Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol 2021-22

Ein gweledigaeth

Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell ar gyfer Cymru trwy reoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.

Ein diben

Trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016:

  • rhaid i ni geisio rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, a
  • byddwn yn cymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Cyflwyniad

Mae ein system rheoli amgylcheddol yn ategu gweledigaeth a diben Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwy gynnal ein hardystiad i safon amgylcheddol ISO14001:2015, ein hardystiad coedwigaeth yn erbyn Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig a thrwy leihau ein heffaith amgylcheddol a’n hôl troed carbon ein hunain.

Yn 2021/22 roedd Pandemig Covid-19 yn dal i effeithio ar y ffordd roedd CNC yn gweithredu. Drwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae staff wedi dal ati i weithio o gartref yn bennaf, er i gyfyngiadau teithio lacio tua diwedd y flwyddyn.

Ar hyn o bryd mae Rhaglen Adfywio CNC yn ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio i alluogi CNC i fod yn sefydliad ystwyth, cydnerth ac effeithlon sy’n arwain Cymru ar fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.

Drwy weithio gyda phartneriaid a chymunedau, rydym yn bencampwyr yr amgylchedd, gan gefnogi adfywiad gwyrdd a chyfiawn i bobl Cymru.

Crynodeb o berfformiad

Yn 2021/22, fe wnaethom:

  • gynyddu ein hôl troed carbon gan 7% mewn perthynas â chwmpas 1, cwmpas 2 a’r allyriadau cwmpas 3 sy’n cael eu mesur ar hyn o bryd, o gymharu â data 2020/21;
  • gostwng ein defnydd o drydan o’r prif gyflenwad mewn adeiladau wedi’u meddiannu a depos am yr wythfed flwyddyn yn olynol, gyda gostyngiad o 2% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21;
  • lleihau ein defnydd cyffredinol o ddŵr gan 4% o gymharu â data 2020/21;
  • cynnal ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 a Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig, yn dilyn archwiliadau a phrosesau dilysu allanol annibynnol.

Tabl 1: Tabl crynhoi’r Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol  

Categori Unedau 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

tCO2e

4,199

3,994

2,579

2,755

Ynni a ddefnyddiwyd

miliwn kWh

6.3

7.1

5.4

5.0

Ynni – gwariant

£ mil                       

583

729

628

604

Gwastraff a gynhyrchwyd

tunelli

966

1,772

793

1,212

Gwastraff – gwariant

£ mil

218

333

199

245

Dŵr – defnydd

m3

40,115

42,127

33,116

31,780

Dŵr – gwariant

£ mil

30

13

18

17

Mae Tabl 1 yn adlewyrchu’r newid cymharol ar gyfer meysydd allweddol yn y flwyddyn ddiwethaf.

I grynhoi:

  • cynyddodd allyriadau nwyon tŷ gwydr y sefydliad wrth i gyfyngiadau Covid lacio. Fodd bynnag, yn 2021/22 bu gostyngiad o 31% mewn allyriadau o gymharu â 2019/20 (cyn Covid-19)
  • gostyngodd allyriadau carbon yn sgil ynni am y drydedd flwyddyn yn olynol, sef gostyngiad o 33% yn 2021/22 o gymharu â 2018/19

Mae rhagor o fanylion ynghylch pob elfen i’w gweld o fewn adrannau cysylltiedig yr adroddiad hwn.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u hamlinellu isod:

Cwmpas 1: cynyddodd allyriadau uniongyrchol gan 7%, a hynny yn sgil cynnydd yn faint o danwydd a ddefnyddiwyd yn ein ceir fflyd a chan ein timau gweithrediadau.

Cwmpas 2: gostyngodd allyriadau ynni anuniongyrchol gan 20%, a hynny yn sgil gostyngiad pellach yn y defnydd o ynni mewn adeiladau wedi’u meddiannu.

Cwmpas 3: cynyddodd allyriadau anuniongyrchol eraill gan 86%, a hynny yn sgil cynnydd ym milltiroedd y fflyd lwyd ac yng nghyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd.

Tabl 2: Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Allyriadau nwyon tŷ gwydr Unedau 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

Cwmpas 1: allyriadau uniongyrchol

tCO2e

2,499

2,129

1,568

1,683

Cwmpas 2: allyriadau ynni anuniongyrchol

tCO2e

1,077

1,130

764

611

Cwmpas 3: allyriadau anuniongyrchol eraill

tCO2e

624

735

247

461

Cyfanswm gros allyriadau nwyon tŷ gwydr

tCO2e

4,199

3,994

2,579

2,755

Tu allan i’r cwmpasau (h.y. biomas)

tCO2e

184

182

132

150

Nodyn 1: Data heb ei wirio’n allanol – Sicrwydd Cyfyngedig – Nid yw allyriadau o’r Ffynnon i’r Tanc wedi’u cynnwys.

Nodyn 2: Ymysg allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol eraill Cwmpas 3 mae: teithio ar drên, hedfan, teithio gyda’r fflyd lwyd, teithio mewn ceir llog, dŵr a gwastraff.

Nodyn 3: Ni chynhwyswyd ychwaith allyriadau Cwmpas 3 yn sgil defnydd o’r tir ac atafaelu, data’r gadwyn gyflenwi, defnydd o agregau mewn gwaith adeiladu a’r defnydd o bren.

Ynni

Gostyngodd cyfanswm yr allyriadau yn sgil ynni gan 151 tCO2e, sef gostyngiad o 13% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21.

Gostyngodd cyfanswm y defnydd o ynni gan 37,968 kWh, sef gostyngiad o 1% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21.

Mae’r data hwn yn cynnwys; trydan, nwy o’r prif gyflenwad, LPG, olew gwresogi a biomas o swyddfeydd, depos a safleoedd di-griw, er enghraifft gorsafoedd mesur a gorsafoedd pwmpio.

Cynyddodd cyfanswm yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn ein safleoedd ein hunain gan 11%. Bellach mae hynny’n golygu bod 4.5% o’r ynni a ddefnyddiwyd ar ystâd CNC wedi dod o ynni adnewyddadwy wedi’i gynhyrchu gennym ni.

Tabl 3: Ynni a ddefnyddiwyd

Adnodd a ddefnyddiwyd – Ynni Unedau 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd lle ceir staff

kWh

4,973,616

5,131,465

4,027,176

3,989,208

Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd lle ceir staff

tCO2e

1,236

1,188

876

832

Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd heb staff

kWh

1,298,317

1,985,005

1,407,657

1,041,011

Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd heb staff

tCO2e

367

507

328

221

Ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd

kWh

167,879

161,193

161,320

179,034

% cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd fel ynni adnewyddadwy

%

3.4

3.1

4.0

4.5

Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd – defnydd

kWh

6,271,933

7,116,470

5,434,833

5,030,219

Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd – defnydd

tCO2e

1,603

1,696

1,204

 

1,053

Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd – gwariant

£ mil

583

729

628

604

Dŵr

Gostyngodd y defnydd cyffredinol o ddŵr gan 3,994 m3, sy’n ostyngiad o 14% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21. 1.1 m3/FTE yw dwysedd defnydd dŵr ein swyddfeydd. Dwysedd dŵr cyfartalog swyddfa nodweddiadol yw 4.0.

Mae CNC wedi ennill dilysnod Waterwise ar gyfer llawer o’n swyddfeydd a’n canolfannau ymwelwyr, sy’n tanlinellu ein hymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr, a hefyd yn cydnabod buddion amgylcheddol gwneud defnydd effeithlon o un o adnoddau naturiol mwyaf hanfodol Cymru.

Tabl 4: dŵr a ddefnyddiwyd

Defnydd adnoddau
– dŵr ar yr ystâd

Unedau

2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

Dŵr o’r prif gyflenwad

m3

12,308

11,755

4,653

7,302

Cyfanswm y dŵr a dynnwyd

m3

27,747

30,324

28,463

24,478

Dŵr o’r prif gyflenwad (swyddfeydd)

m3

5,987

6,180

2,107

2,639

Dŵr a dynnwyd (swyddfeydd)

m3

32

26

4

13

Dŵr o’r prif gyflenwad (ac eithrio swyddfeydd)

m3

6,321

5,575

2,546

4,662

Dŵr a dynnwyd (ac eithrio swyddfeydd)

m3

27,715

30,298

28,459

24,465

Dwysedd defnydd dŵr
(at ddefnydd swyddfa)

m3 / FTE

3.2

2.9

0.9

1.1

Cyfanswm y dŵr – defnydd

m3

40,115

42,127

33,116

31,780

Cyfanswm y dŵr – defnydd

tCO2e

14

15

11

7

Cyfanswm y dŵr – gwariant

£ mil

30

13

18

17

Teithio

Mae ein hanghenion o ran teithio yn cynnwys: teithio i reoli safleoedd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol difrifol, cymryd samplau, ymdrin â llifogydd, cyfarfodydd safle a theithio rhwng swyddfeydd. 

Cynyddodd y milltiroedd teithio ar gyfer busnes gan 992,497 o filltiroedd, sy’n gynnydd o 29% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21.

Roedd y cynnydd yn y teithio ar gyfer busnes yn bennaf yn sgil llacio cyfyngiadau teithio Covid-19.

Nid oedd dim hedfan yn 2021/22 a dim ond ychydig y cynyddodd teithio ar drên, a oedd o hyd 95% yn llai na’r lefelau cyn Covid-19 yn 2018/19.

Cyrhaeddodd teithio mewn cerbydau trydan ei lefel uchaf erioed hyd yma, sef 49,656 milltir yn 20221/22.

