Swyddog Cludwyr a Broceriaid Gwastraff

Dyddiad cau: 13/04/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Bwcle

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoliadau Diwydiant a Gwastraff / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Parhaol 

Patrwm gwaith: Llawn amswe 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Dyddiad cyfweld: 28/04/2025

Rhif swydd: 200415

Y rôl

Bydd deiliad y swydd yn diogelu ac yn gwella'r amgylchedd trwy ymchwilio'n effeithiol ac effeithlon i droseddau amgylcheddol cymhleth gan ganolbwyntio ar droseddau Cludwyr a Broceriaid Gwastraff.  

Bydd y rôl hon yn darparu gwaith gorfodi gweithredol yn bennaf ar lefel lle, ond gall gynnwys darparu cymorth i'r sefydliad ehangach.  Bydd deiliad y swydd yn ymateb yn ddiogel, amserol ac effeithlon i ddigwyddiadau / adroddiadau amgylcheddol ac yn gwneud gwaith ymchwilio priodol.  

Drwy ddefnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, yn ymgymryd â chamau gorfodi cymesur ac yn cyflawni nifer o fuddion yn sgil ein hymyriadau rheoleiddiol.

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn nhîm Rheoliadau a Gorfodi Gwastraff y Gogledd Ddwyrain sy'n cynnwys 14 swydd.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC a nodir uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. 

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Carys Williams ar Carys.Williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Darparu cymorth gorfodi i’r sefydliad ehangach.
  • Darparu a chefnogi gweithrediadau gwyliadwriaeth.
  • Rhoi barn a chyngor ar weithdrefnau gorfodi, casglu tystiolaeth a cheisiadau gwarant, yn unol â pholisïau a deddfwriaeth cyfredol, fel bo CNC yn gallu cymryd camau priodol yn unol â'i bolisi gorfodi ac erlyn.
  • Hyfforddi a datblygu aelodau'r tîm gyda golwg ar bolisïau, gweithdrefnau a thechnegau gorfodi newydd a rhai cyfredol gan roi’r wybodaeth a'r sgiliau iddynt i gyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon.
  • Cysylltu â thimau mewnol eraill a sefydliadau allanol, i sefydlu ffynonellau gwybodaeth ac i gasglu a rhannu cyngor a gwybodaeth fel bo gan bob parti yr wybodaeth angenrheidiol i berfformio a chyflawni eu gwaith.
  • Mynd i’r llys i gynrychioli a rhoi tystiolaeth ar ran y sefydliad i sicrhau camau gorfodi priodol yn unol â pholisïau gorfodi CNC.
  • Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
  • Cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o ran iechyd, diogelwch a lles.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o gyfundrefnau deddfwriaethol allweddol.
  2. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
  3. Cyfforddus a chymwys wrth ddelio â sefyllfaoedd ac unigolion heriol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf