Cymorth Technegol Gweithrediadau Coedwigoedd
Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2022 | Cyflog: £27,003 | Lleoliad: Hyblyg, yn ddelfrydol Resolven
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Cymorth Technegol Gweithrediadau Coedwigoedd |
Rhif y swydd |
203008 |
Gradd |
|
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau |
Tim |
Canol De Cymru, Gweithrediadau Coedwigoedd |
Yn Atebol i |
Chris Rees, Rheolwr Tim Gweithrediadau Coedwigoedd |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Sylwch: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Parhaol |
Patrwm gwaith |
Llawn amser |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
13 Gorffennaf 2022 |
Cyfweliad i'w gynnal ar \ a ble |
Dyddiad I’w gadarnhau, drwy Microsoft Teams |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Diben y swydd
Byddwch yn cynllunio ac yn cynnal rhaglenni o fewn o leiaf un o'r disgyblaethau canlynol (yn dibynnu ar raddfa'r rhaglenni daearyddol)
- Cyflawni rhaglenni gwaith tactegol a/neu goladu gwybodaeth ar ffurf stocrestr o ran coedwigaeth a chadwraeth, gan gynnal a chadw data'r system gwybodaeth ddaearyddol, cynnal gwerthusiadau ar y safle, a chyflawni rhaglenni gweithredol.
- Rheoli Gweithrediadau Coedwigoedd, gan gynnwys rhoi cyngor technegol, datblygu rhaglenni a chyflawni gwaith monitro ac adrodd, a sicrhau cydymffurfiaeth statudol.
Byddwch yn atebol am y canlynol:
- Rhoi cyngor technegol ar gyfer problemau sy'n benodol i'r sector neu broblemau technegol.
- Cyflawni cynlluniau gwaith, a chymryd camau gweithredu y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynlluniau busnes.
- Cyfranogi yng ngrwpiau technegol Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Rhyngweithio gyda chyfoedion yn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn hyrwyddo arferion cyson y diwydiant a phynciau arbenigol.
- Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol dros gynnal rhaglenni dirprwyedig.
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd?
Byddwch yn teithio i wahanol safleoedd a swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn gweithio ynddynt, gan weithio mewn swyddfeydd ac allan yn y maes.
bryd i'w gilydd, bydd yn rhaid i chi wynebu amodau gwaith amhleserus pan fyddwch yn gweithio yn yr awyr agored.
37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener.
Gwneud cais am swydd wag
Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn ystod y broses sifftio a chyfweld. Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i ddeall ar ba lefel y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
- Cyfrifoldeb dros Bobl
- Cyfrifoldeb dros Adnoddau
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
Mae gan ddeiliad y swydd amgyffrediad a dealltwriaeth dda o ystod o egwyddorion a pholisïau sefydliadol. Profiad o weithio mewn nifer o amgylcheddau neu mewn ystod o rolau mewn un sefydliad. Dealltwriaeth dda o natur dechnegol y swyddogaeth/tîm. Er na fyddwch yn arbenigwr pwnc, bydd gennych ddealltwriaeth a phrofiad cadarn mewn perthynas ag o leiaf un maes technegol i'ch galluogi i gynllunio a chyflwyno cynlluniau gwaith. Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau da wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid. Bydd gan ddeiliad y swydd lythrennedd cyfrifiadura da a sgiliau rheoli data hefyd. Byddai profiad o oruchwylio eraill yn rhinwedd ddymunol hefyd. Bydd gan deiliaid y swyddi lefel uchel o wybodaeth am iechyd, diogelwch a llesiant, a phrofiad ohonynt yn ogystal â diogelwch cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus. |
Gwerthuso gwybodaeth |
Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl. Efallai y bydd y rôl yn cynnwys rheoli data. Efallai y bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a chyflwyno cynlluniau gwaith a all ofyn am ddealltwriaeth o sut mae gwahanol brosiectau a rhaglenni yn gysylltiedig. |
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
Yn gyffredinol, bydd gwaith yn cael ei arwain gan ganlyniadau disgwyliedig ond gall deiliad y swydd benderfynu ar y ffordd orau o’u cyflawni, o fewn paramedrau wedi'u diffinio. Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â maes gwaith deiliad y swydd, ond a allai orgyffwrdd â meysydd eraill. Gall penderfyniadau fod o natur dechnegol a gellid ceisio arweiniad gan eraill. Mae rhywfaint o ymreolaeth mewn cyflawni cynlluniau, sy'n gofyn am ychydig o ddehongli a dadansoddi, ond bydd hyn o fewn paramedrau cyffredinol a gytunwyd arnynt. |
Effaith |
Fel rôl sy'n wynebu'n allanol, bydd gwaith a wneir yn cael effaith yn allanol ac yn fewnol. Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn ardal arwahanol felly bydd unrhyw effaith o'r gwaith yn effeithio'n bennaf ar yr amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd ymestyn ar draws meysydd pwnc a gwaith eraill. Bydd effaith penderfyniadau neu weithgareddau gwaith fel arfer yn y tymor byr i ganolig. |
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol er mwyn cyfathrebu ar draws ystod o swyddogaethau o fewn CNC yn ogystal â phartïon allanol. Y gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da sy'n debygol o fod o natur barhaus ac o bosib yn cynnwys rhywfaint o ddylanwadu. |
Cyfrifoldeb dros bobl |
Fel arfer, ni fydd gan y rôl unrhyw gyfrifoldeb rheoli llinell uniongyrchol ffurfiol er y gallai gynnwys elfen o oruchwylio a mentora cydweithwyr llai profiadol. |
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
Cyfrifol am offer a chyfarpar o werth cymedrol a ddefnyddir i gyflawni ei rôl yn y maes. Byddai disgwyl i ddeiliaid y swyddi gymryd cyfrifoldeb personol am eu cadw a'u defnyddio'n ddiogel. Ni fydd gan y rôl unrhyw gyfrifoldeb cyllidebol. |
Disgrifiad Rôl |
|
Diben y swydd: |
Byddwch yn cynllunio ac yn cynnal rhaglenni o fewn o leiaf un o'r disgyblaethau canlynol (yn dibynnu ar raddfa'r rhaglenni daearyddol)
|
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
Byddwch yn gwneud y canlynol:
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
Bydd gennych y canlynol:
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.