Dyddiad cau: 20/04/2025 | Cyflog: £28,932 - £30,955 Gradd 3  | Lleoliad: Tregaron 

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig / Gweithrediadau 

Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, gyda phatrwm gwaith pythefnos o 9 diwrnod (33 a 41 awr yr wythnos)  

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 200506

Y rôl

Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac yn cyflwyno rhaglen waith cyfalaf ar gyfer asedau CNC a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan CNC. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar gynnal a chadw asedau, o gofnodi archwiliadau cyffredinol yn electronig i dorri glaswellt, gwaith llif gadwyn, gyrru tractorau, ffensio hyd at brosiectau adeiladu ar raddfa fechan, gan gadw asedau Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cyflwr targed presennol.

Gan weithio o fewn tîm bychan ym mhob tywydd ar hyd a lled Canolbarth Cymru, bydd deiliad y swydd yn darparu ymateb brys priodol a bydd gofyn iddo fod yn rhan o rota wrth gefn a gweithio y tu allan i oriau arferol.

Byddwch yn ymuno â thîm sy’n angerddol am y gwaith y maent yn ei wneud, gan leihau’r perygl o lifogydd i eiddo yng Nghanolbarth Cymru. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio, yn bennaf, ar gynnal a chadw asedau amddiffyn rhag llifogydd megis argloddiau a strwythurau amddiffyn rhag llifogydd ond bydd hefyd yn cynnwys gwaith ar ystâd Goedwigaeth Llywodraeth Cymru ac ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol. Byddwch yn hunan-gymhellol, yn gymwys yn y defnydd o offer, peiriannau ac offer TG, gydag agwedd gadarnhaol at Iechyd, Diogelwch a Lles yn y gweithle.

Mae'r rôl yn yr awyr agored yn bennaf, ym mhob tywydd, a gall fod yn heriol yn gorfforol. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno ar adeg penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. 

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Scott Mountford ar Scott.Mountford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Efallai y byddwch yn gweithredu peirianwaith, a fydd o bosibl yn cynnwys cerbydau nwyddau trwm ac offer a chyfarpar arbenigol a thrwm gwerthfawr.
  • Bydd yn ofynnol i chi wneud yr holl waith yn unol â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lles, iechyd a diogelwch CNC.
  • Bydd gennych y gallu i weithio o luniadau technegol manwl a chynlluniau cyfleustodau gan ddarparwyr gwasanaeth.
  • Byddwch yn cynghori’r uwch-oruchwyliwr a’r goruchwyliwr ar yr offer a chyfarpar mwyaf addas ar gyfer gwneud gwaith, gan gynnwys ymateb i argyfwng a’r tu allan i oriau.
  • Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu dilyn wrth ddefnyddio cyfarpar, peiriannau ac offer ac yn gyfrifol am oruchwylio aelodau o’r tîm ar y safle wrth iddyn nhw ddefnyddio cyfarpar ac offer o’r fath.
  • Bydd yn ofynnol i chi sicrhau bod cyfarpar ac offer sydd o dan eich cyfrifoldeb chi yn cael eu cynnal a’u cadw a’u defnyddio yn unol â’r holl reoliadau perthnasol, er enghraifft trwydded ‘O’, Rheoliadau
  • Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER), a Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998 (PUWER).
  • Bydd yn ofynnol i chi gyfathrebu’n effeithiol â thrydydd partïon, a fydd yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a thirfeddianwyr.
  • Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithredu rhaglen rheoli cynefinoedd a gynlluniwyd ar gyfer
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, gan gynnwys cynnal a gwirio seilwaith Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
  • Byddwch yn rhan o dîm ymateb i argyfyngau a fydd yn cael ei alw i ddefnyddio cyfarpar, peiriannau ac offer wrth ymateb i ddigwyddiadau llifogydd i alluogi gweithrediad effeithiol asedau perygl llifogydd. 
  • Fel uwch-aelod o’r tîm, byddwch yn aml yn arwain ar y safle ac yn mentora aelodau o’r tîm sy’n llai profiadol neu gontractwyr.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Sawl blwyddyn o brofiad perthnasol mewn gwaith gweithredol
  2. NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu gyfwerth.
  3. Un neu ragor o’r canlynol (i gynnwys tystiolaeth fel llyfr log, llyfr gwaith wedi’i gwblhau, cynlluniau arbenigol ac yn y blaen):
    • Gweithiwr llif gadwyn canolradd, gan gynnwys coed lluosog wedi’u chwythu i lawr (dylid cynnwys CS34 ac ati).
    • Gweithrediadau winsio.
    • Gweithredwr cyfarpar a pheiriannau arbenigol trwm. CPCS neu drwydded gydnabyddedig arall.
  4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes rheoli cadwraeth.
  5. Profiad sylweddol o reoli digwyddiadau: llifogydd / tanau diwydiannol / arllwysiadau olew / rheoli silt ac yn y blaen
  6. Sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu canolradd, e.e. AMX.
  7. Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelars).
  8. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf