Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth

Dyddiad cau: 08/04/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Llanymddyfri

Cyflog cychwynnol: £36,246

Math o gytundeb: Parhaol 

Patrwm gwaith:  Llawn amser, 37 awr yr wythnos 

Dyddiad cyfweld: 22/04/2025

Rhif swydd: 200535

Y rôl

Bydd gennych gyfrifoldeb dirprwyedig am gyflenwi rhaglenni, gan wneud penderfyniadau technegol o fewn o leiaf un o'r disgyblaethau canlynol (yn dibynnu ar raddfa'r rhaglenni daearyddol):

Rheoli tir, gan ymgymryd â’r gwaith o gynllunio, gweithredu a rheoli rhaglenni gwaith a gweithrediadau rheoli coedwigaeth, yn ogystal â rheoli gwaith arolygu ac ymgymeriadau i ddatblygu a gweithredu manylebau gwaith ar draws amrediad eang o bynciau.  

Cynllunio coedwigoedd, gan ymgymryd â'r holl waith cynllunio gweithredol er mwyn sicrhau y caiff rhaglenni gwaith tactegol eu gweithredu. Bydd hyn yn cynnwys stocrestr gadwraeth a choedwigaeth, rheoli cronfeydd data, mapio system gwybodaeth ddaearyddol a gwerthuso safleoedd.

Byddwch yn gweithredu fel rheolwr contract ar gyfer nifer o weithrediadau coedwigaeth. Ar yr un pryd byddwch yn gyfrifol am wneud yr holl waith papur a rheolaeth angenrheidiol ar gyfer gwerthu/caffael y contractau hyn a'r holl weithrediadau dilynol, gan gynnwys y gwaith cysylltu perthnasol â'r cwsmer/contractwr. Enghreifftiau o'r gweithrediadau hyn yw cynaeafu, paratoi tir, plannu, neu waith llif gadwyn amrywiol. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michael Cresswell ar Michael.Cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi cyngor technegol ar gyfer problemau sy'n benodol i'r sector neu broblemau technegol.
  • Gweithredu cynlluniau gwaith tîm a chyflawni camau gweithredu a gytunwyd er mwyn cyfrannu at gynllunio busnes.
  • Cyfranogi mewn fforymau technegol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol fel cynrychiolydd technegol.
  • Rhyngweithio â chymheiriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn hyrwyddo arferion cyson yn y diwydiant ac mewn pynciau arbenigol.
  • Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol dros gynnal rhaglenni dirprwyedig a rheolaeth gyllidebol ddirprwyedig a gytunwyd, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a chadw at y broses gaffael.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir 
  2. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd
  3. Profiad o ymgysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd 
  4. Gwybodaeth a phrofiad o safleoedd dynodedig a phob agwedd ar ymarfer coedwigaeth, gan gynnwys atebolrwydd tir, cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigaeth.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)  

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf