Swyddog Draenio Tir a Rheoli Perygl Llifogydd
Dyddiad cau: 14/04/2025 | Cyflog: Gradd 4 £32,544 - £35,377 y flwyddyn | Lleoliad: Y Trallwng / Aberystwyth
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Peirianned Integredig / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 200496
Y rôl
Fel Swyddog Draenio Tir a Rheoli Perygl Llifogydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth cynllunio technegol ac iechyd a diogelwch i gefnogi ein timau maes i gyflawni gwaith cynnal a chadw asedau perygl llifogydd a gwelliannau cyfalaf. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio rhaglen draenio tir Ardal Draenio Mewnol Powys. Yn y swydd hon, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at brosesau blaengynllunio a bydd ganddo ran hanfodol yn y gwaith o gyflawni’r rhaglenni cynnal a chadw a rheoli asedau a rhaglenni gwaith cyfalaf ac ymateb i ddigwyddiadau.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nick Thompson ar Nicholas.Thompson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi a chynorthwyo â'r gwaith o ddarparu rheolaeth Ddeddf Draenio Tir a rheoli lefel dŵr ar draws Ardal Draenio Mewnol Powys.
- Yn gyfrifol am oruchwylio rhaglen cynnal a chadw Ardal Draenio Mewnol Powys er mwyn sicrhau dull effeithiol o gyflawni’r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer rheoli lefel y dŵr.
- Mynychu Grŵp Cynghori’r Ardal Draenio Mewnol.
- Cyfrannu at, a monitro'r gwaith o gyflawni a chynllunio'r rhaglen cynnal a chadw i amddiffyn rhag llifogydd, gan gynnwys prosiectau unigol.
- Ymgymryd â chwiliadau cyfleustodau a chasglu gwybodaeth dechnegol, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch arall ar gyfer gwaith unigol a rhoi mewnbwn i reoli risg wrth gynllunio'r gwaith.
- Darparu data ariannol a thechnegol, gan gynnwys amcanbrisio, er mwyn galluogi costio cywir i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n effeithlon ac effeithiol o ran cost, safon a therfynau amser.
- Cynorthwyo â'r gwaith o reoli contractau ac ymgymryd â gwaith monitro gweithredol er mwyn cyflawni’r rhaglen cynnal a chadw perygl llifogydd.
- Defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol yn effeithiol er mwyn llunio dogfennau allweddol, a ddefnyddir wrth gyflenwi gwaith cynnal a chadw a phrosiectau rheoli perygl llifogydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymwysterau: Mae Diploma Cenedlaethol Uwch/Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil neu gymhwyster cyfwerth yn ddymunol gydag o leiaf cymhwyster uwch sylfaenol (Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad perthnasol.
- Yn y rôl hon, bydd disgwyl i chi gefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch drwy hybu ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y darperir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Mae gweithio ar y cyd gyda thimau eraill ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sefydlu partneriaethau wrth gyflawni amcanion perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan hanfodol o'r rôl.
- Sgiliau da o ran TGCh, trefnu, a rheoli cofnodion.
- Trwydded yrru lawn y DU.
- Cyfrannu at rota dyletswydd ymateb i ddigwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 - Lefel canolradd uwch (gallu trafod materion gwaith) gyda disgwyliad i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg i Lefel C1 - Lefel Hyfedredd (siaradwr Cymraeg rhugl) yn dilyn rhaglen hyfforddiant y cytunir arni.
- Dymunol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.