Swyddog Peirianneg Integredig
Dyddiad cau: 14 Awst 2022 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Orllewin Cymru | Cyflog: £27,003 - £30,688 (Gradd 4)
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif swydd: 203267
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cynnal rhaglen Arolygu Asedau Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, gan ddyfarnu'r cyflwr yn unol â'r safonau cydnabyddedig.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynllunio a chyflenwi arolygiadau o asedau rheoli llifogydd yn unol â safonau cyfredol.
- Gwneud asesiadau manwl gywir o gyflwr asedau yn unol â safonau a phenderfynu ar raddfa'r cyflwr, gan gofnodi eich penderfyniad yng nghronfa ddata AMX.
- Cynnal arolygiadau amrywiol (gan gynnwys Arolygiadau Asedau, Asesiadau Risg Iechyd Cyhoeddus ac Arolygiadau Pontydd), a mewnbynnu data ansawdd o arolygiadau i mewn i gronfeydd data a systemau priodol er mwyn sicrhau bod asedau'n cael eu cynnal yn unol â'r safonau perfformiad gofynnol.
- Nodi materion a phroblemau mewn ffordd amserol a chynnig datrysiadau effeithiol wedi’u rhaglenni.
- Cynorthwyo i ddatblygu a rheoli rhaglen waith Rheoli Systemau Asedau sy'n cyfrannu at gyflawni targedau'r Gyfarwyddiaeth.
- Gweithio mewn cydweithrediad â thimau Rheoli Perygl Llifogydd eraill ac Awdurdodau Rheoli Risg er mwyn cyflawni targedau a pherfformiad asedau.
- Helpu i gynnal y System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd Cenedlaethol, AMX a data perygl llifogydd cysylltiedig.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Cymwysterau: Pum gradd TGAU neu gyfwerth gyda mathemateg a Saesneg yn hanfodol a chymwysterau mewn pwnc gwyddonol neu beirianyddol. Meddu ar dystysgrif T98 Arolygydd Asedau Gweledol neu'n barod i weithio tuag at hynny.
- Gwybodaeth o weithgareddau rheoli perygl llifogydd a dealltwriaeth gyffredinol o ddulliau ehangach o reoli asedau afonydd a'r arfordir.
- Gwybodaeth dda am TGCh gan gynnwys Microsoft Office, cronfeydd data a systemau data ar-lein.
- Gwybodaeth ardderchog am yr arferion iechyd a diogelwch gorau mewn amgylchedd ar leoliad, a'r gallu i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar eich liwt eich hun ac yn unol â pholisïau a safonau CNC.
- Trwydded yrru lawn y DU.
- Cyfrannu at rota dyletswydd ymateb i ddigwyddiadau CNC.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Bobl |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 14 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â James West ar James.West@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.