Swyddog Cefnogi Prosiectau
Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2022 | Cyflog: £31,490 - £34,902 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg - Prosiectau ledled De Cymru ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Swyddog Cefnogi Prosiectau |
Rhif y swydd |
200733 |
Gradd |
|
Lleoliad |
Hyblyg - Prosiectau ledled De Cymru ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. |
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tim |
Tîm Cyflenwi Ynni |
Yn Atebol i |
Arweinydd y Tîm Cyflenwi Ynni, De Cymru |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Penodiad Tymor Penodol 12 Mis |
Patrwm gwaith |
37 awr |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
10 Gorffennaf 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
I’w gadarnhau |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Gordon Baird, Energy Delivery TL Gordon.Baird@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk |
Diben y swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm CNC sy'n frwdfrydig am ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur wrth wasanaethu cymunedau Cymru.
Yn ystod blwyddyn yn gweithio yn Nhîm Cyflenwi Ynni CNC, byddwch yn ymuno â thimau prosiect sy'n gyfrifol am reoli'r rhyngwyneb rhwng datblygu/adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy proffil uchel (a phrosiectau masnachol eraill) a chyfrifoldebau stiwardiaeth tir CNC ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC).
Byddai'r rôl yn addas i rywun sydd â chefndir rheoli tir neu ddatblygu ynni technegol sydd: yn fedrus o ran rheoli cydberthnasau cymhleth, yn hyderus wrth ddirprwyo ar gyfer uwch gynrychiolydd y prosiect, yn gyfarwydd â rheoli cytundebau cyfreithiol ac yn gallu cymhwyso prosesau ac egwyddorion rheoli prosiectau.
Mae'r rôl yn cynnwys gwaith desg a gwaith ar safleoedd YGLlC yn Ne Cymru yn sicrhau bod datblygwyr wedi ystyried y risgiau i bobl a'r amgylchedd ac wedi cynllunio'r gwaith, y mesurau diogelwch a'r dulliau gweithio i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn modd diogel, amgylcheddol gynaliadwy a chyfreithlon.
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Crynodeb Swydd |
|
Diben y swydd: |
Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth i Reolwyr Prosiectau ar brosiectau cymhleth mawr ac yn rheoli prosiectau llai sydd â risg is, o dan oruchwyliaeth Rheolwyr Prosiectau. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.