Cynghorydd Arbenigol Amgylcheddol a Chymdeithasol
Lleoliad: Gogledd Cymru | Cyflog: G6, £35,994-£39,369 | Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr
Rhif swydd: 201715
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor ac arweiniad uniongyrchol ar faterion amgylcheddol, hamdden a threftadaeth i reolwyr a datblygwyr rhaglenni a phrosiectau i hwyluso'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni masnachol cymhleth ar yr ystâd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru . Bydd yn gyflenwr arbenigol technegol a fydd yn arwain ar y gwaith o ddarparu cyngor ac arweiniad ar y rhaglenni a’r prosiectau yn ogystal ag arwain ar brosiectau masnachol detholedig sydd â risg llai.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Adolygu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth gymhleth a darparu cyngor amserol ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd, hamdden a threftadaeth (e.e. rheoli cynefinoedd a chynlluniau rheoli mynediad) a gefnogir gan adroddiadau ysgrifenedig perthnasol.
- Cwblhau ymchwil a darparu cyngor ar gyfer cydweithwyr er mwyn iddynt weithredu ar ddatganiadau amgylcheddol yn ymwneud â phrosiectau ynni gan sicrhau yr ystyrir a rheolir cyfyngiadau amgylcheddol, hamdden a threftadaeth yn briodol.
- Ymgymryd â gwaith monitro ar y safle a chyfathrebu'n rheolaidd â datblygwyr a nodi risgiau a materion i sicrhau bod mesurau lliniaru priodol yn eu lle.
- Cyfrannu at grwpiau technegol/strategol Cyfoeth Naturiol Cymru gan sicrhau bod polisïau a gwaith cyflenwi yn gyson a phriodol.
- Sicrhau bod rhaglenni gwaith rheoli cynefinoedd a chynllun rheoli mynediad yn cael eu rheoli a'u cyflenwi gan leihau'r risg i Cyfoeth Naturiol Cymru a chanlyniadau etifeddol posibl.
- Gweithredu fel rheolwr contractau ar gyfer contractau cyflenwi.
- Rhannu arfer da o ran materion amgylcheddol, hamdden a threftadaeth â datblygwyr gan sicrhau yr hysbysir yr ymgynghorydd statudol a'i fod yn deall y rhesymeg sydd wrth wraidd y cyngor.
- Dylanwadu ar waith eraill trwy gynrychiolaeth mewn digwyddiadau tîm a datblygwyr a meithrin a chynnal cydberthnasau a llinellau cyfathrebu.
- Sicrhau bod amodau cynllunio amgylcheddol a osodir ar ddatblygwyr yn cael eu bodloni i safon dderbyniol er mwyn gwarchod buddiannau'r Gweinidog.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gradd mewn gwyddor yr amgylchedd neu bwnc cysylltiedig a/neu brofiad perthnasol o reoli materion amgylcheddol ar safle adeiladu (hanfodol).
- Gallu trafod a dylanwadu'n effeithiol yn fewnol ac allanol ar gyflenwi'r gwaith o reoli materion amgylcheddol, hamdden a threftadaeth (hanfodol).
- Dealltwriaeth dda/profiad o system gynllunio Cymru ar lefel leol a phrosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (hanfodol).
- Dealltwriaeth dda/profiad o faterion amgylcheddol, newid hinsawdd a materion datblygu cynaliadwy sy'n cael effaith ar ystâd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (hanfodol).
- Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar da (hanfodol).
- Meddu ar gymhwyster PRINCE2 ar lefel Sylfaenol neu Ymarferydd neu'n fodlon cyflawni'r cymhwyster (dymunol).
- Sgiliau TG da (yn enwedig Word, Excel, system gwybodaeth ddaearyddol) (dymunol).
- Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau gwaith tîm da a'r gallu i ymdrin yn briodol â phobl o bob lefel (dymunol).
- Y gallu i fod yn hunan-gymhellol a gweithio ar eich pen eich hun (dymunol).
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 10 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Nathalie Beaurain ar Nathalie.Beaurain@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654631
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.