Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth
Dyddiad cau: 16 Awst 2022 | Lleoliad: Gogledd Orllewin Y Canolbarth (Aberystwyth) | Cyflog: £31,490-£34,902 (Gradd 5)
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif swydd: 200471
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Diben y rôl hon yw galluogi'r tîm gweithrediadau coedwigaeth i gyflawni ei raglenni priodol trwy ymgymryd â'r cyfrifoldeb dirprwyedig ar gyfer cyflawni ein gweithrediadau. Byddwch yn gwneud penderfyniadau technegol yn y disgyblaethau canlynol:
- Cynllunio coedwigoedd
- Gweithrediadau cynaeafu
- Gweithrediadau'r sefydliad
- Gweithrediadau peirianneg graddfa fechan
- Ymgynghori â’r cyhoedd ac ymgysylltu â hwy ynghylch ein gweithrediadau
Fel tîm, rydym yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gynllunio gweithrediadau ac wedyn cyflawni'r contractau cynaeafu ac ailblannu dilynol. Bydd y rôl hon yn cynnwys cynllunio'r gwaith hwn, ac wedi hynny, rheoli contractau’r safleoedd hyn a gweithio gyda'r tîm ehangach.
Dyma gyfle gwych i weithio gyda thîm deinamig a phrofiadol. Yn fwy na hyn, fel swyddog, gallwch gyfrannu'n sylweddol tuag at reoli coedwigoedd yn eich ardal. Mae'r tîm hwn yn ymdrin â choetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyd ardal y Canolbarth/Gogledd (Gorllewin) o amgylch Aberystwyth a'r ardaloedd cyfagos yn bennaf.
Os hoffech gael ymweliad safle i drafod y rôl yn ogystal â gweld yr amgylchedd gwaith, cysylltwch â'r uchod i drafod.
Mae angen trwydded yrru lawn y DU.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi cyngor technegol ar gyfer problemau sy'n benodol i'r sector neu broblemau technegol.
- Gweithredu cynlluniau gwaith tîm a chyflawni camau gweithredu a gytunwyd er mwyn cyfrannu at gynllunio busnes.
- Cyfranogi yn fforymau technegol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol fel cynrychiolydd technegol.
- Rhyngweithio â chymheiriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn hyrwyddo arferion cyson yn y diwydiant ac mewn pynciau arbenigol.
- Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol dros gynnal rhaglenni dirprwyedig a rheolaeth gyllidebol ddirprwyedig a gytunwyd, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a chadw at y broses gaffael.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Profiad o ymgysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Gwybodaeth a phrofiad o safleoedd dynodedig a phob agwedd ar ymarfer coedwigaeth, gan gynnwys atebolrwydd tir, cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigaeth.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 16 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â
Neil Muir Neil.Muir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Josh Irvine Josh.Irvine@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.