Cymorth Technegol Morol
Lleoliad: Hyblyg | Cyflog: £27,003-£30,688 | Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2022
Crynodeb Swydd |
|
Teitl Swydd |
Cymorth Technegol Morol |
Rhif y swydd |
203201 |
Gradd |
|
Lleoliad |
|
Cyfarwyddiaeth |
Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
Tîm |
Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol |
Yn Atebol i |
Arweinydd Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol |
Yn Atebol i’r swydd hon yn uniongyrchol |
Neb |
Gofynion y Gymraeg |
Hanfodol Lefel 1, yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml Sylwch os nad ydych yn bodloni’r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. |
Math o gontract |
Penodiad Cyfnod Penodol am 18 mis, gyda'r posibilrwydd o estyniad |
Patrwm gwaith |
37 awr yr wythnos |
Gwybodaeth ar gyfer gwneud cais |
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
10 Gorffennaf 2022 |
Lleoliad y cyfweliad a phryd bydd yn digwydd |
Wythnos sy’n cychwyn 18 Gorffennaf 2022, drwy Microsoft Teams |
I wneud cais, cwblhewch ac anfonwch eich ffurflen gais at |
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â |
Mary Lewis |
Diben y swydd
Ydych chi’n gwybod llawer am yr amgylchedd morol yng Nghymru ac yn teimlo’n angerddol ynglŷn â’r pwnc? Ydych chi’n mwynhau cefnogi a chydweithio ag amrywiaeth eang o bobl? Os felly, dyma’r union swydd i chi!
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm brwdfrydig a threfnus i fod yn rhan o dîm o gynghorwyr morol. Byddwch yn ein helpu i gyflawni ein rhaglen forol yn CNC. Mae'r rhaglen forol yn cyfuno ein holl waith i gefnogi rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol morol. Bydd y gwaith yn cynnwys y canlynol:
- cefnogi cynllunio, darparu, adolygu a monitro prosiectau ar draws y rhaglen
- cefnogi grwpiau darparu’r rhaglen
Os yw hyn yn swnio fel chi – ymgeisiwch nawr!
Pa wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r swydd:
Bydd angen teithio i wahanol swyddfeydd CNC, neu leoliadau eraill yng Nghymru.
Gwneud cais am swydd wag
Noder, bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
- Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Gwerthuso Gwybodaeth
- Effaith
- Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau Ymgeisydd
Cymwyseddau |
|
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Disgrifiad Rȏl |
|
Diben y swydd: |
Darparu cymorth technegol er mwyn gallu rheoli adnoddau naturiol morol yn gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gweithgareddau morol e.e.: rhaglenni allariannu, cyflawni prosiectau a chyflawni'r Rhaglen Forol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i hwyluso'r ddarpariaeth. |
Cyfrifoldebau allweddol y swydd: |
Bydd deiliad y swydd yn:
|
Cymwysterau neu wybodaeth sy’n allweddol i'r swydd: |
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis.
Rydym yn gyflogwr o ddewis gan ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon a chraidd ein gwerthoedd.