Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol 2019-20

Ein gweledigaeth

Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell ar gyfer Cymru trwy reoli'r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.

Ein diben

Trwy'r Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 newydd, mae'n rhaid i:

  • geisio rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy
  • chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Cyflwyniad

Mae ein system rheoli amgylcheddol yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu’n sefydliad ardderchog drwy gynnal ein hardystiad ISO14001:2015, ein hardystiad coedwigoedd yn erbyn Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig a lleihau ein heffaith amgylcheddol a'n ôl-troed carbon.

Mae CNC hefyd yn cefnogi datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru a wnaed ym mis Ebrill 2019. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r argyfwng amgylcheddol ehangach cysylltiedig, yn enwedig o ran colli bioamrywiaeth, a'r angen i wneud ecosystemau Cymru yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â chynaliadwyedd amgylcheddol, ar wahân i gamau gweithredu neu ganlyniadau cynaliadwyedd ehangach, a gellir canfod y rhain trwy gydol ein Hadroddiad Blynyddol a'n Cyfrifon.

Crynodeb o berfformiad

Yn 2019/20 rydym wedi:

  • sicrhau lleihad o 5% yn ein hôl troed carbon cyffredinol mewn perthynas ag allyriadau cwmpas 1, cwmpas 2 a mesuriadau cyfredol cwmpas 3 o gymharu â data 2018/19
  • lleihau ein defnydd o'r prif gyflenwad trydan mewn adeiladau a depos sydd wedi'u meddiannu am y chweched flwyddyn yn olynol, gyda gostyngiad o 3% yn 2019/20 o'i gymharu â data 2018/19
  • sicrhau lleihad o 3% yn ein milltiroedd busnes cyffredinol o'i gymharu â data 2018/19
  • cadw ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 a Safon Sicrwydd Coetir y Deyrnas Unedig, yn dilyn archwiliadau a gwirio allanol annibynnol

Tabl 1: Tabl crynhoi'r Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol

Categori Unedau 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

tCO2e

5,115

4,387

4,199

3,994

Ynni a ddefnyddir

miliwn kWh

6.3

6.0

6.3

7.1

Ynni - gwariant

£ mil

776

618

583

729

Gwastraff a gynhyrchwyd

tunellau

1,424

1,141

966

1,772

Gwastraff - gwariant

£ mil

225

273

218

333

Dŵr - defnydd

m3

76,293

50,908

40,115

42,127

Dŵr - gwariant

£ mil

32

25

30

13

Mae Tabl 1 yn dangos y newid cymharol ar gyfer meysydd allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

  • cafwyd gostyngiad sy'n gyfwerth â 205 tunnell o garbon deuocsid (tCO2e) mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr sefydliadol
  • cynyddodd ynni, gwastraff a dŵr i gyd oherwydd anghenion gweithredol oedd yn ymwneud â lliniaru llifogydd, stormydd difrifol ym mis Ionawr 2020 a gofynion deorfa pysgod

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am bob un o'r rhain o fewn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Cafwyd gostyngiad o 4.9% mewn allyriadau carbon yn 2019/20 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Cwmpas 1 cafwyd gostyngiad o 14.8% mewn allyriadau uniongyrchol,, a oedd yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn y swm o danwydd a ddefnyddiwyd yn ein ceir cronfa a chan ein timau gweithredol.

Cwmpas 2 cafwyd cynnydd o 5.0% mewn allyriadau anuniongyrchol ynni, a oedd o ganlyniad i gynnydd yn y defnydd o drydan yn ein gorsafoedd pwmpio er mwyn lleddfu llifogydd.

Cwmpas 3 cafwyd cynnydd o 17.8% mewn allyriadau anuniongyrchol eraill, a oedd yn bennaf oherwydd cynnydd mewn gwastraff gweithredol (e.e. malurion a silt a dynnwyd o gyrsiau dŵr).

Tabl 2: Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Unedau 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20

Cwmpas 1: Allyriadau uniongyrchol

tCO2e

2,835

2,466

2,499

2,129

Cwmpas 2: Allyriadau ynni anuniongyrchol

tCO2e

1,662

1,317

1,077

1,130

Cwmpas 3: Allyriadau anuniongyrchol eraill

tCO2e

617

603

624

735

Cyfanswm gros allyriadau nwyon tŷ gwydr

tCO2e

5,115

4,387

4,199

3,994

Tu allan i’r cwmpasau (h.y. biomas)

tCO2e

220

208

187

184

Nodyn 1: Data heb ei ddilysu'n allanol – sicrwydd cyfyngedig.

Nodyn 2: Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol Cwmpas 3 eraill yn cynnwys: teithio ar drên, hedfan, teithio fflyd lwyd, teithio mewn car prydles, teithio mewn car llog, dŵr a gwastraff.

Nodyn 3: Nid yw'r allyriadau Cwmpas 3 a ddaw yn sgil prynu nwyddau a gwasanaethau, defnyddio agregau mewn gwaith adeiladu a defnyddio pren wedi'u cynnwys.

Ynni

Cafwyd gostyngiad o 67,721 kWh yn y defnydd o drydan o'r prif gyflenwad mewn adeiladau a depos sydd wedi’u meddiannu, sef gostyngiad o 3% yn 2019/20 o'i gymharu â data 2018/19.

Fodd bynnag, cafwyd cynnydd o 13.5% yng nghyfanswm ein defnydd o ynni (sy'n cynnwys trydan, prif gyflenwad o nwy, LPG, olew gwresogi a biomas) ar sail data'r flwyddyn flaenorol.

Roedd hyn o ganlyniad i gynnydd yn y defnydd o drydan yn ein gorsafoedd pwmpio o 1,298,317 kWh i 1,985,005 kWh er mwyn lleddfu llifogydd.

Defnyddiodd ein saith gorsaf bwmpio fwyaf dros 700,000 kWh o drydan i ddargyfeirio a rheoli lefelau a llif dŵr er mwyn diogelu pobl, tir ac eiddo rhag llifogydd.

Ni chafwyd newid sylweddol yn lefel yr ynni a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy a chafwyd gostyngiad bach oherwydd amrywiadau tymhorol. Gosodwyd paneli ffotofoltäig mewn dau safle newydd ar ddiwedd mis Mawrth 2020 ac mae cynlluniau i'w gosod mewn pedwar safle arall yn 2020/21 a fydd yn golygu y bydd swm y trydan o ynni adnewyddadwy a chanran y trydan a ddaw o ffynonellau adnewyddadwy yn cynyddu yn 2020/21.

Tabl 3: Ynni a ddefnyddiwyd

Adnodd a ddefnyddir – Ynni Unedau 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd lle ceir staff

kWh

5,209,072

4,918,340

4,973,616

5,131,465

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd lle ceir staff

tCO2e

1,723

1,436

1,236

1,188

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd heb staff

kWh

1,131,651

1,122,103

1,298,317

1,985,005

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd heb staff

tCO2e

466

395

367

507

Ynni adnewyddadwy a gynhyrchir

kWh

76,649

106,856

167,879

161,193

% cyfanswm ynni a ddefnyddir fel ynii adnewyddadwy

%

1.4

2.2

3.4

3.1

Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - defnydd

kWh

6,340,723

6,040,443

6,271,933

7,116,479

Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - defnydd

tCO2e

2,189

1,830

1,603

1,696

Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - gwariant

£ mil

777

618

583

729

Dŵr

Cafwyd gostyngiad o 565 m3yn y defnydd o ddŵr o'r prif gyflenwad, sef gostyngiad o 4.6% yn 2019/20 o'i gymharu â data 2018/19.

Cafwyd gostyngiad hefyd yn ein harddwysedd o ran defnydd o ddŵr (m3/cyfwerth ag amser llawn) o 3.2 i 2.9, oherwydd y gostyngiad yn y defnydd o ddŵr a chynnydd mewn staff cyfwerth ag amser llawn. (Arddwysedd swyddfa nodweddiadol ar gyfartaledd yw 4.0 o ran y defnydd o ddŵr.)

Rydym hefyd yn gweithio gyda Waterwise ar hyn o bryd er mwyn gwella ein rheolaeth o ddŵr mewn swyddfeydd a chanolfannau ymwelwyr i leihau ein defnydd o ddŵr ymhellach.

Cafwyd cynnydd o 2,012 m3yn y defnydd cyffredinol o ddŵr, sef cynnydd o 5.0% yn 2019/20 o'i gymharu â data 2018/19. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd yn swm y dŵr a dynnwyd i alluogi deorfa bysgod Cyfoeth Naturiol Cymru i weithredu'n effeithlon (o 25,424 m3 yn 2018/19 i 28,007 m3 yn 2019/20).

Tabl 4: Dŵr a ddefnyddiwyd

Adnodd a ddefnyddir – Dŵr Unedau 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20

Dŵr o’r prif gyflenwad

m3

11,411

11,894

12,368

11,803

Cyfanswm y dŵr a dynnir

m3

64,850

39,014

27,747

30,324

Dŵr o’r prif gyflenwad (swyddfa)

m3

5,923

5,555

6,047

6,228

Dŵr a dynnir (swyddfa)

m3

15

22

32

26

Dŵr prif gyflenwad (nad yw ar gyfer syddfa)

m3

5,488

6,339

6,321

5,575

Dŵr a dynnir (nad yw ar gyfer swyddfa)

m3

64,835

38,992

27,715

30,298

Arddwysedd o ran defnydd o ddŵr (at ddefnydd swyddfa)

m3 fesul cyfwerth ag amser llawn

3.3

3.0

3.2

2.9

Cyfanswm dŵr – defnydd

m3

76,283

50,908

40,115

42,127

Cyfanswm dŵr – defnydd

tCO2e

26

18

14

15

Cyfanswm dŵr - gwariant

£ mil

32

25

30

13

Teithio

Mae ein hanghenion teithio'n cynnwys: teithio i reoli safleoedd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol difrifol, cymryd samplau, ymdrin â llifogydd, cyfarfodydd safle a theithio rhwng swyddfeydd.

Cafwyd gostyngiad o 218,457 o filltiroedd mewn milltiroedd teithio busnes, sef gostyngiad o 2.9% yn 2019/20 o gymharu â data 2018/19.

Cafwyd gostyngiad o 192 tCO2e mewn allyriadau carbon teithio busnes, sef gostyngiad o 9.6% yn 2019/20 o'i gymharu â data 2018/19, o ganlyniad i’r ffaith bod cyfran uwch o deithio busnes yn cael ei wneud ar y trên.

Cafwyd ychydig o ostyngiad yn y teithio a wnaed mewn cerbydau trydan, o ganlyniad i broblemau gyda'r seilwaith gwefru. Gyda chynlluniau i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a chyda phump ar hugain o gerbydau trydan ychwanegol wedi'u prynu yn barod, rydym am geisio cynyddu milltiroedd ein cerbydau trydan yn 2020/21.

Tabl 5: Teithio Busnes

Teithio busnes Unedau 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20

Fflyd â bathodyn CNC

milltiroedd

6,064,812

5,440,945

5,562,246

4,934,687

Fflyd â bathodyn CNC

£ mil

-

749

789

720

Cerbydau prydles

milltiroedd

191,730

0

0

0

Cerbydau prydles

£ mil

18

0

0

0

Cerbydau fflyd lwyd

milltiroedd

639,064

590,998

614,868

554,375

Cerbydau fflyd lwyd

£ mil

287

266

277

249

Cerbydau llog

milltiroedd

322,505

261,039

277,390

512,209

Cerbydau llog

£ mil

74

88

124

195

Trên

milltiroedd

864,366

938,418

993,213

1,258,211

Trên

£ mil

223

183

328

397

Hedfan

milltiroedd

71,057

33,661

50,299

26,663

Hedfan

£ mil

19

5

7

7

Beic

milltiroedd

2,346

2,301

3,714

4,012

Beic

£ mil

< 1

< 1

< 1

< 1

Beic modur

milltiroedd

2,447

1,735

1,155

729

Beic modur

£ mil

< 1

< 1

< 1

< 1

Cerbydau trydan

milltiroedd

0

0

32,832

26,374

Cyfanswm teithio business

milltiroedd

8,158,327

7,269,097

7,535,717

7,317,260

Cyfanswm teithio business

tCO2e

2,249

2,019

2,002

1,810

Cyfanswm teithio business

£ mil

-

1,291

1,525

1,568

Lleihau a rheoli gwastraff

Cafodd cyfanswm o 196 tunnell o wastraff swyddfa ei ddargyfeirio rhag cael ei waredu ar safleoedd tirlenwi yn 2019/20 o'i gymharu â data 2018/19.

Cynyddodd gwastraff gweithredol oherwydd y stormydd difrifol ym mis Ionawr 2020, a thynnwyd llawer iawn o wastraff (malurion a silt) o gyrsiau dŵr er mwyn atal llifogydd. Yn ogystal, mae'r gofyniad i gael gwared ar dipiau gwastraff peryglus wedi arwain at gynnydd mewn allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â gwastraff.

Tabl 6: Gwastraff a gynhyrchwyd

Gwastraff Unedau 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20

Gwastraff swyddfa - Tirlenwi

tunellau

241

213

286

90

Gwastraff swyddfa - Tirlenwi

tCO2e

101

125

168

53

Gwastraff swyddfa - Tirlenwi

£ mil

22

25

25

24

Gwastraff swyddfa – Ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd

tunellau

934

600

431

972

Gwastraff swyddfa – Ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd

tCO2e

20

13

9

21

Gwastraff swyddfa – a losgir

tunellau

15

27

31

31

Gwastraff swyddfa – a losgir

tCO2e

< 1

< 1

< 1

< 1

Gwastraff gweithredol a thipio anghyfreithlon

tunellau

234

301

218

680

Gwastraff gweithredol a thipio anghyfreithlon

tCO2e

65

135

98

269

Cyfanswm gwastraff

tunellau

1,424

1,141

966

1,772

Cyfanswm gwastraff

tCO2e

186

274

276

343

Cyfanswm gwastraff

£ mil

225

273

218

333

Caffael cynaliadwy

Ein Gweledigaeth o ran Caffael yw darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad caffael effeithiol i gefnogi cenhadaeth a gwerthoedd CNC ac ymgorffori cysyniadau sylfaenol sefydliad sy’n dysgu gyda Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy fel ei egwyddor drefnu ganolog.

Mae'r adran Gaffael a'r tîm carbon bositif wedi bod yn gweithio ar y cyd i weithredu’r defnydd o Offeryn Cynllunio Carbon yn ein contractau. Nod hyn yw lleihau'r allyriadau carbon a gynhyrchir yn anuniongyrchol gan ein contractwyr, sef y ffynonellau allyriadau mwyaf heriol i fynd i'r afael â nhw. Sicrhawyd cyllid fel y gall arbenigwr weithio gyda’r adran Gaffael i ddatblygu’r offer a methodoleg ar gyfer lleihau allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi.

Digwyddiadau amgylcheddol

Yn 2019/20 cafwyd ugain o ddigwyddiadau amgylcheddol o ganlyniad i'n gwaith neu oherwydd gwaith contractwyr rydym yn eu rheoli.

Ni ddosbarthwyd unrhyw ddigwyddiadau fel rhai Uchel, dosbarthwyd pymtheg fel rhai Isel, dosbarthwyd pedwar fel Digwyddiadau ac roedd un yn Ddi-ddosbarth.

Pan geir digwyddiadau oherwydd ein gwaith ni (neu waith ein contractwyr), rydym yn adolygu'r hyn sydd wedi digwydd, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y digwyddiad.

Llywodraethu ac adrodd

Rydym yn adrodd ar ein hôl troed carbon fel rhan o'n fframwaith perfformiad, a adroddir gan y Tîm Gweithredol i'r Bwrdd (mewn sesiwn gyhoeddus agored) bedair gwaith bob blwyddyn.

Rydym yn casglu'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad cynaliadwyedd hwn trwy gyfuniad o ddarlleniadau mesurydd (e.e. nwy, trydan), anfonebau (e.e. pryniadau ar gardiau tanwydd), data gan gyflenwr (e.e. milltiroedd trên) a data cyllid, gan ddefnyddio'r ffynhonnell/ffynonellau mwyaf cywir sydd ar gael i ni. Rydym hefyd yn ceisio lleihau’r defnydd o unrhyw ddata amcangyfrifedig yn ein hadroddiadau.

Prosiect Carbon Bositif

Cymeradwywyd y blaenoriaethau canlynol o'r prosiect carbon bositif gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mehefin 2019, ac ymrwymodd Cyfoeth Naturiol Cymru i bennu cwmpas a chost y prosiectau canlynol:

  • adfer mawn dwfn
  • creu coetir
  • cynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • cyflwyno seilwaith cerbydau trydan a cherbydau
  • effeithlonrwydd o ran gwres ac ynni carbon isel yn ein hadeiladau a'n hasedau
  • mynd i'r afael ag allyriadau sy'n ymwneud â chaffael
  • dylanwadu ar ostwng allyriadau allanol ledled Cymru, trwy:
    • ehangu cefnogaeth a chyngor ar ddatgarboneiddio i Lywodraeth Cymru, cyrff sector cyhoeddus Cymru a Byrddau'r Sector Cyhoeddus
    • gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn deall ein rôl bosibl wrth ystyried carbon o fewn trefniadau cynllunio, trwyddedu a rheoleiddio
    • gweithredu newid o ran ymddygiad gan gynnwys ymgysylltiad staff er mwyn ymgorffori ystyriaeth o garbon ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru a thu hwnt
    • gwerthuso a throsglwyddo effeithiau presennol newid yn yr hinsawdd er mwyn ysgogi trafodaeth gyhoeddus bellach a chefnogaeth ar gyfer datgarboneiddio cyflym er mwyn lleihau effeithiau yn y dyfodol

Cyflwynwyd y blaenoriaethau hyn i'r Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Strategaeth ar gyfer y dyfodol

Dros y ddwy flynedd nesaf, yn unol â'n strategaeth gorfforaethol, rydym am wneud y canlynol:

  • Parhau i gyflenwi cynllun gweithredu carbon bositif Cyfoeth Naturiol Cymru 2020/22 fel ei fod yn cynnwys; ôl-ffitio adeiladau â phaneli ffotofoltäig solar, datblygu seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan, cynyddu milltiroedd cerbydau trydan, nodi a chyflawni rhaglen o brosiectau ar gyfer mawndiroedd er mwyn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach.
  • Datblygu mecanweithiau fel bod teithio llesol a chynaliadwy yn ddewis a ffefrir ar gyfer teithio gan gymudwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gyfer teithiau busnes priodol.
  • Parhau i gynnal ardystiadau i safon amgylcheddol ISO14001 ar gyfer holl weithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru ac ardystiadau i Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf