyddogaeth benodol ledled Cymru.  Mae'r Penaethiaid Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'n harweinwyr polisi – o'r enw Penaethiaid Busnesau – sy'n goruchwylio cyfeiriad strategol ein gwaith ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau cydlyniant rhwng meddwl strategol a chyflawniad gweithredol, mae gennym gyfres o Fyrddau Busnes sy'n nodi'r gofynion polisi ac sy'n cynllunio natur weithredol ein gwaith ar draws y strwythur lleoedd newydd. Mae pob un o'r rhain yn cael ei arwain gan y Pennaeth Busnes / Pennaeth Gwasanaeth.

Rydym yn cynhyrchu cynllun busnes blynyddol sy'n amlinellu camau y byddwn yn eu cymryd i fodloni ymrwymiadau yn ein Cynllun Corfforaethol tymor hirach, ac rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru y bydd hwn yn cael ei symud ymlaen i 2023. Mae'r Cynllun Busnes yn cynnwys targedau a chanlyniadau corfforaethol yr ydym yn monitro cyflawniad yn eu herbyn. Caiff gwybodaeth reoli fanwl ei hadolygu yng nghyfarfodydd Grŵp y Tîm Arwain, gyda dangosfwrdd perfformiad cryno ar gyfer y Cynllun Busnes yn cael ei adolygu gan y Tîm Gweithredol cyn craffu arno gan Fwrdd CNC a Llywodraeth Cymru ar sail chwarterol.

Mae COVID-19 wedi cael effaith ar ein gallu i gyflawni rhai amcanion yn y tymor byr – er enghraifft, rydym wedi gorfod ailfeddwl ein dull ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned. Nid oeddem wedi cyhoeddi ein Cynllun Busnes blynyddol eto ar gyfer 2020/21 pan roddwyd cyfyngiadau symud sylweddol ar waith, felly cytunom gyda Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi tra oeddem yn adolygu ein cynllun cyflawni yng ngoleuni COVID-19.  Cyhoeddwyd y cynllun diwygiedig hwn ym mis Tachwedd 2020. Yn dilyn yr etholiadau diweddar i'r Senedd, byddwn yn adolygu'r Cynllun Busnes Dros Dro ar gyfer 2021/22 yng ngoleuni'r cyllid a llythyrau cylch gwaith disgwyliedig gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn ffodus nad yw absenoldeb o ganlyniad i COVID-19 wedi bod yn broblem sylweddol. Fodd bynnag, gwnaethom roi cynlluniau parhad busnes ar waith i sicrhau bod modd cyflenwi ar gyfer unigolion allweddol neu i ddelio â nifer o absenoldebau, a chytunwyd ar y rhain gyda Llywodraeth Cymru.

Fel ymatebwr Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, mae gennym brofiad o ymateb i ddigwyddiadau a all gael effaith ar sawl rhan o'r sefydliad. Gwnaethom drin ein hymateb i COVID-19 fel digwyddiad, gan sefydlu Grwpiau Ymateb i Ddigwyddiadau Tactegol a Strategol gyda chynrychiolwyr o bob rhan o CNC i reoli'r sefyllfa a darparu canllawiau a chyfeiriad i weddill y sefydliad. Drwy ein Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau Tactegol, gwnaethom sefydlu 'celloedd' a oedd yn cysylltu â'n holl fyrddau busnes a meysydd gwasanaeth eraill i ddarparu cyngor ac arweiniad yn fewnol, er mwyn llywio cydweithwyr ar yr hyn i'w wneud, ac yn allanol i'n partneriaid a'n cwsmeriaid ar sut roeddem yn rheoli'r sefyllfa. Rydym wedi defnyddio'r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau Tactegol a’r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau Strategol i ystyried hefyd ein gwaith adfer ac wedi penderfynu cynnwys ein rheolaeth o oblygiadau ymadael â'r UE i ni o fewn y fframwaith llywodraethu hwn hefyd. 

Cyfarwyddiadau Gweinidogol

Nid ydym wedi derbyn unrhyw Gyfarwyddiadau Gweinidogol eleni.

Ein Fframwaith Rheoli Mewnol

Mae ein fframwaith rheoli mewnol yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac achrediadau rydym wedi'u rhoi ar waith i warchod ein hadnoddau tra ein bod yn cyflawni ein hamcanion.

Mae cyflymder y newidiadau i addasu i gyfyngiadau'r pandemig wedi bod yn gyflym ond dan reolaeth hefyd. Mae ein rheoliadau ariannol allweddol o fewn systemau awtomatig a'n cynlluniau dirprwyo i sicrhau y caiff dyletswyddau eu gwahanu’n briodol yn parhau i fod ar waith ac yn gyfredol. Cafodd y dogfennau 'Rheoli ein Harian' a 'Cynllun Statudol a Chyfreithiol​ CNC' eu hadolygu a'u cymeradwyo gan y Bwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd rheolaethau newydd lle gweithredwyd newidiadau sylweddol – er enghraifft gofynnwyd i reolwyr gynnal rhestrau o asedau TGCh ar gyfer eitemau ychwanegol yr aethpwyd â nhw adref i gefnogi cynnydd parhaus mewn gweithio gartref.

Rheoli Risg

Mae fframwaith rheoli risg cadarn yn elfen hanfodol wrth reoli ein busnes a diogelu ein hadnoddau a'n henw da. Yn 2020, gwnaethom fabwysiadu fframwaith rheoli risg gwell ac, eleni, rydym wedi parhau i ymgorffori'r fframwaith hwnnw, gyda gwelliannau sylweddol yn y gwaith o reoli risgiau ac adrodd amdanynt, ac rydym wedi cael sawl trafodaeth ystyrlon yn y Tîm Gweithredol, y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau, ac mewn pwyllgorau eraill.

Y Tîm Gweithredol sydd berchen ar y gofrestr risg strategol, ac mae gan bob risg strategol gyfarwyddwr sy’n berchen arni. Islaw'r Tîm Gweithredol, mae pob Pennaeth Lle a Phennaeth Busnes yn berchen ar risgiau penodol ac yn eu monitro, ac mae’r rhain yn cael eu craffu a'u herio gan y Bwrdd Busnes perthnasol. Mae Grŵp y Tîm Arwain sydd gennym yn archwilio materion trawsbynciol ac yn nodi unrhyw risgiau sydd i'w huwchgyfeirio i'r gofrestr risg strategol.

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn craffu ar y gofrestr risg strategol ac yn ei herio. Mae'n cael sicrwydd ar effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg ac yn darparu cyngor i'r Bwrdd i'w alluogi i sicrhau ei hun o effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg. Mae pwyllgorau eraill y Bwrdd yn adolygu risgiau strategol perthnasol. Mae'r Bwrdd wedi cytuno datganiadau ar y parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer y mwyafrif o'n risgiau strategol ac mae'n cynnal adolygiad blynyddol o'n risgiau strategol.

Sicrhau gwybodaeth

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda, ac ein bod yn parhau i gyflawni cydbwysedd rhwng bod yn agored a diogelwch, gan sicrhau bod staff a chwsmeriaid yn cael eu sicrhau bod lefelau diogelwch priodol ar waith. Mae'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn parhau i arwain rhaglen integredig o waith i gryfhau ein hymateb i wydnwch yn erbyn bygythiadau seiberddiogelwch a gwybodaeth. Unwaith eto, rydym wedi ennill ein hachrediad Cyber Essential Plus blynyddol, sy'n cael ei gymeradwyo gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'i archwilio'n annibynnol gan arbenigwr trydydd parti cymwys. Byddwn yn parhau i gyflawni rhaglen seiberddiogelwch o waith yn seiliedig ar ein strategaeth seiber gyfredol. Mae hyn yn cynnwys mentrau ar gyfer gwella ymwybyddiaeth staff, gan gynnwys hyfforddiant seiberddiogelwch ar-lein.

Bob blwyddyn, mae gennym gyrsiau dysgu ar-lein gorfodol i'r staff ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac ar ddiogelu gwybodaeth i sicrhau bod pawb yn ymwybodol ac yn gwybod y diweddaraf am sut rydym yn rheoli'r wybodaeth rydym yn ei derbyn a'i chadw. Rydym yn ymwybodol nad yw cyfraddau cwblhau ar gyfer dysgu ar-lein gorfodol yn 100% ar hyn o bryd (er eu bod wedi gwella yn sylweddol dros y misoedd diwethaf), a bydd hyn yn ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Eleni, roeddwn yn falch na chawsom unrhyw doriadau diogelwch gwybodaeth yr oedd yn rhaid eu hadrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

  • 2020/21: 0
  • 2019/20: 0
  • 2018/19: 1

Datganiad o Fuddiannau

Mae ein polisi a'n harweiniad Rheoli Gwrthdaro Buddiannau'n cefnogi'r holl staff ac aelodau'r Bwrdd gyda'n proses barhaus i ddatgan buddiannau personol perthnasol i'n helpu i reoli unrhyw wrthdaro posib neu ganfyddiedig o fewn eu rolau proffesiynol.   Mae adolygiadau gan archwilwyr mewnol a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu bod angen gwelliannau sylweddol i'n polisi, gweithdrefnau, hyfforddiant a mecanweithiau adrodd mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau. Mae'r gwaith hwn wedi cychwyn ac i ddod i ben ym mis Medi 2021.

