Uwch-gynghorydd Cynllunio Bioddiogelwch Morol
Dyddiad cau: 14 Awst 2022 | Lleoliad: Hybyg | Cyflog: £35,994 - £39,369 (Gradd 6)
Math o gontract: Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 gyda’r posibilrwydd o estyniad
Patrwm gwaith: 37 awr y wythnos
Rhif swydd: 203247
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu rhaglen gyffrous newydd o waith morol gyda chefnogaeth gan Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cyflwyno prosiectau sy’n meithrin rhwydweithiau ecolegol cydnerth ar draws Cymru, gan ganolbwyntio ar wella cyflwr safleoedd gwarchodedig. Bydd CNC yn cyflwyno cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar arfordiroedd a moroedd Cymru, yn amrywio o ddatblygu cynlluniau bioddiogelwch morol i adfer cynefinoedd morfeydd heli. Yn ogystal, byddwn yn ymgymryd â gwaith dichonoldeb a thystiolaeth a fydd yn ein helpu i roi dulliau rheoli gwell mewn lle ar gyfer ein harfordiroedd a’n moroedd yn y dyfodol.
Yn y rôl hon byddwch yn eistedd o fewn y Tîm Prosiectau Morol ac yn gweithio’n agos ag amrywiaeth o arbenigwyr technegol yn CNC, ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws Cymru.
Byddwch yn un o ddau o ddeiliaid y swydd a fydd yn gyfrifol am reoli’r gwaith o gyflwyno prosiectau i ddatblygu cynlluniau bioddiogelwch ar gyfer chwe Ardal Warchodedig Forol ar draws Cymru, gan adeiladu ar brofiadau a’r gwersi a ddysgwyd mewn prosiect bioddiogelwch sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gyfer ACA Pen Llŷn a’r Sarnau. Yn ystod y prosiect, byddwch hefyd yn gyfrifol am adolygu’r opsiynau ar gyfer monitro rhywogaethau estron goresgynnol er mwyn cefnogi’r gwaith o gynllunio ar gyfer bioddiogelwch, ac ymchwilio i’r defnydd o dechnoleg newydd ar gyfer gwaredu rhywogaethau estron goresgynnol morol.
Rydym yn rhag-weld y bydd un o ddeiliaid y swydd yn ymdrin â safleoedd yng Ngogledd Cymru a’r llall yn ymdrin â safleoedd yn y De, gan gydweithio i sicrhau cysondeb.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Arwain ar y gwaith o gyflawni canlyniadau a thasgau allweddol y Prosiect ar rywogaethau estron goresgynnol morol.
- Arwain ar ddarparu cyngor technegol arbenigol morol ac ar Rywogaethau Dyfrol Goresgynnol (RhDG) i’r prosiect.
- Cynnig, cynllunio, cychwyn a rheoli prosiectau neu gontractau i helpu i gyflwyno’r Prosiect.
- Cefnogi a chynghori Grŵp Llywio’r Prosiect ynghylch y cynnydd ar y prosiect.
- Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer diweddariadau am y prosiect i Fwrdd y Rhaglen Forol ac eraill.
- Arwain ar y gwaith o reoli cynllun y Prosiect a rhaglen waith ar gyfer y Prosiect.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd ar faterion technegol yn ymwneud â RhDG a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer cyngor, tystiolaeth neu wybodaeth i helpu i gyflwyno’r prosiect.
- Gweithio gyda thimau Data, Tystiolaeth a Gweithrediadau ac eraill ar draws CNC i gyflwyno’r prosiect.
- Cynnal perthnasoedd allanol gyda rhanddeiliaid allweddol i gyflwyno’r Prosiect a sicrhau y caiff gwybodaeth ac arferion da eu rhannu’n effeithiol.
- Cadw i fyny â datblygiadau technegol a pholisi o fewn diwylliant o wella a dysgu parhaus.
- Mentora, annog neu hyfforddi eraill, fel y bo’n briodol, mewn perthynas â gwaith cysylltiedig i helpu i ehangu capasiti technegol, dealltwriaeth a throsglwyddo gwybodaeth.
- Sicrhau iechyd, diogelwch a lles staff a chontractwyr a rhoi sicrwydd o ran arferion gwaith diogel.
- Defnyddio technegau priodol ar gyfer rheoli rhaglenni neu brosiectau er mwyn sicrhau y caiff pecynnau gwaith y cytunnir arnynt eu cyflawni ar amser ac yn ôl y fanyleb.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth neu brofiad y gellir ei brofi ym maes ecoleg forol a/neu reoli RhDG morol.
- Dealltwriaeth o risgiau amgylcheddol RhDG morol, ynghyd ag adnabod rhywogaethau, casglu data a rheoli gwybodaeth er mwyn helpu i reoli’r risgiau hyn.
- Sgiliau sylweddol o ran dadansoddi a dehongli tystiolaeth forol, ynghyd â sgiliau beirniadu ac ysgrifennu adroddiadau.
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer RhDG morol a chyd-destun deddfwriaethol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sgiliau dylanwadu rhagorol a’r gallu i gyfathrebu, negodi a chydweithio’n effeithiol, yn fewnol ac yn allanol ar lefelau uwch.
- Sgiliau rheoli prosiectau a chontractau / cydlynu prosiectau.
- Sgiliau annog a mentora.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 14 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch Kirsty.lindenbaum@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.