Tabl 5: teithio ar gyfer busnes

Teithio ar gyfer busnes Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2021/22

Fflyd â bathodyn CNC (heb gynnwys cerbydau trydan)

milltiroedd

5,562,246

4,934,687

3,020,287

3,553,215

Fflyd â bathodyn CNC

£ mil

789

720

455

642

Cerbydau’r fflyd lwyd

milltiroedd

614,868

554,375

266,804

627,456

Cerbydau’r fflyd lwyd

£ mil

277

249

120

283

Cerbydau llog

milltiroedd

277,390

512,209

153,361

154,988

Cerbydau llog

£ mil

124

195

181

180

Trên

milltiroedd

993,213

1,258,211

3,007

67,995

Trên

£ mil

328

397

< 1

22

Hedfan

milltiroedd

50,299

26,663

0

0

Hedfan

£ mil

7

7

0

0

Beic

milltiroedd

3,714

4,012

2,259

3,764

Beic

£ mil

< 1

< 1

< 1

< 1

Beic modur

milltiroedd

1,155

729

110

911

Beic modur

£ mil

< 1

< 1

< 1

< 1

Cerbydau trydan

milltiroedd

32,832

26,374

19,660

49,656

Cyfanswm teithio ar gyfer busnes

milltiroedd

7,535,717

7,317,260

3,465,488

4,457,985

Cyfanswm teithio ar gyfer busnes

tCO2e

2,002

1,810

1,085

1,344

Cyfanswm teithio ar gyfer busnes

£ mil

1,525

1,568

757

1,127

Lleihau a rheoli gwastraff

Mae cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir bob blwyddyn yn amrywio yn ôl gofynion gweithrediadol a chyfanswm y gwastraff yn sgil tipio anghyfreithlon.

Yn 2021/22, cyhoeddodd CNC Bolisi Lleihau Ôl Troed Plastig gyda’r nod cyffredinol o leihau ôl troed plastig mewnol CNC ymhellach a thrwy weithio gydag eraill i ddylanwadu mewn ffordd gadarnhaol ar ymddygiad partneriaid a rhanddeiliaid.

Tabl 6: gwastraff a gynhyrchwyd

Categori gwastraff Unedau 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

Gwastraff swyddfa – tirlenwi

tunelli

286

90

23

111

Gwastraff swyddfa – tirlenwi

tCO2e

168

53

10

52

Gwastraff swyddfa – tirlenwi

£k

25

24

31

30

Gwastraff swyddfa – ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd

tunelli

431

972

460

613

Gwastraff swyddfa – ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd

tCO2e

9

21

10

13

Gwastraff swyddfa – wedi’i losgi

tunelli

31

31

18

21

Gwastraff swyddfa – wedi’i losgi

tCO2e

< 1

< 1

< 1

< 1

Gwastraff gweithrediadau a thipio anghyfreithlon

tunelli

218

680

292

467

Gwastraff gweithrediadau a thipio anghyfreithlon

tCO2e

98

269

111

181

Cyfanswm y gwastraff

Tunelli

966

1,772

793

1,212

Cyfanswm y gwastraff

tCO2e

276

343

132

246

Cyfanswm y gwastraff

£ mil

218

333

199

245

Digwyddiadau amgylcheddol

Yn 2021/22 bu pymtheg o ddigwyddiadau amgylcheddol yn sgil ein gwaith neu waith contractwyr rydym yn eu rheoli, a oedd yn ostyngiad o wyth digwyddiad o gymharu â 2020/21.

Pan fydd digwyddiadau’n codi yn sgil ein gwaith (neu waith ein contractwyr) rydym yn adolygu beth ddigwyddodd, ac yn gweithio i fynd i’r afael â gwraidd y digwyddiad.

Llywodraethu ac adrodd

Rydym yn adrodd bob blwyddyn ar ein data allyriadau carbon fel rhan o waith adrodd ar allyriadau carbon Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Rydym yn casglu’r data a ddefnyddiwyd o fewn yr adroddiad amgylcheddol hwn drwy gyfuniad o ddarlleniadau mesuryddion (e.e. nwy, trydan), anfonebau (e.e. trafodion cardiau tanwydd), data cyflenwyr a data cyllid, gan ddefnyddio’r ffynhonnell/ffynonellau mwyaf cywir sydd ar gael i ni.

Strategaeth at y dyfodol

Yn unol â’n hamcanion amgylcheddol corfforaethol presennol, rydym am:

  • Barhau i ddatgarboneiddio ystâd adeiladau CNC a’r fflyd drwy Raglen Adfywio CNC
  • Ymgorffori egwyddorion hierarchaeth gwastraff a’r economi gylchol i werthoedd craidd CNC er mwyn dylanwadu ar leihad cyffredinol yn y gwastraff a gynhyrchir yn sgil ein gweithgareddau busnes
  • Datblygu mecanweithiau ar gyfer galluogi teithio actif a chynaliadwy fel dewis cyntaf ar gyfer cymudwyr CNC ac ar gyfer teithiau busnes priodol
  • Parhau i gynnal ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 ar gyfer holl weithgareddau CNC ac ardystiad i Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru
Diweddarwyd ddiwethaf