Swyddog Rheoli Pysgodfeydd Cocos
Dyddiad cau: 25 Awst 2022 | Lleoliad: Llandarsi neu Crosshands | Cyflog: £31,490 - £34,902 (Gradd 5)
Math o gontract: Penodiad tymor penodol hyd 15 Mehefin 2024 gydag estyniad yn bosibl
Patrwm gwaith: 37 awr y wythnos
Rhif swydd: 200109
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Byddwch yn rhan o dîm sy’n rheoli ac yn cynghori ynglŷn ag Ardaloedd Morol Gwarchoddedig a’r amgylchedd morol ledled Cymru gan gynnwys rheoli gorchmynion Rheoleiddio Pysgodfeydd Cocos yng Nghilfach Tywyn yn y De ac ar Aber Afon Dyfrdwy. Byddwch yn darparu rheolaeth pysgodfa gocos leol ar gyfer pysgofa gocos Cilfach Tywyn, gan gynnwys cydlynu a dosbarthu trwyddedau pysgodfeydd cocos, a chefnogi’r gwaith o’u rheoleiddio. Byddwch yn gweithio gyda chdweithiwyr o fewn y tîm a gyda chydweithwyr gorfodi i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Bydd y gwaith yn gymysgedd o waith swyddfa a gwaith maes ar y safle ym mhob tywydd mewn ardaloedd rhynglanwol yng Nghilfach Tywyn
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Casglu, mewnbynnu a dadansoddi cofnodion dalfeydd i alluogi asesu gweithgarwch masnachol, dosbarthiad gofodol ac ymdrech bysgota flynyddol
- Cynhyrchu adroddiad blynyddol ar y bysgodfa
- Cefnogi adolygiad o gynllun rheoli’r bysgodfa,
- Rhoi cynllun rheoli’r bysgodfa ar waith
- Cysylltu â physgotwyr a chynhyrchwyr cocos Aber Afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn.
- Prosesu, asesu, cyhoeddi a monitro trwyddedau, gan gadw cofnodion cywir.
- Gweithio gydag archwilwyr allanol i sicrhau bod achrediad pysgodfeydd cynaliadwy Stiwardiaeth Forol yn parhau
- Gweithio’n agos gyda chydweithwyr Gorfodi ar reoleiddio a gorfodi
- Cadw cofnodion a mewnbynnu deallusrwydd i’r system ganolog
- Cysylltu ag adrannau iechyd yr amgylchedd perthnasol, adran DEFRA Llywodraeth Cymru ac, ynghylch afon Dyfrdwy, NWIFCA ac Asiantaeth yr Amgylchedd (y Gogledd)
- Cysylltu â swyddog cadwraeth afon Dyfrdwy a swyddogion lleol Cilfach Tywyn
- Darparu’r gwaith gweinyddu ar gyfer Grŵp Cynghori ar Bysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy (DECFAG) a Grŵp Asiantaethau ar y Cyd Aber Afon Dyfrdwy
- Gweithio’n agos gydag uwch gynghorydd y bysgodfa gocos ar bob agwedd ar reoli’r bysgodfa
- Gweithio gyda Chynghorwyr Ardal perthnasol i asesu ac adrodd ar waith Monitro Morol, a chyda’r timau Cynghori Morol Cymru gyfan, yn enwedig ynghylch arolygon cocos
- Darparu cyngor technegol ar faterion yn ymwneud â physgodfeydd cocos.
- Cefnogi’r gwaith o reoli cyllideb reoli’r bysgodfa gocos
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o weithio yn y sector pysgod cregyn
- Profiad o feithrin cysylltiadau effeithiol
- Profiad o ymdrin â chwsmeriaid anodd a sefyllfaoedd heriol
- Y gallu i ddehongli a chyfathrebu data ar amgylcheddau morol
- Dealltwriaeth o faterion a chadwraeth Aber Afon Dyfrdwy neu Gilfach Tywyn
- Sgiliau rhyngbersonol da a phrofiad o weithio ar y cyd, yn fewnol ac yn allanol
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 25 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Charlotte Gjerlov Charlotte.gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.