Cynorthwyydd Cynllunio Datblygu
Dyddiad cau: 13/07/2025 | Cyflog: Gradd 2: £25,898 - £26,909 | Lleoliad: Caerdydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cynlluniau Datblygu / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £25,898 yn codi i £26,909 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: TBC
Rhif swydd: 200064
Y rôl
Ydych chi’n drefnus, yn fanwl gywir ac yn angerddol am ddiogelu’r amgylchedd? Ymunwch â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel Cynorthwyydd Cynllunio Datblygu a helpwch i lunio dyfodol datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Yn y rôl gymorth hanfodol hon, byddwch yn rhan o dîm sy’n adolygu ac yn cynghori ar gynigion cynllunio ar draws ystod o faterion amgylcheddol. Byddwch chi’n chwarae rhan allweddol yn y broses – gan sicrhau bod data’n cael eu cofnodi’n gywir, bod dogfennau’n cael eu rheoli’n dda, a bod y tîm yn gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ymgynghoriadau gan awdurdodau cynllunio lleol.
Mae hyn yn fwy na gwaith gweinyddol yn unig – byddwch yn helpu i roi cyngor sy’n dylanwadu ar greu lleoedd cynaliadwy ledled Cymru.
Byddwch chi yn:
• Cadw ein systemau cynllunio yn gyfredol ac yn fanwl gywir;
• Cefnogi’r tîm i ymateb i geisiadau cynllunio a chynlluniau datblygu lleol;
• Cynhyrchu adroddiadau a data i helpu i reoli llwyth gwaith;
• Ymateb i ymholiadau sylfaenol gan gwsmeriaid a helpu i gynnal safonau gwasanaeth uchel.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i rywun sydd â sgiliau trefnu cryf, sy’n rhoi sylw i fanylion, ac sy’n ymddiddori’n fawr mewn diogelu’r amgylchedd a chynllunio. P’un a ydych chi’n dechrau eich gyrfa neu am fagu profiad mewn sector ystyrlon, mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau wrth gyfrannu at ddyfodol naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gemma Beynon at Gemma.Beynon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu yn gyfrifol am roi cyngor amgylcheddol arbenigol a dylanwadol i awdurdodau cynllunio a Llywodraeth Cymru i gefnogi eu prosesau gwneud penderfyniadau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynnal systemau gwybodaeth busnes (copïau caled ac electronig), gan gynnwys y system cynllunio TG.
- Cofnodi data ceisiadau’n gywir ar y systemau rheoli data cynllunio. Creu gwybodaeth o systemau TG.
- Trafod ac ymateb i ymholiadau syml gan gwsmeriaid.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Addysg at safon lefel TGAU neu brofiad gwaith cyfatebol.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
- Yn canolbwyntio ar y cwsmer, â sgiliau cyfathrebu effeithiol ac yn gwrtais dros y ffôn.
- Sgiliau trefnu da.
- Y gallu i reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith prysur a chyflwyno canlyniadau i amserlenni penodol.
- Y gallu i ddefnyddio systemau TG sylfaenol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.