Uwch-gynghorydd Contractau x 2
Lleoliad: Hyblyg (bydd angen teithio i leoliadau eraill ledled Cymru) | Cyflog: G6, £35,994, £39,369 | Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2022
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 202974, 202976
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Diben CNC yw sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu y bydd y gwaith sy'n ofynnol gan y Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau newydd yn amrywiol iawn ac yn ddiddorol. Bydd Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau CNC yn cefnogi rheolwyr contractau ar draws amrediad o fathau o gontractau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: contractau prynu, grantiau, partneriaethau, prydlesi a chytundebau rheoli. Mae CNC yn ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd, cadwraeth, gweithgareddau hamdden, gwaith masnachol a gweithgareddau rheoli tir.
Bydd y Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau ac aelodau'r tîm yn chwarae rhan hanfodol bwysig wrth gyflawni Strategaeth Fasnachol a Chynllun Rheoli Contractau CNC, gan weithredu arfer gorau mewn rheoli contractau ar draws CNC a hyrwyddo manteision proses gydymffurfiol a hyblyg sy'n cyflawni gwerth am arian i'n rhanddeiliaid.
Bydd yr adran yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol rheoli contractau cymwys a phrofiadol i roi dealltwriaeth ddofn o'r pwnc, arbenigedd contract technegol ac arfer gorau o ran rheoli contractau. Mae'r fframwaith rheoli contractau y bydd y tîm yn gweithio o'i fewn ac yn ei gefnogi wedi'i alinio ag Arfer Rheoli Contractau Da'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Safonau Proffesiynol Rheoli Contractau Swyddfa'r Cabinet.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi rheolwyr contractau gyda gweithgareddau rheoli contractau â risg ganolig i uchel, gan gynghori ar brosesau rheoli contractau, llywodraethu a chanlyniadau drwy gylchred bywyd rheoli contractau.
- Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol er mwyn rheoli risgiau masnachol ac o ran cynaliadwyedd, i wella ffyrdd o weithio a llywio effeithlonrwydd, fel y dangosir gan werth am arian gwell.
- Sicrhau cydymffurfedd mewnol ac allanol â gofynion, e.e. diogelwch data, mesurau gwrth-dwyll, a chynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi, gan herio achosion o ddiffyg cydymffurfio.
- Cynnal atebolrwydd dan Reoli ein Harian (cynllun dirprwyo ariannol CNC), gan sicrhau canlyniadau gwerth am arian cadarn a chydymffurfiol, gyda'r gallu i weithio'n ymreolaethol a gwneud penderfyniadau heb fewnbwn y rheolwr llinell lle y bo angen.
- Meithrin a chynnal cydberthnasau dylanwadol a chydweithredol â chwsmeriaid mewnol er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd, risgiau ac arferion gorau sy'n berthnasol i reoli contractau, gan ddylanwadu ar waith ein cwsmeriaid mewnol er mwyn darparu canlyniadau cadarnhaol.
- Rheoli'r trosglwyddiad strwythuredig rhwng dyfarnu contract a darparu gwasanaeth, gan gyfathrebu â rhanddeiliaid.
- Mentora a hyfforddi eraill ynghylch gweithdrefnau, arferion a thechnegau masnachol, gan roi'r wybodaeth a’r sgiliau iddynt fel y gallant gyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) - Lefel 5/6, Diploma / Diploma Proffesiynol mewn Caffael a Chyflenwi (Gweithio tuag at aelodaeth lawn neu bron â chwblhau) - (Hanfodol)
- Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chymhwyster arbenigol CMPC a'i ennill o fewn amserlen y cytunwyd arni gyda'r Arweinydd Tîm os nad yw eisoes wedi cymhwyso i'r lefel honno’n barod.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch contractau a pholisïau'r sector cyhoeddus. (Hanfodol)
- Profiad helaeth o ddylanwadu ar benderfyniadau masnachol ar lefel prosiect neu gontract. (Hanfodol)
- Profiad o ymgymryd ag ymarferion masnachol a’u harwain, gan ddangos llwyddiant o ran eu cyflenwi. (Hanfodol)
- Profiad trosglwyddadwy o ddefnyddio dulliau masnachol i gyflawni amcanion busnes. (Hanfodol)
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch contractau a pholisïau'r sector cyhoeddus. (Hanfodol)
- Profiad o ymgymryd â thrafodaethau lefel uchel a chymhleth gyda phartneriaid cyflenwi. (Dymunol).
Gofynion y Gymraeg:
202974, Hanfodol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
202976, Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
|
|
Gwerthuso gwybodaeth
|
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth
|
|
Effaith
|
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill
|
|
Cyfrifoldeb dros bobl
|
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau i wneud cais 10 Gorffennaf 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Peter Lees ar Peter.lees@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.