Datganiad polisi cyflog 31 Mawrth 2026

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog sy’n gyfartal i bawb, yn briodol, yn dryloyw, yn sicrhau gwerth am arian ac yn gwobrwyo staff yn deg am y gwaith a wnânt. Mae’r datganiad polisi hwn yn cyflwyno dull CNC ar gyfer cyflogau a’r berthynas rhwng cyflog y gweithiwr a thaliadau cydnabyddiaeth uwch reolwyr.

Paratowyd y datganiad hwn yn unol â’r egwyddorion sydd yn nogfen Llywodraeth Cymru Tryloywder tâl uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016.

Mae’r atodiadau canlynol yn cyd-fynd â’r datganiad hwn:

  • Atodiad 1 – Graddau CNC, graddfeydd cyflog a niferoedd
  • Atodiad 2 – Cyflogau Uwch Reolwyr CNC
  • Atodiad 3 – Cymariaethau Cyfraddau Cyflogau yn CNC
  • Atodiad 4 – Ymrwymiadau oddi ar y Gyflogres
  • Atodiad 5 – Ymrwymiadau Newydd oddi ar y Gyflogres
  • Atodiad 6 – Trefniadau Aelodau’r Bwrdd

Fframwaith deddfwriaethol

Mae gan CNC y pŵer i benodi staff o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012; ac mae’n cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth gyflogaeth berthnasol wrth bennu cyflogau a thaliadau cydnabyddiaeth ei staff.

Diffiniadau a'r cyfrifoldeb dros benderfyniadau cyflog

Mae’r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid yn gyfrifol am argymell trefniadau cyflog priodol ar gyfer staff CNC i Lywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Diffinnir staff fel gweithwyr o fewn bandiau cyflog 1 – 11, sy’n cynnwys y graddau band Cymorth, Gweithrediadau, Technegol, Rheoli ac Arweinyddiaeth. Felly mae’r grŵp hwn yn cynnwys holl staff CNC, ac eithrio’r Cyfarwyddwyr Gweithredol a’r Prif Weithredwr.

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cyfleusterau a Fflyd yn gyfrifol am sicrhau bod Undebau Llafur yn cymryd rhan lawn mewn trafodaethau cyflog, yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, a thrwy Gytundeb Cydfargeinio.

Ni chaiff rolau uwch reolwyr eu dirprwyo, ac felly caiff eu trefniadau cyflog nhw eu gweithredu yn unol â’r canllawiau a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, gan ddilyn argymhellion gan y Cadeirydd mewn perthynas â’r Prif Weithredwr, a chan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r Cyfarwyddwyr Gweithredol.

Mae Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid CNC yn gyfrifol am bennu cyflogau uwch staff ac am reoli perfformiad, potensial a thalent uwch staff a gwneud argymhellion i’r Bwrdd eu cymeradwyo. Mae’r Pwyllgor yn sicrhau y caiff taliadau cydnabyddiaeth eu trin mewn ffordd deg a phriodol ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Cyfarwyddwr Anweithredol sy’n cadeirio’r Pwyllgor. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y pwyllgor, ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth yma.

Mae argymhelliad y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid, mewn perthynas â chyflog y Prif Weithredwr, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

Telerau ac amodau gwasanaeth cyflogaeth

Mae gan y mwyafrif helaeth o weithwyr delerau ac amodau gwasanaeth, gan gynnwys cyflog, a bennir gan CNC. Yn dilyn cyflwyno ein Cynllun Gwerthuso Swyddi yn 2018, mae rhai staff wedi elwa o ddiogelwch cyflog.

Trefniadau cydfargeinio

 Mae CNC yn falch o’i berthynas bartneriaeth gref â chydweithwyr yr Undebau Llafur ac yn gweithio’n agos gyda nhw ar faterion sy’n ymwneud â chyflog. Mae trefniadau ar gyfer ymgynghori a negodi cyflogau wedi’u nodi yn ein Cytundeb Partneriaeth Gymdeithasol.

Mae dyfarniadau cyflog staff yn berthnasol i gyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth.

Egwyddorion cyflog

Ynghyd â threfniadau cydfargeinio ar gyflogau, mae CNC yn dilyn yr egwyddorion cyflog allweddol canlynol: 

  • Fforddiadwyedd a gwerth am arian – Mae cytundebau cyflog yn seiliedig ar fforddiadwyedd a sicrhau’r defnydd gorau o arian cyhoeddus.
  • Cyflog cyfartal – Mae trefniadau cyflog yn gynhwysol i staff, ni waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal / rhwng pobl o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth rhywedd. Caiff Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ei gyhoeddi bob blwyddyn a gellir gweld hwn yma.
  • Bod yn agored a thryloyw – Caiff manylion llawn am gyflogau a thaliadau cydnabyddiaeth Aelodau’r Bwrdd eu cynnwys yn natgeliadau cyfrifon blynyddol CNC. Yn ogystal, rhoddir crynodeb o gyflogau ar lefelau Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol a Chyfarwyddwyr bob blwyddyn ar y cyd â’r datganiad hwn. 
  • Cyflog cynyddrannol – Caiff gweithwyr gyfle i godi i gynyddran uchaf eu graddfa gyflog cyn pen dim mwy na phedair/pum mlynedd, yn dibynnu ar y radd.
  • Ffocws ar fynd i’r afael â chyflogau isel a chefnogi’r Cyflog Byw – Caiff yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol (a phrentisiaid ar gontractau hyfforddiant) Gyflog Byw yn dâl, fel y’i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Mae CNC yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig. 

Trefniadau cyflog

Dangosir cyfraddau bandiau cyflog presennol CNC yn Atodiad 1. Fel arfer, caiff penodiadau newydd eu recriwtio ar waelod y band cyflog perthnasol. O dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, lle bo tystiolaeth bod recriwtio yn broblem neu os yw gweithiwr newydd wedi bod ar gyflog uwch a chanddynt brofiad sylweddol yn syth cyn ymuno â CNC, gellid eu penodi ar gynyddran uwch o fewn y raddfa gyflog. Mae cyflogau’n destun cynnydd cynyddrannol bob blwyddyn nes cyrraedd y gyfradd uchaf (fel arfer ymhen 3-4 blynedd). Nid yw unigolion sy’n cael canlyniad o danberfformio mewn gwerthusiad yn gymwys ar gyfer cynnydd cynyddrannol. Mewn achosion o ddyrchafu, bydd y cyflog cychwynnol ar waelod y band cyflog ar gyfer y radd newydd. Gellir gweld y niferoedd presennol o staff ar bob gradd yn Atodiad 1.

Caiff taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer rolau uwch eu pennu drwy gyfrwng fframwaith gwerthuso swyddi sefydledig, wedi’i lywio gan feincnodi priodol ar draws rolau a sefydliadau cymharol.

Mae unrhyw ddyfarniad cyflog blynyddol yn amodol ar berfformiad boddhaol, a fydd yn cael ei asesu gan y Prif Weithredwr/Cadeirydd a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid.

Dangosir ystod cyflogau’r Tîm Gweithredol a’r Prif Weithredwr yn Atodiad 2.

Ychwanegiadau a thaliadau ychwanegol

Yn dibynnu ar ofynion busnes, gall gweithwyr fod yn gymwys am y taliadau ychwanegol canlynol ynghyd ag ychwanegiadau a thaliadau eraill yn ôl disgresiwn, yn rhinwedd cyflawni eu rôl. Mae’r rhain yn cynnwys lwfansau proffesiynol a lwfansau gweithrediadau, ad-daliadau am deithio a threuliau, neu daliadau atodol ar sail y farchnad (serch hynny, yn dilyn penderfyniad gan y Tîm Gweithredol, bwriedir gwaredu taliadau atodol ar sail y farchnad yn raddol eleni).

Er mwyn cefnogi newid sefydliadol, gall CNC, o bryd i’w gilydd, ddewis cynnal ymarferion terfynu cyflogaeth neu gynlluniau dileu swyddi’n wirfoddol. Mewn amgylchiadau o’r fath, cynigir taliad digolledu i weithwyr yn seiliedig ar y telerau sy’n gysylltiedig â’u Cynllun Pensiwn – mae dau o’r rhain. Caiff pob gweithgaredd dileu swydd yn wirfoddol neu derfynu cyflogaeth ei gefnogi gan achos busnes sy’n cynnwys dadansoddiad cost a budd, a chaiff phob cais am ddileu swydd yn wirfoddol (ac os oes angen, achosion dileu swyddi’n orfodol) eu cymeradwyo gan is-bwyllgor o Fwrdd CNC a chan Lywodraeth Cymru. 

Cymariaethau cyfraddau cyflogau yn Cyfoeth Naturiol Cymru 

Y cyflog isaf yn CNC yw’r gyfradd gychwynnol ar ystod gyflog Graddau 1 a 2 (Cymorth Tîm) o fis Ebrill 2025 (£25,898 i £26,909). Y Prif Weithredwr yw’r aelod staff ar y cyflog uchaf. Yn Atodiad 3, rhoddir cymariaethau o gyfraddau cyflogau mewn perthynas â’r aelod staff ar y cyflog uchaf (Prif Weithredwr) a chyflog cyfartalog Cyfarwyddwyr Gweithredol.

Pecyn gwobrwyo a chydnabyddiaeth ehangach

Yn ogystal â chyflog gweithwyr, mae CNC yn cynnig ystod gynhwysfawr o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn, mynediad at drefniadau aberthu cyflog, cyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, a chynlluniau lles gweithwyr. Mae ystod o drefniadau gweithio hyblyg modern hefyd ar gael i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Adolygu'r datganiad hwn

Mae’r datganiad hwn i’w gyhoeddi ar wefan CNC. Bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n flynyddol neu pan fydd newidiadau sylweddol yn digwydd. Mae’r ffigurau’n seiliedig ar drefniadau cyflog a oedd ar waith ar 31 Mawrth 2026.

Atodiad 1: Graddau CNC, graddfeydd cyflog a niferoedd

Gradd  Ystod Gyflog  Nifer Cyfwerth ag amser llawn
Gradd 11 £77,230 - £83,051 27 26.6
Gradd 10 £69,469 – £75,298 1 1.00
Gradd 9 £61,762 - £67,422 81 79.93
Gradd 8 £54,212 - £59,873 168 163.28
Gradd 7 
(44 Awr)
£55,957 - £62,753 4 4.00
Gradd7 £47,055 - £52,770 401 386.28
Gradd 6 
(44 Awr)
£50,733 - £55,490 18 18.00
Gradd 6 £42,662 - £46,662 635 605.24
Gradd 5 
(44 Awr)
£44,706 - £49,266 13 13.00
Gradd 5 £37,594 - £41,428  591 569
Gradd 4
(44 Awr)
£40,141 - £43,635  7 7.00
Gradd 4 £33,755 - £36,693 327 315.81
Gradd 3 
(44 Awr)
£35,685 - £38,181 2 2.00
Gradd 3 £30,008 - £32,107 99 97.56
Gradd 2 £26,861 - £27,910  73 67.73
Cyfanswm: - 2476 2384.59

 

Heb eu cynnwys yn y ffigurau uchod:

Gradd Nifer y gweithwyr Cyfwerth ag amser llawn
Cyfarwyddwyr a’r Prif Weithredwr 6 6
Secondeion i Mewn 8 7.3
Secondeion Allan 6 5.5
Prentisiaid - -
Lleoliadau Myfyrwyr/Addysg Uwch 23 20.81

 

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar gyflogau gwirioneddol fel yr oeddynt ar 31 Mawrth 2026. Pan gynhaliwyd y cynllun Gwerthuso Swyddi, rhoddwyd y dewis i staff ‘Optio Allan’ o’r cynllun a chadw eu hen raddfa gyflog. Felly mae staff Optio Allan wedi’u cynnwys ar eu hystodau cyflog presennol nid eu graddau yn ôl y cynllun Gwerthuso Swyddi.

Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys staff contract ac asiantaeth.

Proffil Ymrwymiad Cyfarwyddwyr Anweithredol

Disgrifiad Nifer y Penodiadau Ymrwymiad Blynyddol
Cadeirydd 1 104 diwrnod
Cyfarwyddwyr Anweithredol 7 48 diwrnod
Cyfarwyddwyr Anweithredol 4 36 diwrnod

 

Mae’r Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd ac 11 Cyfarwyddwr Anweithredol. Mae gan y Cadeirydd ymrwymiad blynyddol o 104 diwrnod, tra bod Cyfarwyddwyr Anweithredol yn ymrwymo rhwng 36 a 48 diwrnod y flwyddyn, yn ddibynnol ar eu cyfrifoldebau ar y Bwrdd a’r pwyllgorau.

Atodiad 2: Cyflogau uwch reolwyr CNC

Nifer y Staff Nifer y Staff (£000)
1 155-160
0 150-154
0 145-149
1 140-144
1 135-139
0 130-134
0 125-129
0 120-124
1 115-119
0 110-114
0 105-109
0 100-104
2 95-100

 

Mae’r uchod yn cynnwys yr holl staff ar lefelau Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Gweithredol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2026. 

Penodir i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol ar sail ran-amser a dros dro drwy secondiad o Lywodraeth Cymru ac nid yw’r rhain yn gyflogeion i CNC. Mae deiliaid y swyddi hyn yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos, ar gyflog cyfwerth ag amser llawn ar yr ystod £100,000–£105,000. Nid yw’r rôl hon wedi’i chynnwys yn y tabl cyflogau uchod. Y sefydliad cyflogi sy’n penderfynu ar drefniadau pensiwn, yn amodol ar argaeledd gwybodaeth.

 

Atodiad 3: Cymariaethau cyfraddau cyflogau yn CNC

Y cyflog isaf yn CNC yw’r gyfradd gychwynnol ar yr ystod Cymorth Tîm (Gradd 2). Nid yw hyn yn cynnwys prentisiaid sydd ar gontractau hyfforddiant. 

Ar hyn o bryd, y Prif Weithredwr yw’r aelod staff ar y cyflog uchaf. Mae’r ffigurau isod yn seiliedig ar gyflogau CALl (cyfwerth ag amser llawn) fel yr oeddynt ar 31 Mawrth 2026.

Lluosrif Cyflog Cymhareb (cyfradd safonol)

Cymhareb
Isel i Uchel (Prif Weithredwr)

Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithwyr ar y cyflog isaf ac uchaf fel cymhareb

1 i 5.96

Cymhareb Isel i Uchel (Tîm Gweithredol)

Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog isaf a’r aelod cyfartalog o’r Tîm Gweithredol fel cymhareb

1 i 4.4

Cymhareb Ganolrifol i Uchel (Prif Weithredwr)

Y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a’r gweithiwr ar y cyflog uchaf fel cymhareb

1 i 3.6

Cymhareb Ganolrifol i Uchel (Cyfarwyddwr Gweithredol)

Y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog cyfartalog Cyfarwyddwyr Gweithredol fel cymhareb

1 i 2.7

Cymhareb Gyfartalog i Gymhareb Gyfartalog (Cyfarwyddwr Gweithredol) 

Y lluosrif rhwng y cyflog cyfartalog yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog cyfartalog Cyfarwyddwyr Gweithredol fel cymhareb

1 i 2.6

 

Y cyflog uchaf – Band rhwng £154K a £159K

Cyflog canolrifol y gweithlu (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) £43,995

Cyflog cyfartalog y gweithlu (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) £45,093.76

Cyflog canolrifol Timau Gweithredol (ac eithrio’r Prif Weithredwr) £116,567.42

Cyflog cyfartalog y Tîm Gweithredol (ac eithrio’r Prif Weithredwr) £118,878.76

Isod dangosir y berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf a’r chwarteli isaf, canolrifol ac uchaf: 

 

2022-23

Cymhareb/Cyflogau chwartel 25ain Ganradd Canolrif 75fed Ganradd
Cymhareb Cyflog (:1) 3.7 3.3 2.9
Cyflog Chwartel £32,876 £37,308 £42,569

 

2023-24

Cymhareb/Cyflogau chwartel 25ain Ganradd Canolrif 75fed Ganradd
Cymhareb Cyflog (:1) 3.7 3.2 2.9
Cyflog Chwartel £35,686 £40,397 £44,940

 

2024-25

Cymhareb /Cyflogau chwartel 25ain Ganradd Canolrif 75fed Ganradd
Cymhareb Cyflog (:1) 3.5 3.1 2.8
Cyflog Chwartel £38,688 £43,702 £49,007

 

2025-26

Cymhareb /Cyflogau chwartel 25ain Ganradd Canolrif 75fed Ganradd
Cymhareb Cyflog (:1) 3.7 3.2 2.8
Cyflog Chwartel £38,864 £43,995 £50,830

 

Yn 2025-26, 2024-25, 2023-24 a 2022-23, ni chafodd unrhyw weithwyr gyflog a oedd yn uwch na’r cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf. 

Bellach mae’n ofynnol i gyrff adrodd nodi’r newid canrannol mewn cyflogau o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf; a’r newid canrannol cyfartalog o’r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas â gweithwyr yr endid yn ei gyfanrwydd. 

 

Blwyddyn Newid Canrannol mewn Cyflog – y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf Newid canrannol cyfartalog cyflogau – 
gweithwyr yn eu cyfanrwydd
2025-26 3.72% 3.54%
2024-25 5.00% 6.41%
2023-24 5.00% 9.64%
2022-23 3.65% 3.82%

 

Roedd dyfarniad cyflog CNC ar gyfer 2025-26 yn 3.72% ar gyfer yr holl staff o Radd 1 i Radd 11. 

Diweddarwyd ddiwethaf