Cynghorydd Arbenigol Cynllunio Amgylcheddol
Dyddiad cau: 21 Awst 2022 | Lleoliad: Hyblyg | Cyflog: £35,994 - £39,369 (Gradd 6)
Math o gontract: Penodiad Tymor Penodol tan 31 Mawrth 2023 (gyda'r posibilrwydd o estyniad)
Patrwm gwaith: 37 awr
Rhif swydd: 203293
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Rydym yn chwilio am aelod tîm i’n helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd yng Nghymru. Fel rhan o dîm prosiect pwrpasol, byddwch yn arwain ar ddatblygu cyngor a chanllawiau i helpu i sicrhau integredd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol sy’n sensitif i gynnydd lefelau ffosfforws o ganlyniad i ddatblygu. Bydd y rôl yn golygu gweithio’n agos ag arbenigeddau amgylcheddau amrywiol o fewn CNC yn ogystal ag ystod o randdeiliaid allanol. Byddwch yn gynllunydd gyda dealltwriaeth dda o sut i ystyried effeithiau posibl datblygiadau ar brosesau dalgylchol (gan gynnwys ansawdd dŵr) neu byddwch wedi gweithio ym maes rheoli amgylcheddol a bydd gennych wybodaeth dda o’r system gynllunio.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrediad o wybodaeth a data cymhleth.
- Rheoli’r gwaith o baratoi deunyddiau i lywio datblygiad polisi, cyngor a dogfennau canllawiau CNC, Llywodraeth Cymru a Phartneriaid eraill.
- Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain ar waith darparu ffyrdd newydd o weithio.
- Cysylltu â rhanddeiliaid allanol megis Llywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategaeth yn cael eu cyflawni’n amserol ac effeithiol.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen tystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltiad â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, POSW, PEDW, PINS, arweinyddion sector a busnes, cyrff proffesiynol a chyrff statudol eraill yn y DU i ddylanwadu ar brosiectau datblygu cyn gynted ag y bo modd; a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
- Cynnal gwybodaeth ddigonol o’r sector(au) a neilltuwyd gan nodi oblygiadau newidiadau deddfwriaethol, newidiadau o ran technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Cydweithio â’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflawni Cynllun Datblygiad Personol y cytunwyd arno.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am: ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â chynllunio defnydd tir. Ffactorau sy’n sbarduno polisi a strategaethau Llywodraeth Cymru a’r DU o ran cynllunio defnydd tir a’r problemau a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Profiad o: ddadansoddi technegol a dehongli amrediad o wybodaeth cynllunio tir cymhleth a gwybodaeth ofodol a ffynonellau data gan gynnwys paratoi cynlluniau datblygu awdurdod lleol, prosesau datblygu cynllunio ac asesu amgylcheddol (SEA, HRA ac EIA).
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, PINS, awdurdodau lleol, Tirweddau Dynodedig, cyrff proffesiynol, busnesau a sectorau.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglen a phrosiect gyda phrofiad o Reoli Prosiect a/neu gymwysterau.
- Byddwch yn aelod o RTPI/corff proffesiynol amgylcheddol arall a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, cefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 21 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Adrian James ar adrian.james@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654534 / Gideon Carpenter ar gideon.carpenter@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 653562
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.