Swyddog Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff
Lleoliad: Llaneirwg, Caerdydd | Cyflog: G5, £31,490-£34,902 | Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amder, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 202109
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn diogelu ac yn gwella'r amgylchedd drwy reoleiddio safleoedd gwastraff mewn modd effeithiol ac effeithlon. Ymateb yn ddiogel, yn amserol ac yn effeithlon i ddigwyddiadau/adroddiadau amgylcheddol a chynnal gwaith ymchwilio priodol. Drwy gymhwyso ein Hegwyddorion Rheoleiddio - sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, cymryd camau gorfodi cymesur a sicrhau manteision lluosog gweladwy o ganlyniad i'n hymyriadau rheoleiddio.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Lle nodir diffyg cydymffurfiaeth, argymell yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol i sicrhau bod gweithredwyr yn ailddechrau cydymffurfio cyn gynted â phosibl, gyda’r effaith amgylcheddol leiaf posibl ac ystyriaeth o'r effeithiau economaidd.
- Helpu i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer safleoedd a reoleiddir.
- Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
- Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a lles cadarnhaol.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Wybodaeth a phrofiad naill ai o weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth dda o brosesau busnesau masnachol a’r pwysau arnynt.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnes a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio problemau a chael cefnogaeth drwy ddylanwadu
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais 10 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Gareth Davies ar gareth.davies@cyfoethanturiolcymru.gov.uk neu 03000 653226
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.