Ymgynghorydd, Y Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu x 2

Dyddiad cau: 21/04/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 -  £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Caerdydd, Parc Cathays

Cyflog cychwynnol: £36,246

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos 

Dyddiad cyfweld: Wythnosau yn dechrau 5 Mai a 12 Mai 2025

Rhif y swyddi: 200057, 200059

Y rôl

Oes gennych chi brofiad o adolygu adroddiadau amgylcheddol neu weithio o fewn y broses Cynllunio Gwlad a Thref ac eisiau'r cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad a rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol yng Nghymru? 

Mae ein Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygiad yn gyfrifol am ddarparu cyngor amgylcheddol arbenigol a dylanwadol i Awdurdodau Cynllunio i gefnogi eu penderfyniadau. Rydym yn chwilio am berson ag angerdd gwirioneddol, chwaraewr tîm sy’n hyderus, yn frwdfrydig ac yn drefnus gyda sgiliau trafod a dylanwadu rhagorol i ymuno â’n tîm.

Byddwch yn gyfrifol am asesu a chynghori ar effeithiau amgylcheddol Cynlluniau Datblygu a phrosiectau arfaethedig.  Byddwch yn ystyried ystod eang o bynciau gan gynnwys perygl llifogydd, ansawdd dŵr, tir halogedig, safleoedd cadwraeth dynodedig, Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a thirwedd.  Byddwch yn gallu defnyddio arbenigwyr technegol ar draws ein sefydliad i'ch cefnogi yn eich gwaith.  

Mae'r gwaith yn amrywiol a byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o wahanol fathau o ddatblygiadau gan gynnwys seilwaith cenedlaethol a thrafnidiaeth, tai, adfywio economaidd a datblygu amaethyddol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gemma Beynon ar Gemma.Beynon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a Chyngor, gan gynnwys cyngor ar eu Hasesiad Amgylcheddol Strategol (gyda chymorth y Cynghorydd Cynllunio Datblygu (6) ar gynigion risg uchel technegol gymhleth), gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu yn brydlon.
  • Rhoi cyngor ar ymholiadau cyn gwneud cais, ymgynghoriadau rheoli datblygu, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (gyda chymorth y Cynghorydd Cynllunio Datblygu (6) ar gynigion risg uchel technegol gymhleth), gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu’n brydlon.
  • Paratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor cynllunio datblygu CNC, gan gynnwys presenoldeb mewn Apeliadau ac Ymchwiliadau.
  • Datblygu cysylltiadau cwsmeriaid effeithiol (mewnol ac allanol) a sicrhau dealltwriaeth dda o anghenion cwsmeriaid.
  • Cadw cofnodion archwiliadwy o gamau a chanlyniadau i gyfiawnhau ac arddangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a threfniadol wedi’u bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad mewn prosesau cynllunio datblygu a gweithio gyda’r sector datblygu.
  2. Profiad o gynnal ac adolygu asesiadau effaith amgylcheddol.
  3. Gallu cyfathrebu’n effeithiol ag Awdurdodau Cynllunio Lleol, busnes a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Sgiliau hunanreoli a sefydliadol cadarn ac effeithiol.
  5. Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau a gwneud penderfyniadau cadarn.
  6. Y gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno.
  7. Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac arwain grwpiau tasg rhithwir.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf