Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff
Dyddiad cau: 14 Awst 2022 | Lleoliad: Hyblyg yn Ne-Orllewin Cymru | Cyflog: £39,700-£44,522 (Gradd 7)
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif swydd: 200798
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rheoli ac yn datblygu’r tîm Rheoleiddio Gwastraff ar gyfer De Orllewin Cymru, gan oruchwylio’r gwaith o gyflawni prosiectau penodol, gorfodi neu wasanaethau i ardaloedd eraill. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod safleoedd gwastraff yn cael eu rheoleiddio’n effeithiol ac yn effeithlon. Bydd hefyd yn mynd i’r afael â gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon, trwy ddatblygu blaenoriaethau blynyddol a rhaglenni gwaith sy’n cael eu llywio gan y Datganiad Ardal, Cynlluniau Llesiant a Chyfeiriad Strategol, ac yn arwain ein dull rheoleiddio ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chyflawni deilliannau Llesiant.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn y swyddfa/safle 50% o’r amser.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Rheoli a datblygu tîm mawr o swyddogion rheoleiddio a gorfodi a bod yn gwbl atebol am eu perfformiad, eu cyfraniad, eu datblygiad, a'u llesiant, iechyd a diogelwch.
- Gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol dechnegol am ddiwydiant, gwastraff a gorfodi, paratoi a chyflwyno cynllun gwaith blynyddol eich tîm a llunio adroddiadau perfformiad a sicrwydd cysylltiedig.
- Bod yn gyfrifol am benderfyniadau rheoleiddio ar lefel lle, gan sicrhau y glynir at y Cod Rheoleiddwyr a'n Hegwyddorion Rheoleiddio.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol a dylanwadol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol) ar lefel uwch (e.e. ymgysylltu â chyfarwyddwyr o fewn cwmnïau rhyngwladol).
- Cyfrannu eich gwybodaeth dechnegol a'ch profiad o reoli rhanddeiliaid at wneud penderfyniadau'n seiliedig ar risg gan y tîm a'r busnes ehangach.
- Bod yn gyfrifol am gyllidebau dirprwyedig y tîm a phrosiectau.
- Ymateb i ymateb y tîm i ddigwyddiadau a chwynion a’i reoli.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o reoli llinell.
- Profiad o feysydd gwaith perthnasol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o reoli materion cynhennus a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a'r cyhoedd.
- Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cadarn.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio (gan gynnwys gorfodi) a rheoli digwyddiadau.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaithneu disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i'r lefel hon yn dilyn rhaglen hyfforddi y cytunwyd arni.
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
|
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros bobl |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 14 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Caroline Drayton ar Caroline.Drayton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.