Chwythu'r Chwiban

Rydym yn ymrwymedig i'r safonau uchaf o gywirdeb ac atebolrwydd ac o fod yn agored.

Felly, rydym wedi sefydlu mesurau i godi pryderon difrifol am gamymddwyn neu amhriodoldeb. Mae ein fframwaith yn cynnwys mynediad i linell adrodd allanol lle mae modd codi pryderon yn ddienw.  O 2020/21, daeth CNC yn 'berson rhagnodedig', wedi'i ychwanegu at restr o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr ddod atynt y tu allan i'w weithle i adrodd camymddwyn hysbys neu bosibl.

Nifer yr achosion chwythu'r chwiban yr adroddwyd amdanynt:

  • 2020/21: 0
  • 2019/20: 2
  • 2018/19: 0

Twyll

Cefnogir ein Strategaeth Gwrth-dwyll gan Bolisi Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth a Gweithdrefn Ymateb i Dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth. Mae gennym gyrsiau blynyddol gorfodol ar-lein ar gyfer staff ar wrth-dwyll a llwgrwobrwyo a llygredigaeth i helpu staff i nodi digwyddiadau o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth ac i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau proffesiynol. Rydym yn ymwybodol nad yw cyfraddau cwblhau ar gyfer dysgu ar-lein yn 100% ar hyn o bryd (er eu bod wedi gwella yn sylweddol dros y misoedd diwethaf), a bydd hyn yn ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae deg honiad o dwyll wedi dod i law, ac ymdriniwyd â'r rhain yn unol â phroses gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth CNC. Caiff y rhain eu hadrodd i'n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae pob ymchwiliad wedi'i reoli un ai gan arbenigwr gwrth-dwyll achrededig neu ymchwilwyr allanol â chymwysterau tebyg. Caiff yr adroddiad terfynol ar bob achos ei gyfeirio at uwch-staff annibynnol.

Nifer yr honiadau yr adroddwyd amdanynt:

  • 2020/21: 10
  • 2019/20: 7
  • 2018/19: 23

Cydymffurfio â Chod Llywodraethu Corfforaethol y Deyrnas Unedig

Rydym wedi cwblhau adolygiad sylfaenol ac wedi sicrhau bod ein strwythur, ein polisïau a'n gweithdrefnau sefydliadol yn unol â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU.

Mae ein harweinyddiaeth yn gweithredu’n unol â rolau a chyfrifoldebau uwch-reoli disgwyliedig; mae gweithdrefnau cefnogol ar waith i sicrhau y gall rolau'r Bwrdd weithredu'n effeithiol; mae ein llwybrau adrodd yn glir i sicrhau atebolrwydd a rhannu dyletswyddau'n briodol a bod rheolaethau mewnol allweddol ar waith; caiff cyflogau uwch-staff eu hystyried gan aelodau anweithredol i sicrhau annibyniaeth; ac rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'n rhanddeiliaid allweddol i feithrin perthnasoedd gwaith adeiladol.

Ein Fframwaith Sicrwydd

Mae ein fframwaith sicrwydd yn cynnwys y mesurau canlynol, sydd ar waith i sicrhau fy mod yn derbyn tystiolaeth amserol i ddangos bod y rheolaethau gofynnol ar waith ac yn gweithio'n briodol.

Archwilio Mewnol

Mae gennym dîm Archwilio Mewnol sy'n gweithredu yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Bob blwyddyn, caiff cynllun archwilio blynyddol ei ddatblygu yn seiliedig ar flaenoriaethu meysydd risg allweddol mewn perthynas â gweithgareddau hanfodol Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i gynllun corfforaethol, gan ystyried ffynonellau sicrwydd eraill.

Caiff y cynllun ei gynllunio drwy ymgynghoriad â mi fy hun a'm Tîm Gweithredol a Grŵp y Tîm Arwain, ac mewn trafodaeth â'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.

Yn dilyn ymadawiad y Rheolwr Archwilio Mewnol ym mis Hydref 2020, mae dau uwch-aelod o staff yn y tîm wedi goruchwylio cyflawniad y cynllun fel datrysiad dros dro cyn recriwtio rheolwr newydd. Rydym wedi penodi Pennaeth Archwilio Mewnol newydd yn ddiweddar, ar lefel Arweinyddiaeth, a ymunodd â'r sefydliad ar 1 Gorffennaf 2021.

O ganlyniad i COVID-19, gwnaeth y tîm Archwilio Mewnol ddilyn cyngor gan y cyrff proffesiynol (Sefydliad Siartredig yr Archwilwyr Mewnol (CIIA) a Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA)). Gwnaethom adolygu'r cynllun archwilio gweddilliol ar gyfer y flwyddyn i sefydlu'r archwiliadau mwyaf hanfodol, a oedd yn debygol o gael dylanwad sylweddol ar farn yr archwiliad, y gwnaethom eu blaenoriaethu, a'r rheiny y gallai fod modd eu hoedi, eu gohirio neu eu canslo. Gwnaeth y tîm Archwilio Mewnol hefyd ystyried gallu'r busnes i fynd i'r afael ag archwiliadau ynghyd â mynd i'r afael â'r digwyddiad ei hun. Mae pob newid i'r cynllun archwilio wedi cael ei gadarnhau gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. O ganlyniad, mae adolygiadau allweddol o gynllun 2020/21 wedi cael eu cyflawni, heb unrhyw effaith berthnasol ar y farn gyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn.

Nifer yr archwiliadau yn 2020/21: 18

Gradd archwilio sylweddol: 1

Gradd sicrwydd cymedrol: 11

Gradd sicrwydd cyfyngedig: 5

Gradd sicrwydd anfoddhaol: 0

Ar ffurf ddrafft: 1

Statws Diffiniad

Sylweddol

Mae'r fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth yn ddigonol ac yn effeithiol.

Cymedrol

Mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth.

Cyfyngedig

Mae gwendidau sylweddol yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fel y gallai fod yn annigonol ac yn aneffeithiol neu ddod felly.

Anfoddhaol

Mae gwendidau sylfaenol yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fel ei fod yn annigonol ac yn aneffeithiol neu'n debygol o fethu.


Mae ein tîm Archwilio Mewnol yn cyflawni'r cynllun archwilio, gan roi diweddariadau ar gynnydd ac adborth rheolaidd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.  Dyma farn y Rheolwr/Rheolwyr Archwilio Mewnol Dros Dro, fel a nodir yn yr adroddiad sicrwydd blynyddol:

Yn ystod 2020/21, mae CNC wedi wynebu'r heriau a godwyd gan y pandemig COVID-19 ac wedi gweithredu ei gynlluniau parhad busnes yn llwyddiannus. Caniataodd ei fuddsoddiad mewn technoleg i'r busnes addasu'n gyflym i staff yn gweithio gartref. Mae gwaith sylweddol wedi parhau dros y flwyddyn hon i wella cysondeb a chadernid rheolaethau ar draws y sefydliad – er enghraifft, mae wedi datblygu fel y bwriedir trwy sefydlu Swyddfa Rheoli Rhaglenni.

Mae'r farn archwilio flynyddol wedi'i llywio'n bennaf gan y gwaith o gyflawni’r Cynllun Archwilio Mewnol. Eleni gwnaethom ddarparu sicrwydd cyfyngedig ar dri maes archwilio: Cerdyn Prynu Cymru, Grantiau, a Rheoli Perfformiad Staff. Rydym hefyd wedi darparu barn o 'rywfaint o gynnydd' ar ddau archwiliad dilynol, lle roeddem ynghynt wedi rhoi barn 'gyfyngedig'; y rhain oedd Contractau Gwerthiannau Pren a Gwrthdaro Buddiannau.

