Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddiwylliant gwaith sy’n cynnig lle gwych i weithio i bawb. Mae gennom ystod eang o fuddion staff i diwallu nifer o anghenion.

Cydbwysedd bywyd / gwaith

Gweithio hyblyg sy’n addas i chi a’r swydd:

  • amrywiaeth eang o batrymau gwaith, gan gynnwys wythnos lawn amser o 37 awr, rhan amser, oriau cywasgedig, rhannu swydd, gweithio tymhorol, gweithio blynyddol.
  • trefniadau gweithio hyblyg (oriau hyblyg) rhwng 7am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys amser in lieu.
  • trefniadau gweithio cymysg ar gyfer gweithio yn y swyddfa a/neu o’ch cartref neu leoliad arall
  • awr llesiant pob wythnos i wneud rhywbeth o’ch dewis i helpu eich llesiant

28 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn yn cynyddu i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd:

  • cario hyd at 10 diwrnod o wyliau blynyddol drosodd bob blwyddyn
  • cario hyd at 5 diwrnod ymlaen bob blwyddyn
  • cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol

Absenoldeb ychwanegol hael ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir.

Darpariaethau absenoldeb arbennig (gyda a heb dâl):

  • absenoldeb astudio
  • gwirfoddoli
  • gwasanaeth rheithgor
  • seibiant gyrfa

Buddion ariannol

  • cyflog cystadleuol gyda chynydd blynyddol drwy eich graddfa cyflog
  • Cynllun Pensiwn Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru o 28.97%
  • gwobr ffyddlondeb ar gyfer gwasanaeth hir
  • talu ffioedd aelodaeth broffesiynol perthnasol i’ch rôl
  • parcio am ddim mewn swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru (lle mae ar gael) ac mewn llawer o’n safleoedd hamdden

Buddion iechyd a llesiant

Mae CNC yn cefnogi ac wedi mabwysiadu nifer o Siarteri Teithio Iach, ac mae wedi ymrwymo i helpu staff i deithio mewn ffordd sy’n dda iddyn nhw ac i’r amgylchedd.

Buddion i hwyluso teithio llesol a chynaliadwy:

  • cynllun prynu Beicio i’r Gwaith
  • benthyciadau ar gyfer tocyn tymor blynyddol
  • polisïau a chyfleusterau sy'n hwyluso beicio
  • aelodaeth llogi beiciau gorfforaethol
  • gostyngiadau ar nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys siopau, tocynnau theatr, gwyliau, yswiriant, aelodaeth campfeydd, a llawer mwy

Rhaglen Gynorthwyo Gweithwyr am ddim sy’n darparu:

  • cymorth 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn
  • cymorth emosiynol, cwnsela, a myndiad at ymgynghorwyr arbenigol

Datblygiad gyrfa

  • datblygiad gyrfa proffesiynol, gan gynnwys cyrsiau ymarferol i addysg bellach ac addysg uwch
  • rhaglen datblygu arweinwyr, wedi’i chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)
  • cynllun rheoli perfformiad sy’n cefnogi eich blaenoriaethau a datblygiad personol
  • rhaglen ymsefydlu strwythurol i’ch croesawu chi i Gyfoeth Naturiol Cymru
Diweddarwyd ddiwethaf