Geomorffolegydd
Dyddiad cau: 5 Gorffennaf 2022 | Cyflog: 5, £31,490-£34,902 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos. Dydd Llun- Gwener
Rhif swydd: 202862
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Byddwch yn ymuno â’r Tîm Rheoli Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr yng Ngogledd Cymru, yn ein Hadran Rheoli Llifogydd a Dŵr. Rydym yn dîm amlswyddogaethol mawr sy'n gorchuddio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio ar rai o’r afonydd mwyaf eiconig Cymru yn cynnwys afonydd Dyfrdwy, Conwy a Hafren. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith safle ac yn y swyddfa, a byddwch yn cael y cyfle i ddatrys atebion ymarferol a fydd yn ein helpu i ddelio â’r Argyfwng Natur a Hinsawdd
Rydym ar hyn o bryd yn cynyddu ein cynhwysedd Geomorffoleg, a byddwch un o dri Geomorffolegydd yn gorchuddio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Byddwch hefyd yn rhan o grŵp ehangach sy’n darparu Geomorffoleg ledled Cymru, gan weithio’n agos gyda’n tîm chwaer yn De Cymru a’n cydweithwyr yn y Brif Swyddfa.
Byddwch yn darparu gwasanaeth technegol cynhwysfawr geomorffoleg afonol, i gwsmeriaid mewnol a phartneriaid. Byddwch yn cefnogi nifer o brosiectau adferiad ar afonydd proffil uchel ledled Gogledd Cymru. Hefyd, byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad ar Ganiatad Gweithgarwch Perygl Llifogydd a Thrwyddedau Tynnu Dŵr, gan ein helpu i gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a gwella llesiant ar draws Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Dadansoddi, dehongli a pharatoi adnoddau ar ddata gwyddonol technegol, gan ddarparu gwybodaeth o safon i’r timau perthnasol i gefnogi eu penderfyniadau a’u helpu i ddiogelu’r amgylchedd.
- Ymchwilio i geisiadau trwyddedau cyfeiriedig, a chyflwyno sylwadau arnynt, gan ddarparu ymateb technegol i ganolfan drwyddedu CNC, awdurdodau, datblygwyr a thimau CNC yn unol â pholisi cyfredol CNC, er mwyn dylanwadu ar drwyddedu a datblygu cynaliadwy a’i hyrwyddo.
- Cynghori ar gydymffurfiaeth â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a deddfwriaeth berthnasol arall.
- Gweithredu fel cynghorydd technegol ar adfer afonydd, biobeirianneg, a mesurau rheoli llifogydd yn naturiol.
- Darparu mewnbwn technegol i ganllawiau ar reoli perygl llifogydd, trwyddedu, gorfodi, adfer tynnu dŵr mewn modd cynaliadwy, a phrosiectau priodol eraill.
- Darparu mewnbwn technegol i ddatblygiad arferion geomorffolegol, gan ganolbwyntio’n benodol ar eu rôl wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
- Darparu cymorth technegol i gydweithwyr CNC ar faterion geomorffolegol cymhleth.
- Cyfrannu at ddatblygiad a gweithrediad llwyddiannus cynlluniau brys, gan gynnwys rheoli achosion o sychder a llifogydd.
- Cefnogi arfer gorau iechyd a diogelwch drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu darparu sy’n cydymffurfio â pholisïau a safonau Asiantaeth yr Amgylchedd.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gradd mewn pwnc gwyddonol penodol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil).
- Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. CIWEM neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil), gan weithio tuag at fod yn siartredig.
- Gallu dangos cymhwysedd mewn gwyddor geomorffolegol a meddu ar y gallu i weithredu’n ymarferol ac yn arloesol ar lefel weithredol. Byddwch wedi ennill profiad dros nifer o flynyddoedd trwy ddefnyddio dulliau, technegau a chyfrifiadau geomorffolegol, gyda pheth profiad o weithio ar safleoedd afonydd.
- Dealltwriaeth dda o elfennau hydromorffolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn ogystal â’r gallu i lunio adroddiadau technegol ar agweddau o’r fath.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Y gallu i ymwneud â gwaith maes mewn amgylcheddau corfforol anodd o bosib.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg: Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais: 5 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag:
Robert.Bissell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
07468 742442
oliver.lowe@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
03000 654549
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.