Roedd gwaith yr archwiliad hefyd yn cynnwys: Seiberddiogelwch, Perchnogion Asedau Gwybodaeth, Rheoli Cyllidebau, Gweithio Unigol, Rheoli Tomennau Sbwriel Glofeydd, Rheoli Risg, Llywodraethu Mewnol, Adolygiadau o Ddigwyddiadau Difrifol, Cydymffurfiaeth GDPR, Ansawdd Adroddiadau Tystiolaeth, Rheoleiddio a Gwastraff a Gorfodi. Derbyniodd pob un o'r rhain sicrwydd 'cymedrol'. Derbyniodd archwiliad o Gaffael o dan £25,000 farn sicrwydd 'sylweddol'. Rydym wedi cynnal un darn o waith ymgynghorol, sef yr Adolygiad o Brosesau Oddi ar y Gyflogres (IR35). Gan ei fod yn waith ymgynghori, ni chafodd hwn farn sicrwydd.

Canfuwyd problemau diwylliannol parhaus yn yr archwiliad Rheoli Perfformiad Staff, gyda pherfformiad gwael yn parhau heb ei herio a diffyg cydymffurfiaeth â'r broses benodol pan gaiff ei herio. Roedd absenoldeb ail linell amddiffyn i fonitro cydymffurfiaeth a sicrhau ansawdd rheoli perfformiad.

Nodwyd materion tebyg o fewn archwiliad Cerdyn Prynu Cymru. Ar adeg yr archwiliad, roedd gan 39% gerdyn gwario ac roedd y gwariant blynyddol tua £2 miliwn. Canfuwyd gwendidau sylweddol yng ngoruchwyliaeth y tîm rheoli, a oedd yn arddangos diffyg dealltwriaeth gan reolwyr o'u dyletswyddau. Hefyd, yn dilyn Cynllunio’r Sefydliad yn 2019/20, mae gostyngiad mewn adnoddau wedi arwain at wiriadau cydymffurfiaeth gan yr ail linell amddiffyn yn peidio â chael eu cynnal.

Ar gyfer yr archwiliad Grantiau, amlygodd fod cynnydd ar weithredu'r strwythur newydd wedi bod yn araf, er bod CNC wedi cydnabod nad oedd ganddo’r strwythur staffio ac arbenigedd cywir i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei raglen grantiau yn gynnar yn 2020/21. Mae hyn wedi cael ei liniaru i raddau gan recriwtio arbenigedd ariannol dros dro, ond mae'r rhaglen grantiau wedi parhau i fod â diffyg adnoddau sylweddol. Problem gyffredin drwy gydol yr archwiliad oedd yr angen i gryfhau tystiolaeth penderfyniadau a llwybrau archwilio ar gyfer gweithgareddau, sy'n thema fynych ar gyfer CNC. Nododd yr archwiliad wendidau hefyd wrth wahanu dyletswyddau a rheoli gwrthdrawiadau buddiannau (yn fewnol ac yn allanol). Tra oedd yr archwiliad yn cydnabod bod rheolaethau wedi'u cynllunio i fod yn gymesur, mae angen rhagor o waith i ddatblygu meini prawf risg mwy cyflawn sy'n dangos cysylltiad â'r prosesau grantiau sydd i'w dilyn.

Ar gyfer Rheoli Tomennau Sbwriel Glofeydd, er ein bod wedi darparu barn sicrwydd 'cymedrol' o ganlyniad i’r rheolaethau a'r gwaith goruchwylio a oedd yn cael eu gweithredu, arddangoswyd eto fod diffyg trosolwg gan reolwyr cyn y digwyddiadau llifogydd ym mis Chwefror 2020. Canfuwyd hefyd fod llwybrau archwilio gwael yn cael eu cadw fel tystiolaeth fod CNC wedi cyflawni ei ddyletswyddau. Yn yr un modd, roedd yr archwiliad 'cymedrol' o Weithio Unigol yn dangos tystiolaeth o ddiffyg trosolwg gan reolwyr i wirio bod y bobl iawn yn defnyddio'r offer iawn i weithio'n ddiogel ar eu pen eu hun.

Canfuwyd ein harchwiliadau dilynol o Gontractau Gwerthiannau Pren a Gwrthdaro Buddiannau, er bod camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag argymhellion, fod problemau o hyd gyda chydymffurfiaeth a throsolwg. Amlygodd yr archwiliad Gwrthdaro Buddiannau eto fod cynnydd wedi cael ei effeithio gan ddiffyg adnoddau cydnabyddedig yn y Tîm Llywodraethu, sydd yn dal i gael ei ddatrys. Rydym yn gweithio gyda rheolwyr ar yr angen i berchnogion camau gweithredu sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir yn gweithio fel y bwriedir iddynt, eu bod wedi'u hymgorffori a bod risgiau wedi'u lliniaru, cyn adrodd bod argymhellion wedi'u cwblhau.

Yn ogystal, mae cynnydd wrth ddelio â gwendidau hirdymor sylweddol yn y gwaith o ddefnyddio prosesau rheoli contractau o safbwynt caffael yn effeithiol wedi bod yn araf ac, ar adeg ysgrifennu, mae dal angen penderfyniad ar adnoddau i yrru gwelliannau.

Mae CNC ei hun yn cydnabod bod ei risg weddilliol ar gyfer Risg Strategol 07 – Cydymffurfiaeth yn uchel o hyd, gyda'r effaith yn 'fawr' a'r tebygolrwydd yn 'debygol', gyda’r achosion o bosibl o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth o bolisïau a phrosesau, diwylliant o ragfarn optimistiaeth, methiant wrth ddysgu gwersi, a swyddogaethau ail linell amddiffyn wan.

Mae sefydlu'r Gweithgor Tair Llinell Amddiffyn yn mynd i'r afael â'r risg hon yn rhannol, sef gweithgor sy'n ceisio adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn rhan o'r Cynllun Gwella Llywodraethu a Risg i ddelio â llywodraethu a chydymffurfio gwael. Mae hwn yn gam cadarnhaol ac, wrth i waith y grŵp hwn a grwpiau eraill ddatblygu, dylai arwain at welliannau yn yr amgylchedd rheoli, llywodraethu a rheoli risg yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r tîm Archwilio Mewnol wedi cael eu gwahodd i fod yn arsylwyr ar y grŵp hwn, sy'n cefnogi'r berthynas waith well â rheolwyr a'r gwerth mwy a osodir ar y gwaith a wneir gan Archwilio Mewnol. Rydym bellach yn rhoi diweddariadau rheolaidd i Grŵp y Tîm Arwain a’r Tîm Gweithredol ar gynnydd yn erbyn y cynllun ac unrhyw faterion sydd ar y gweill. Wrth symud ymlaen, bydd dull newydd yn cael ei fabwysiadu i rannu dysgu o archwiliadau o bob rhan o'r sefydliad.

I gloi, mae ein gwerthusiad proffesiynol o reolaethau mewnol, llywodraethu a rheoli risg wedi ein harwain i'n casgliad fod gwendidau sylweddol o hyd yn 2020/21 yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fel y gallai fod neu gallai ddod yn annigonol ac yn aneffeithiol. Felly, gallwn gynnig barn sicrwydd cyfyngedig yn gyffredinol am y flwyddyn ddiwethaf.

Archwilio allanol

Mae craffu annibynnol yn ffurfio rhan bwysig o'n gwaith sicrwydd, gan ddarparu tystiolaeth o'n ffyrdd o weithio mewn perthynas ag arfer gorau a safonau'r diwydiant. Yn rhai rhannau o'r sefydliad, rydym yn destun archwiliadau neu adolygiadau allanol o'n gwaith neu'n dewis eu cael. Mae rhai'n flynyddol, er enghraifft Cynllun Sicrwydd Coetiroedd y DU neu ISO 14001:2015 i gynnal ein system rheoli amgylcheddol. Rydym yn gofyn am rai eraill fel un o lawer o ddarnau o waith i roi mwy o wybodaeth i ni am feysydd gwaith neu weithgareddau penodol.

Yn dilyn ein cyhoeddiad o adolygiad annibynnol Grant Thornton o'n gweithrediadau gwerthiannau pren a'i rannu gyda Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru, mae gwaith yn datblygu i ymgorffori newidiadau a gwelliannau o fewn busnes fel arfer ym mhob rhan o'r sefydliad. Yn ystod 2020/21 derbyniom incwm o £0.1 miliwn (£2.6 miliwn yn 2019/20) o ran gwerthiannau sefydlog a chontractau pren. Rydym yn parhau i ymgorffori newidiadau a gwelliannau yn ein gweithrediadau gwerthiannau pren, a arweinir gan ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol. Caiff y gwaith hwn ei oruchwylio gan y Pwyllgor Cyllid a chaiff cynnydd ei adrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.

Effeithiolrwydd rheolaethau mewnol

Er mwyn darparu sicrwydd ychwanegol fod y rheolaethau hyn ar waith ac yn gweithio'n dda yn CNC, mae aelodau'r Tîm Gweithredol a chadeiryddion Byrddau Busnes i gyd wedi llofnodi Tystysgrif Sicrwydd a chwblhau Rhestr Gwirio Rheolaethau Mewnol a oedd yn gofyn iddynt gynnal asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth sydd ar waith ar gyfer eu cyfarwyddiaeth / Bwrdd Busnes.   Eleni cyflawnom gyfradd dychwelyd o 100% i'r rhestrau gwirio a thystysgrifau, er bod lefel y manylder yn amrywio rhwng cyflwyniadau.  Rydym wedi adolygu'r broses yn llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf i wella cysondeb manylder ac i gael gwybodaeth gan ystod ehangach o staff o fewn CNC wrth gwblhau’r datganiad.

Yn gyffredinol, mae canlyniadau eleni wedi dangos gwelliant ar y flwyddyn ddiwethaf, er bod angen gwneud llawer o waith o hyd. Ceir teimlad yn y datganiadau fod y sefydliad yn gyfforddus â'i flaenoriaethau corfforaethol strategol ac amcanion busnes a bod polisïau a gweithdrefnau yn parhau i gael eu hadolygu fel y bo angen i addasu i newidiadau allanol neu fylchau mewnol a nodwyd. Mae cyfarfodydd arweinyddiaeth rheolaidd yn caniatáu cyfle i ledaenu a thrafod materion corfforaethol, cynnydd, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen gwneud rhagor o welliannau yn y dyfodol mewn prosesau mewnol a monitro, a bod y sefydliad yn gwneud newidiadau i brosesau amrywiol i gryfhau'r rheolaethau.

Y maes pryder mwyaf a amlygwyd yn y rhestrau gwirio rheolaethau mewnol oedd gallu staff i gyflawni eu llwyth gwaith mewn ffordd sy'n ein galluogi i barhau i gydymffurfio'n llwyr a rheoli ein rheolaethau yn effeithiol. Bydd hyn yn flaenoriaeth fawr ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r heriau a grëwyd gan ddealltwriaeth anghyson o ofynion cydymffurfiaeth, a chreu'r amser a'r gofod sydd eu hangen ar ein staff a’n rheolwyr i ymgymryd â'u gweithgareddau cydymffurfio. Her fawr arall ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd gwella'r gwaith o fonitro ein cydymffurfiaeth ac ehangu'r dangosyddion rhybudd cynnar sydd ar gael ar gyfer materion cydymffurfio. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein gwybodaeth rheoli perfformiad ac yn archwilio swyddogaeth ymgynghori well i ategu gwaith y tîm Archwilio Mewnol.

Mae cyfran fawr o staff CNC wedi bod yn gweithio gartref yn sgil y pandemig. Mae ein galluedd TGCh wedi ein gwasanaethu'n dda, gyda'r rhan fwyaf o staff â mynediad parod at gyfarfodydd rhithiwr ac ati, ac rydym wedi gallu parhau i gynnal y cyfarfodydd llywodraethu ffurfiol drwy gydol y cyfnod. Mae staff wedi cael eu hannog i gwblhau'r hyfforddiant diogelwch angenrheidiol, ymgyfarwyddo â'r polisïau priodol, a chwblhau'r pecynnau e-ddysgu perthnasol. Fodd bynnag, nodwyd, o ganlyniad i flaenoriaethau'n newid dros y pandemig, fod rhai meysydd o'r sefydliad wedi cael trafferth i gwblhau'r holl hyfforddiant e-ddysgu a gorfodol, a ddylai fod yn ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf

Bu gwelliant sylweddol yn effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyson ym mhob rhan o'r sefydliad. Mae risgiau a chamau lliniaru yn cael eu nodi yn effeithiol. Ym mhob rhan o'r sefydliad, mae rheoli risg bellach yn cael ei gydnabod a'i drafod yn amlach ac yn ehangach, gan gynnwys yng nghyfarfodydd Byrddau Busnes, a caiff materion eu huwchgyfeirio pan fo'n briodol i Grŵp y Tîm Arwain, y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod CNC yn dod yn sefydliad aeddfed o ran risgiau. Y ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd gwella cysondeb sgorio risg ym mhob rhan o'r sefydliad a sicrhau bod risgiau’n cael eu hatgyfeirio’n briodol i sicrhau bod herio’n digwydd ar y lefel gywir.

Er bod COVID-19 wedi cyflwyno sawl her ac amgylchedd anodd, mae'r sefydliad wedi gallu parhau i ymgysylltu â'i staff a goresgyn nifer o rwystrau. Drwy ddarparu diweddariadau rheolaidd, cyfarfodydd tîm rhithwir rheolaidd, a chyfathrebu ysgrifenedig, rydym wedi gallu rhannu gwybodaeth ac ymddygiadau enghreifftiol ym mhob rhan o CNC ac addasu ein ffyrdd o ymgysylltu â gweithwyr. Mae llesiant, iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, rydym yn rhagweld y bydd y flwyddyn nesaf yn eithriadol o heriol, a byddwn yn parhau i addasu a mireinio ein fframwaith sicrwydd i sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn briodol a bod gennym y rheolaethau mewnol angenrheidiol ar waith ar gyfer amgylchedd sy'n datblygu'n gyflym.

Adroddiad Cyflogau a Staff (wedi'i archwilio)

Adroddiad Cyflogau

Polisi cyflogau

Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Pwyllgor Pobl a Chyflogau i ystyried materion sy'n ymwneud â chyflogau ac amodau cyflogaeth staff ar y lefel uchaf a'r strategaeth gyflog gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan CNC. Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o’r Bwrdd. Mae Cadeirydd y Bwrdd yn aelod ex officio o'r pwyllgor.

Gosodir cyflogau'r Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd gan Weinidogion Cymru. Mae telerau contractau gweithwyr uwch (aelodau o'r Tîm Gweithredol) yn seiliedig ar delerau ac amodau CNC. Ni ellir cydfargeinio'r polisi cyflogau ar gyfer y staff ar y lefel uchaf, a chytunir ar y pecyn cyflog trwy gyfeirio at gyfres o rolau wedi'u meincnodi yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru ac at sefydliadau cyffelyb yn y DU.

Mae cytundeb partneriaeth gymdeithasol ar waith gyda phum undeb lafur, a chaiff y telerau ac amodau ar gyfer staff sydd o dan yr aelodau o'r Tîm Gweithredol eu gosod trwy gydgytundeb â'r partneriaid cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo unrhyw newidiadau i gyflogau, telerau ac amodau ac yn gosod cylch cyflog y mae'n rhaid i CNC eu cyflawni o'i fewn. Fel rhan o gynnig cyflog eleni, gwnaethom gytuno, drwy ymgynghoriad ffurfiol, ar gytundeb cyflog blynedd o 2.5% am y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2020 a 30 Mehefin 2021. Nid oedd y cynnig hwn, fel y cytunwyd eisoes drwy'r ymgynghoriad ar y cynllun Gwerthuso Swyddi, yn berthnasol i'r rheiny oedd wedi cyn hyn dewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun hwn.

Contractau gwasanaeth

Gwneir pob penodiad i'r Bwrdd ar ran Gweinidog nawdd CNC yn Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r Prif Weithredwr ac aelodau'r Tîm Gweithredol gael eu cyflogi o dan gontractau parhaol. Caiff penodiadau eu gwneud yn unol â'n polisi recriwtio, sy'n gofyn i benodiad gael ei wneud yn ôl haeddiant ac yn seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored.

Oni nodir yn wahanol isod, mae gan yr aelodau o'r Tîm Gweithredol a gynhwysir yn yr adroddiad hwn benodiadau penagored. Rhaid i'r swyddogion a'r aelodau Bwrdd hyn ddarparu tri mis o rybudd o'u bwriad i adael.

Cyflog a hawliau pensiwn

Mae'r adrannau canlynol yn darparu manylion cyflog aelodau'r Bwrdd a chyflogau a buddiannau pensiwn aelodau'r Tîm Gweithredol. Nid oes gan aelodau’r Bwrdd yr hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil nac i dderbyn buddion eraill. Pe bai aelodaeth yn cael ei therfynu'n gynnar, am reswm heblaw am gamymddwyn, byddai'r aelod hwnnw o'r Tîm Gweithredol yn derbyn iawndal sy'n gyson â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Nid oes gan aelodau’r Bwrdd yr hawl i gael iawndal.

Cyflogau aelodau’r Bwrdd

Aelod y Bwrdd Contract cyflogaeth Cyflog 2020/21 (ystod £5,000) Cyflog 2019/20 (ystod £5,000)

Karen Balmer

9 Tachwedd 2015 i 8 Tachwedd 2022

10 i 15

10 i 15

Chris Blake

9 Tachwedd 2015 i 24 Chwefror 2021

10 i 15

10 i 15

Catherine Brown

1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2022

15 i 20

15 i 20

Julia Cherrett

1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2025

10 i 15

10 i 15

Geraint Davies

1 Ionawr 2019 i 31 Hydref 2024

10 i 15

10 i 15

Howard Davies

9 Tachwedd 2015 i 31 Awst 2021

10 i 15

10 i 15

Elizabeth Haywood

9 Tachwedd 2015 i 31 Awst 2021

10 i 15

10 i 15

Sir David Henshaw (Chair)

1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2023

45 i 50

45 i 50

Zoë Henderson

9 Tachwedd 2015 i 8 Tachwedd 2022

15 i 20

15 i 20

Steve Ormerod (Deputy Chair)

1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2022

15 i 20

15 i 20

Rosie Plummer

1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2024

10 i 15

10 i 15

Peter Rigby

1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2023

10 i 15

10 i 15

 

  • Mae telerau'r aelodau'r bwrdd Julia Cherret, Rosie Plummer a Peter Rigby wedi cael eu hymestyn.
  • Ymddiswyddodd Chris Blake fel aelod o Fwrdd CNC yn weithredol o 24 Chwefror 2021.
  • Catherine Brown yw cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.
  • Syr David Henshaw yw cadeirydd y Bwrdd.
  • Zoë Henderson yw cadeirydd y Pwyllgor Pobl a Chyflogau.
  • Steve Ormerod yw dirprwy gadeirydd y Bwrdd.

Cyflogau'r Tîm Gweithredol

Cyflog (ystod £5,000)

Aelod o’r Tîm Gweithredol 2020/21 2019/20
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 140 i 145 140 i 145
Rachael Cunningham 65 i 70 0
Ceri Davies 105 i 110 105 i 110
Prys Davies 85 i 90 85 i 90
Kevin Ingram 5 i 10 95 i 100
Sarah Jennings 65 i 70 0
Tim Jones 0 50 i 55
Catherine Love 0 10 i 15
Gareth O'Shea 95 i 100 95 i 100
Niall Reynolds 0 5 i 10

 

  • Gorffennodd Kevin Ingram ar 9 Ebrill 2020. Ei gyflog cyfwerth blwyddyn gyfan ar gyfer 2020/21 oedd £95,000 i £100,000.
  • Penodwyd Sarah Jennings yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol ar 7 Medi 2020.  Ei chyflog cyfwerth blwyddyn gyfan ar gyfer 2020/21 yw £120,000 i £125,000.
  • Daeth cyflogaeth Tim Jones fel cyfarwyddwr i ben ar 10 Hydref 2019. Ei gyflog cyfwerth blwyddyn gyfan fel cyfarwyddwr ar gyfer 2019/20 oedd £90,000 i £95,000. Cafodd ei gyflogi eto yn ystod 2020/21 o dan gontract newydd am gyfnod penodol a chafodd ei dalu £5,000 i £10,000. Roedd y contract newydd i ddarparu cymorth digwyddiadau ac mewn argyfwng yn ystod yr argyfwng COVID-19. Nid oedd ganddo gyfrifoldebau cyfarwyddol, ac ni dderbyniodd unrhyw fuddion pensiwn yn ystod 2020/21.
  • Gorffennodd Catherine Love ar 31 Mai 2019.  Ei chyflog cyfwerth blwyddyn gyfan am 2019/20 oedd £75,000 i £80,000.
  • Daeth cyflogaeth Niall Reynolds fel cyfarwyddwr i ben ar 30 Ebrill 2019. Ei gyflog cyfwerth blwyddyn gyfan am 2019/20 oedd £75,000 i £80,000. Dewisodd optio allan o'r cynllun pensiwn o 30 Mawrth 2019 ac felly ni wnaeth gronni unrhyw fuddion pensiwn yn ystod 2019/20.  Cafodd ei gyflogi eto yn ystod 2020/21 o dan gontract newydd am gyfnod penodol a chafodd ei dalu £5,000 i £10,000. Roedd y contract newydd i ddarparu cymorth digwyddiadau ac mewn argyfwng yn ystod yr argyfwng COVID-19. Nid oedd ganddo gyfrifoldebau cyfarwyddol, ac ni dderbyniodd unrhyw fuddion pensiwn yn ystod 2020/21.
Buddion mewn nwyddau i'r £100 agosaf

Aelod o’r Tîm Gweithredol 2020/21 2019/20
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 0 0
Rachael Cunningham 0 0
Ceri Davies 0 0
Prys Davies 0 0
Kevin Ingram 0 0
Sarah Jennings 0 0
Tim Jones 0 0
Catherine Love 0 0
Gareth O'Shea 0 0
Niall Reynolds 0 0

Buddion pensiwn (i'r £1,000 agosaf)

Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd pensiwn gwirioneddol wedi'i luosi ag 20, a'r cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad, llai y cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Mae'r cynnydd gwirioneddol yn eithrio cynnydd o ganlyniad i chwyddiant neu unrhyw newidiadau o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn.  Nid yw'r gwerth hwn yn cynrychioli'r swm a fydd yn cael ei dderbyn gan yr unigolyn.  Bwriad y cyfrifiad yw cyfleu i ddarllenydd y cyfrifon amcangyfrifiad o'r budd y gallai fod yn aelod o'r cynllun pensiwn ei ddarparu. Mae'r tabl buddion pensiwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y buddion pensiwn sy'n cael eu cronni gan yr unigolyn.

Aelod o’r Tîm Gweithredol 2020/21 2019/20
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 49,000 112,000
Rachael Cunningham 71,000 0
Ceri Davies 62,000 33,000
Prys Davies 31,000 59,000
Kevin Ingram 16,000 36,000
Sarah Jennings 27,000 0
Tim Jones 0 7,000
Catherine Love 0 5,000
Gareth O'Shea 44,000 32,000
Niall Reynolds 0 0

 

  • Derbyniodd Clare Pillman ddyfarniad cyflog yn 2019/20 a gynyddodd ei buddion pensiwn cronnus fel a ddatgelir yn y tabl uchod. Roedd gwir gyfraniad gan y cyflogwr i'w phensiwn yn 30.3% o'i chyflog.
  • Penodwyd Rachael Cunningham yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau a Corfforaethol ar 7 Medi 2020. Ei chyflog cyfwerth blwyddyn gyfan ar gyfer 2020/21 yw £115,000 i £120,000. Mae'r amcangyfrif buddion pensiwn wedi ystyried bod Rachael Cunningham wedi newid ei chyflogwr yn ystod y flwyddyn. Roedd gwir gyfraniad gan y cyflogwr i'w phensiwn yn 30.3% o'i chyflog.
Cyfanswm (£5,000 range)

Aelod o’r Tîm Gweithredol 2020/21 2019/20
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 185 i 190 250 i 255
Rachael Cunningham 135 i 140 0
Ceri Davies 170 i 175 135 i 140
Prys Davies 115 i 120 140 i 145
Kevin Ingram 20 i 25 120 i 125
Sarah Jennings 95 i 100 0
Tim Jones 0 55 i 60
Catherine Love 0 15 i 60
Gareth O'Shea 140 i 145 125 i 130
Niall Reynolds 0 5 i 10

Cyflog

Mae cyflog yn ymwneud â symiau pensiynadwy a symiau nad ydynt yn bensiynadwy ac mae'n cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfansau neu daliadau sy'n ddarostyngedig i drethiant yn y DU. Nid yw'n cynnwys symiau sy'n ad-daliad o dreuliau sydd wedi deillio'n uniongyrchol o gyflawni dyletswyddau unigolyn.

Cyflog cysylltiedig â pherfformiad

Mae'r symudiad rhwng y pwyntiau cyflog yn ddarostyngedig i berfformiad yn cael ei asesu fel 'rhagorol' gan y Prif Weithredwr a chaiff ei gymedroli gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau. 

Buddion mewn nwyddau

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau'n cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan y cyflogwr ac a ymdrinnir fel enillion y gellir eu trethu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Ni wnaeth yr un aelod o'r Bwrdd na'r Tîm Gweithredol dderbyn buddion mewn nwyddau yn ystod 2020/21 a 2019/20.

Ni wnaeth yr un aelod o'r Bwrdd na'r uwch-staff dderbyn unrhyw daliadau eraill ar wahân i'r symiau a ddangosir uchod.

Buddion pensiwn

 

Aelod o’r Tîm Gweithredol Pensiwn cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31/03/21 £000 Cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31/03/21 £000 Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn ar oed pensiwn £000 Cynnydd gwirioneddol yn y cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn £000 Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar 31/03/21 £000 Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar 31/03/20 £000 Cynnydd gwirioneddol mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod £000

Clare Pillman (Prif Weithredwr)

55 i 60

135 i 140

2.5 i 5

0

1,187

1,115

29

Rachael Cunningham (O 7 Medi 2020)

30 i 35

0

2.5 i 5

0

436

371

49

Ceri Davies

50 i 55

70 i 75

2.5 i 5

0 i 2.5

958

876

46

Prys Davies

25 i 30

50 i 55

0 i 2.5

0

459

425

15

Kevin Ingram (Hyd at 9 Ebrill 2020)

35 i 40

45 i 50

0 i 2.5

2 i 2.5

603

579

18

Sarah Jennings (O 7 Medi 2020)

0 i 5

0

0 i 2.5

0

21

0

16

Gareth O’Shea

50 i 55

80 i 85

2.5 i 5

0 i 2.5

912

849

27


Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yw gwerth cyfalafol buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar bwynt penodol o amser fel ei fod wedi’i asesu ar sail tybiaethau actwaraidd. Y buddion a werthusir yw'r buddion a gronnwyd gan yr aelod ac unrhyw bensiwn priod dibynnol sy'n daladwy o'r cynllun. Mae Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo'r buddion y mae wedi'u cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddion y mae'r unigolyn wedi'u cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth o’r cynllun pensiwn, ac nid ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef yn unig.

Mae'r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Caiff Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod eu cyfrifo yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl i fuddion a ddaw yn sgil Treth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gaiff buddion pensiwn eu cymryd.

Cynnydd real mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod

Mae hyn yn dangos y cynnydd mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys cynnydd mewn pensiwn a gronnwyd oherwydd chwyddiant neu gyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall), ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad cyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Iawndal ar gyfer colli swydd

Ni gytunwyd ar iawndal ar gyfer colli swydd yn ystod 2020/21.

Datgelu cyflog teg

Rhaid i CNC a chyrff tebyg ddatgelu'r berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr a delir fwyaf yn eu sefydliad a chyflog canolrifol gweithlu'r sefydliad. Mae cyfanswm y cyflog yn cynnwys cyflog a buddion mewn nwyddau pan fo'n berthnasol. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, na'r Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod.

Yn 2020/21, cafodd chwe aelod o staff dan gontract (2019/20: tri) eu talu ar gyfradd uwch na'r cyfarwyddwr a delir fwyaf. Band cyflog y cyfarwyddwr a dalwyd uchaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21 oedd £140,000 i £145,000 (2019/20: £140,000 i 145,000). Roedd hyn bedair gwaith (2019-20: pedair gwaith) yn fwy na chyflog canolrifol y gweithlu, a oedd yn £35,288 (2019/20: £35,503). Mae graddfeydd cyflog staff yn amrywio o £18,391 i £68,696.  Dangosir cyflogau cyfarwyddwyr yn y tabl uchod.

Adroddiad staff

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad a chostau ein gweithlu. Cynhwysir staff sydd wedi'u cyflogi'n uniongyrchol yn y tablau isod (cyflogeion parhaol, penodiadau cyfnod penodol, prentisiaid) yn ogystal â staff eraill (asiantaeth, contractwyr, secondeion).

Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2021

Gwryw

Employees Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
All employees 1,366 1,338
Of which are Leadership Team 10 10
Of which are Executive Team 2 2

 

Benyw

Employees Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
All employees 1,086 1,009
Of which are Leadership Team 13 12.5
Of which are Executive Team 4 4

 

Cyfanswm

Employees Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
All employees 2,452 2,347
Of which are Leadership Team 23 22.5
Of which are Executive Team 6 6

 

Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2020

Gwryw

Employees Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
All employees 1,221 1,196
Of which are Leadership Team 11 11
Of which are Executive Team 3 3

 

Benyw

Employees Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
All employees 966 896
Of which are Leadership Team 11 9
Of which are Executive Team 2 2

 

Cyfanswm

Employees Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
All employees 2,187 2,092
Of which are Leadership Team 22 20
Of which are Executive Team 5 5


Nifer cyfartalog yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn oedd:

Personau cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi Staff parhaol Eraill Cyfanswm 2020/21 Cyfanswm 2019/20
Wedi'u cyflogi'n uniongyrchol 1,986 84 2,070 1,839
Staff asiantaeth a chontract 0 161 161 168
Cyfanswm 1,986 245 2,231 2,007


Costau staff

Costau staff Staff parhaol 2020/21 £’000 Staff eraill 2020/21 £’000 Cyfanswm 2020/21 £’000 Cyfanswm 2019/20 £’000

Taliadau a chyflogau

70,812

16,526

87,338

77,605

Costau nawdd cymdeithasol a threthi eraill

7,488

601

8,089

7,295

Costau pensiwn eraill

13,344

556

13,900

21,267

Cyfanswm costau cyflogau net

19,644

17,683

109,327

106,167

 

Gwariant arall ar gyfer staff:

Gwariant arall ar gyfer staff Cyfanswm 2020/21 £’000 Cyfanswm 2019/20 £’000

Costau pecynnau ymadael

204

1,470

Tâl gwasanaeth Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19 (pensiynau)

9,191

12,513

Heb gostau pensiwn ymddeoliadau cynnar

Negyddol 88

Negyddol 260

Heb gyfraniadau pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ystod y flwyddyn

Negyddol 1,948

Negyddol 11,699

Trosglwyddiadau i ddarparu ar gyfer Taliadau Iawndal Blynyddol

0

39

Symudiad mewn cyflog gwyliau a gronnwyd

942

Negyddol 59

Cyfanswm gwariant arall ar gyfer staff

8,301

2,004

Heb symiau a godwyd ar brosiectau cyfalaf

Negyddol 11,130

Negyddol 7,919

Cyfanswm costau cyflogau net

109,327

106,167

Cyfanswm costau staff

106,498

100,252

Gwasanaethau a brynwyd i mewn yn Nodyn 5 mae ein datganiadau ariannol a'n nodiadau i'r cyfrifon (gwariant arall) yn cynnwys £ 10.3 miliwn o wariant ar ymgynghorwyr (2019/20 £ 7.7 miliwn). Gellir gweld manylion rhwymedigaethau pensiwn CNC yn Nodyn 14 o'n harian datganiadau a nodiadau i'r cyfrifon.

Datganiadau ariannol a Nodiadau i’r cyfrifon ar gyfer 2020/21

Cynlluniau pensiwn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aelod o ddau gynllun pensiwn. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun agored, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n aelod caeedig o Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd o dan gytundeb derbyn cymunedol. Dangosir rhagor o fanylion am y cynlluniau pensiwn hyn isod.

Cyfraniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr na chânt eu hariannu yw PCSPS a'r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn "Alpha". Ond nid yw'r cynlluniau yn nodi cyfran sefydliadau unigol o'r asedau a rhwymedigaethau sylfaenol. Gwnaeth actiwari'r cynllun brisio'r PCSPS fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2016. Gallwch weld y manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.

Ar gyfer 2020/21, roedd £11,846,000 o gyfraniadau cyflogwr yn ddyledus i'r PCSPS (2019/20: £9,472,000) ar un o bedair cyfradd yn yr amrediad 26.6% i 30.3% o enillion pensiynadwy (26.6% i 30.3% ar gyfer 2019/20), yn seiliedig ar fandiau cyflog.  Fel arfer, mae actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o'r cynllun llawn. Mae'r cyfraddau cyfrannu wedi'u gosod er mwyn talu costau'r buddion a gronnwyd yn ystod 2020/21, sydd i gael eu talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr cyfredol.

Pensiynau partneriaeth rhanddeiliaid

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid gyda chyfraniad cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr gwerth £137,000 (2019/20: £97,000) i'r darparwr pensiwn rhanddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn seiliedig ar oedran ac yn amrywio o 8% i 14.75%. Mae cyflogwyr hefyd yn talu cyfraniadau cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy. Yn ogystal, roedd cyfraniadau cyflogwr gwerth £5,000, sef 0.5% o gyflog pensiynadwy (2019/20: £4,000), yn daladwy i'r PCSPS i dalu costau darparu buddion cyfandaliad yn y dyfodol yn sgil marw yn y swydd neu ymddeoliad oherwydd salwch y cyflogeion hyn.

Nid oedd unrhyw gyfraniadau'n ddyledus i'r darparwyr pensiwn partneriaeth ar ddyddiad y fantolen, ac ni chafodd unrhyw gyfraniadau eu talu ymlaen llaw.

Cyfraniadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud taliadau i Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd (EAPF), fel yr awdurdod gweinyddu ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), trwy Capita, gweinyddwyr y gronfa bensiwn.

Cynllun pensiwn statudol i'r gwasanaethau cyhoeddus yw'r LGPS, sydd wedi'i ariannu ac sy'n gwneud cyfraniadau diffiniedig. Bob tair blynedd, mae'r EAPF yn prisio'r pensiwn ar y cyd ag actiwari'r cynllun. Ar 31 Mawrth 2019, asesodd y prisiad fod sefyllfa ariannol yr EAPF ar lefel ariannu o 106% (2016: 103%). Prif ddiben y prisiad actiwaraidd yw adolygu sefyllfa ariannol y gronfa a phennu faint bydd cyflogwyr yn cyfrannu at y gronfa yn y dyfodol.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU reoliadau yn 2016 a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i gronfeydd LGPS gyfuno buddsoddiadau er mwyn gwella effeithlonrwydd. Crëwyd Partneriaeth Bensiwn Brunel, a oedd yn cynnwys yr EAPF a naw cronfa LGPS arall, er mwyn cyflawni'r rhwymedigaeth hon. 

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gytundeb derbyn cymunedol gyda'r EAPF i gymryd rhan yn yr LGPS, a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol mewn perthynas â staff yr hen Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a drosglwyddodd i CNC ar 1 Ebrill 2013.  Cafodd y rhwymedigaethau ar gyfer cyn-aelodau a gyflogwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o ran swyddogaethau Cymru (pensiynau mewn taliad ac aelodau gohiriedig) eu trosglwyddo hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwarant gan yr EAPF i'w hindemnio am unrhyw rwymedigaethau a ddaw yn sgil cyfranogiad CNC yn yr EAPF.

Cyfradd y cyfraniad cyflogwr yn ystod 2020/21 oedd 23.08% (2019/20: 23.9%). Yn ystod 2020/21, talwyd £1,948,000 o gyfraniadau cyflogwr i'r LGPS (2019/20: £11,699,000), a oedd yn cynnwys taliad ychwanegol i leihau'r balans ar gronfa bensiwn Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19.  Yn ychwanegol, talwyd £88,000 o gostau straen ymddeoliad cynnar fel rhan o becynnau ymadael.

Pecynnau ymadael

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost: 2020/21 2019/20
Llai na £10,000 1 3
£10,001 - £25,000 3 7
£25,001 - £50,000 0 6
£50,001 - £100,000 2 15
£100,001 - £150,000 0 0
Cyfanswm 6 31
Cost adnoddau £204,000 £1,470,000


Nid oedd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn 2020/21 nac yn 2019/20.

Mae costau ymadael gwirfoddol wedi'u talu yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae'r tabl uchod yn dangos cyfanswm cost y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac y cafodd eu cyfrif yn 2020/21. Mewn gwirionedd, talwyd costau ymadael o £252,000 yn 2020/21, sef y flwyddyn ymadael. Mae'r swm hwn yn cynnwys £9,000 o daliadau ychwanegol ar gyfer saith pecyn a ddatgelwyd yn 2019/20. Pan fo CNC wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, caiff y costau ychwanegol eu talu gan CNC ac nid gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol oherwydd salwch eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tabl.

Pan gytunodd y cyrff etifeddol ar ymddeoliadau cynnar, cyfrifwyd y costau yn llawn yn y flwyddyn y’u cytunwyd, a gwnaed darpariaeth ar gyfer ymrwymiadau yn y dyfodol. Dengys y taliadau iawndal blynyddol o ran y rhain yn Nodyn 13 yn Datganiadau ariannol a Nodiadau i’r cyfrifon (Darpariaethau).

Absenoldeb oherwydd salwch (nad yw'n cael ei archwilio)

Dangosodd cyfradd ein habsenoldebau oherwydd salwch ar gyfer y flwyddyn dreigl (1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021) y collodd pob cyflogai 4.9 o ddiwrnodau ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 2.2%. 

Polisi Anabledd (nad yw'n cael eu harchwilio)

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Ar 26 Ebrill 2021, gwnaethom gwblhau'n llwyddiannus ein hymarfer hunanasesu ac, o ganlyniad, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ailachredu CNC fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd nes 22 Ebrill 2024. 

logo cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Cynllun Gwarantu Cyfweliad 'Tic Dwbl'

Yn ystod y flwyddyn galendr 2020, gwnaethom barhau i gydymffurfio 100% â'n cynllun gwarantu cyfweliad 'Tic Dwbl', lle mae ymgeiswyr sy'n datgan bod ganddynt anabledd, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, ac sy’n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl y gwneir cais amdani, yn derbyn cyfweliad yn awtomatig.

Yn allanol, gwnaethom dderbyn ceisiadau gan 3,554 o bobl, yr oedd 59 (1.66%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig.   Yn fewnol, gwnaethom dderbyn ceisiadau gan 312 o bobl, yr oedd pedwar (1.28%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig.

Rhwydweithiau Staff (nad yw'n cael eu harchwilio)

Mae rhwydweithiau staff yn cael eu cynnal gan staff ar gyfer staff, ac maent yn dod â phobl o bob rhan o'r gweithle ynghyd sy’n uniaethu ag eraill o gefndir neu grŵp tebyg.  Mae'r rhwydweithiau yn cyflawni swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio yn gymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid, a datblygiad personol.  Gallant hefyd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ein polisïau a'n harferion gweithio.

Rydym yn cydnabod gwerth grwpiau sy'n trefnu eu hunain o ran creu amgylchedd sy'n parchu amrywiaeth ymhlith staff ac sy'n eu galluogi i ddwyn y budd a mwynhad gorau posibl o gymryd rhan yn y gweithle.

Anelwn at gefnogi'r rhwydweithiau hyn drwy wneud y canlynol:

  • Annog rheolwyr i ryddhau gweithwyr er mwyn iddynt allu cymryd rhan ynddynt;
  • Hyrwyddo'r rhwydweithiau i weithwyr newydd ac i'r bobl sydd eisoes yn gweithio i'r sefydliad;
  • Gwrando, mewn ffordd gadarnhaol, i unrhyw bryderon gan weithwyr a godir trwy'r rhwydweithiau staff;
  • Cymryd rhan mewn mentrau a ddatblygir gan y rhwydweithiau staff.

Mae gennym saith rhwydwaith staff ar hyn o bryd, fel a ganlyn:

  • Grwpiau Defnyddwyr a Gynorthwyir (TGCh a Theleffoni)
  • Calon LHDT+
  • Y Gymdeithas Gristnogol
  • Cwtsh (Rhwydwaith Gofalwyr)
  • Cyfeillion Dementia
  • Rhwydwaith Mwslimiaid
  • Niwroamrywiaeth

Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir

Mae gennym rwydwaith staff gweithredol, sef y Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir, sy'n cynnig cyngor a barn ar faterion TG a theleffoni cyfredol a newydd i aelodau o'r staff sydd wedi cael addasiadau rhesymol wedi'u gwneud i'w lleoliadau gwaith. Rydym wedi canfod bod y grŵp hwn yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd ei allu i brofi mentrau newydd, fel hygyrchedd ein harolygon staff a letyir yn allanol. Mae'r rhwydwaith yn allweddol wrth sicrhau bod ein holl staff yn gallu defnyddio'n systemau ac mae’n rhannu arferion gorau gydag aelodau'r grŵp defnyddwyr ac yn profi systemau newydd arfaethedig yn rheolaidd i ddefnyddwyr ar ran y sefydliad.

Cyfeillion Dementia

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, daeth 140 o weithwyr a mwy yn Gyfeillion Dementia newydd yn CNC rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2020, gydag CNC yn cynnal sesiynau rhithwir a gysylltwyd â'r rhaglen gynefino ar gyfer gweithwyr newydd ynghyd â'n gweminarau #TîmCNC i staff.  Mae'n holl weithwyr newydd yn mynychu sesiwn cyfaill dementia rithwir yn ystod eu misoedd cyntaf gyda ni.

Mae dwy sesiwn ‘Codi Ymwybyddiaeth o Gyfeillion Dementia’ wedi'u cynnal, ynghyd â sesiwn fer am daith CNC tuag at ddod yn gymuned sy’n deall dementia, yr adnoddau sydd ar gael i staff, a'r disgwyliadau sydd gennym ohonynt i fod yn ystyriol o ddementia yn eu gwaith.

Mae gan CNC bum Hyrwyddwr Dementia bellach, sy'n gallu cyflwyno sesiynau gwybodaeth naill ai wyneb yn wyneb neu drwy ddefnyddio'r platfform rhithwir newydd.  Mae gwaith Cyfeillion Dementia yn parhau i gael ei gynrychioli yn ystod cyfarfodydd ein Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bu paned rhithwir ‘gofalu am bobl hŷn’ yn rhan o raglen wythnos o ddigwyddiadau gan ein rhwydwaith Cwtsh yn ddiweddar.

Materion cyflogeion eraill (nad ydynt yn cael eu harchwilio)

Yn ystod 2020/21, gwnaethom gwblhau, mewn partneriaeth â'r undebau llafur, ein polisi Taliadau a Thaliadau Chwyddo newydd.

Swyddi oddi ar y gyflogres (nad ydynt yn cael eu harchwilio)

Mae gofyn i CNC gyhoeddi gwybodaeth am benodi ymgynghorwyr neu aelodau staff sy'n para'n hwy na chwe mis a lle mae unigolion yn ennill mwy na £245 y dydd, lle'r ydym yn talu drwy anfonebu ac nid y gyflogres. Cynlluniwyd y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres i sicrhau, os bydd rhywun yn gweithio drwy gyfryngwr a byddai wedi cael ei ystyried, at ddibenion cyfraniadau treth incwm ac yswiriant gwladol, fel cyflogai pe bai’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y cleient (CNC), ei fod yn talu tua'r un cyfraniadau treth incwm ac yswiriant gwladol fel petai wedi'i gyflogi. Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i bobl sydd wir yn hunangyflogedig.

Cyfrifoldeb y cleient (CNC) yw cynnal yr asesiad at ddibenion treth yn hytrach na'r cyfryngwr. Os penderfyniad yr asesiad yw bod y rôl o fewn cwmpas IR35, bydd y cyfryngwr yn talu yr un dreth cyflogai a fyddai cyflogai ar y gyflogres.

Mae'r tablau canlynol yn dangos ein sefyllfa mewn perthynas â'r gofynion hyn.

Swyddi oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2021, am fwy na £245 y dydd ac sy'n para'n hwy na chwe mis

Nifer y swyddi presennol ar 31 Mawrth 2021 sydd wedi bodoli am: Nifer y contractwyr

llai na blwyddyn

12

rhwng un a dwy flynedd

43

rhwng dwy a thair blynedd

19

rhwng tair a phedair blynedd

10

pedair blynedd neu'n fwy

20

Cyfanswm

104


Mae mwyafrif y contractwyr yn cefnogi'r tîm Trawsnewid wrth ddatblygu a thrawsnewid ein systemau TGCh.

Swyddi newydd oddi ar y gyflogres, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, am fwy na £245 y dydd ac sy’n para'n hwy na chwe mis

Swyddi newydd Nifer y contractwyr

Nifer y swyddi newydd, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021

104

Y nifer o'r rhain a aseswyd fel rhai sy’n dod o dan drefniadau IR35

0

Y nifer o'r rhain a aseswyd fel rhai nad ydynt yn dod o dan drefniadau IR35

104

Y nifer o'r rhain a gyflogwyd yn uniongyrchol ac sydd ar gyflogres CNC

0

Nifer y swyddi o'r rhain a gafodd eu hailasesu at ddibenion cysondeb/sicrwydd yn ystod y flwyddyn

88

Nifer y swyddi o'r rhan a welodd newid i'w statws IR35 ar ôl yr adolygiad cysondeb

0

Adroddiad Seneddol ac Archwilio (wedi'i archwilio)

Colledion a thaliadau arbennig

Mae rheolau Rheoli Arian Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ddatgelu colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori, math a gwerth pan fydd eu cyfanswm yn fwy na £300,000 ac ar gyfer unrhyw eitemau unigol sy'n werth £300,000 neu ragor.

Colledion unigol o £300,000 neu ragor

Nid oedd unrhyw golledion na thaliadau arbennig o £300,000 neu'n fwy yn ystod 2020/21. 

Colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori

Mae'r tabl isod yn nodi nifer y ceisiadau am ddiddymu taliadau a thaliadau arbennig a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn.

Categori neu fath o golled 2020/21 Nifer 2020/21 £’000 2019/20 Nifer 2019/20 £’000

Diddymu dyledion na ellir eu hadennill

0

0

16

23

Asedau a gollwyd

15

18

14

294

Colledion eraill (colledion ariannol, taliadau ofer, hawliadau na ellir eu gorfodi, neu anrhegion)

34

104

10

6

Taliadau arbennig

5

17

2

2

Cyfanswm

54

139

42

325


Yn ychwanegol i'r uchod, cafodd gwariant cyfalaf ei ailddosbarthu, a arweiniodd at ostyngiad mewn datblygu meddalwedd anniriaethol o £451,000, sydd bellach yn cael ei gydnabod fel gwariant refeniw, fel y disgrifir yn Nodyn 5 yn Datganiadau ariannol a Nodiadau i’r cyfrifon.

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer y Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 o dan baragraff 23 o’r Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 Mae'r rhain yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o'r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lif Arian Parod, Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu sylweddol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â’r polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM. 

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru ar 31 Mawrth 2021 ac o'i gostau gweithredu net am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
  • wedi eu paratoi’n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM; ac
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob agwedd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodiadau ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli nhw.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Cyrff y Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Mae disgrifiad pellach o’m cyfrifoldebau o dan y safonau hynny yn adran cyfrifoldebau’r archwilydd wrth archwilio datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwyf yn annibynnol o’r corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi ei chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod y defnydd o sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith a gyflawnais, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy’n ymwneud â digwyddiadau nac amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg pan awdurdodir cyhoeddiad y datganiadau ariannol.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau y Swyddog Cyfrifyddu mewn cysylltiad â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ar wahân i'r datganiadau ariannol a rhannau eraill o'r adroddiad a archwilir ac adroddiad fy archwilydd ar hynny. Nid yw deddfwriaeth a chyfarwyddiadau a roddir i Gyfoeth Naturiol Cymru yn nodi cynnwys a ffurf y wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, oni nodir fel arall yn glir yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o sicrwydd ynghylch hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn anghyson yn berthnasol â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu ei bod yn ymddangos fel arall ei bod wedi ei chamddatgan yn berthnasol. Os byddaf yn nodi anghysondebau perthnasol o’r fath neu gamddatganiadau perthnasol amlwg, mae’n ofynnol imi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, ar sail y gwaith a gyflawnais, yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi ei chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol imi sôn am y ffaith honno.

Nid oes gennyf unrhyw beth i adrodd amdano i’r perwyl hwn.

Adroddiad ynghylch gofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Oherwydd nad yw deddfwriaeth na chyfarwyddiadau a roddir i Gyfoeth Naturiol Cymru yn nodi cynnwys na ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod Adroddiad Blynyddol wedi ei pharatoi yn unol â’r canllawiau.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad Blynyddol yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Er nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol ar gyfer Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi adroddiad o’r fath ac yn fy marn i, mae’r rhan y mae’n ofynnol ei harchwilio fel arfer wedi ei pharatoi’n briodol yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni gwybodaeth a dealltwriaeth y corff a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod y gwaith archwilio, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Blynyddol neu y Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • nad oes cofnodion cyfrifyddu priodol wedi eu cadw, neu ni dderbyniwyd ffurflenni cyfrifyddu digonol ar gyfer fy archwiliad oddi wrth y canghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â nhw;
  • nad yw’r datganiadau ariannol na rhan archwiliedig yr Adroddiad Taliadau Cydnabyddiaeth yn cytuno â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
  • na ddatgelir gwybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru ynghylch taliadau cydnabyddiaeth a thrafodiadau eraill; neu
  • nad wyf wedi cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â chyfarwyddiadau Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a Gweinidogion Cymru a wnaed yno, i fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun gwir a theg ac am y fath reolaeth fewnol y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn penderfynu sy’n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo’n briodol, faterion sy’n ymwneud â’r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni thybir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd o ran archwilio’r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy’n cynnwys fy marn i. Sicrwydd rhesymol yw lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) yn canfod camddatganiad perthnasol bob amser pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi trwy dwyll neu wall a chânt eu hystyried yn berthnasol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yw achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. Rwy’n cynllunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn cysylltiad ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • Holi’r rheolwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cysylltiad â:
  • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio;
  • canfod ac ymateb i risgiau o dwyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig;
  • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
  • Ystyried, gan weithredu fel tîm archwilio, sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl.
  • Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru;

Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau ar gyfer ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau y datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol er mwyn asesu cydymffurfedd â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ynghylch cyfreithiad a honiadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrth-wneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion mewn cyfnodolion ac addasiadau eraill; asesu a yw’r barnau a wneir wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o duedd bosibl; a
  • gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodiadau arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i fusnes arferol.

Rwyf hefyd wedi cyfleu cyfreithiau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau o dwyll posibl i bob tîm archwilio, gan barhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Mae’r anhawster cynhenid i ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, a natur, amseru a graddau’r gweithdrefnau archwilio a gyflawnir yn effeithio ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd o ran archwilio’r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol.

Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy adroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau rheoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra y trafodiadau ariannol.

Rwy’n derbyn digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol imi fod y gwariant a’r incwm wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli nhw.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ynghylch y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru
14 Gorffennaf 2021

24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio’r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Yn ôl at yr Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2020/21

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf