Arweinydd Tîm Peirianneg Integredig

Dyddiad cau: 16/07/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Cross Hands

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Peirianneg Integredig y De-Orllewin / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 200666

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain ein tîm peirianneg integredig ar gyfer y de-orllewin—gan reoli asedau seilwaith perygl o lifogydd a choedwigaeth sy’n gynaliadwy ac sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ar draws y rhanbarth.

Fel arweinydd tîm, byddwch yn arwain tîm medrus o beirianwyr i gynllunio, rheoli, a chyflawni rhaglenni gwaith sy’n gwarchod pobl, yn gwella gwydnwch, ac yn cefnogi ein dull o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Byddwch yn gosod cynlluniau tactegol clir sy’n cyd-fynd â’n hamcanion strategol—gan sicrhau ein bod yn cyflenwi mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a phartneriaid cenedlaethol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff y diwydiant, a grwpiau cymunedol—gan gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â materion allweddol a helpu i lunio datrysiadau cydweithredol i heriau cymhleth.

Ar y cyd â thîm o 12 o beirianwyr o dan eich arweinyddiaeth a chyfoedion ledled Cymru, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin capasiti, cysondeb ac arloesedd ar draws ein gwaith rheoli asedau.

Mae’r rôl yn cynnwys cymryd rhan yn ein rota ymateb i ddigwyddiadau fel swyddog ar ddyletswydd ar gyfer llifogydd neu swyddog ar ddyletswydd cynorthwyol (yn dibynnu ar brofiad), gyda gwaith cyflenwi wrth gefn tua phob chwe i naw wythnos, ac argaeledd i gefnogi digwyddiadau mawr yn ôl yr angen.

Os ydych chi’n barod i arwain â phwrpas a defnyddio eich arbenigedd ym maes peirianneg i helpu i warchod cymunedau a’r amgylchedd—byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch chi wedi’ch contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn y ganolfan / lleoliad uchod a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lester Fulcher at Lester.Filcher@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Bod yn gyfrifol am reoli perfformiad tîm peirianneg mawr a chymhleth.
  • Darparu arweinyddiaeth effeithiol ar faterion iechyd a diogelwch i sicrhau cydymffurfedd â’r holl deddfwriaeth, polisïau, a safonau perthnasol.
  • Defnyddio gwybodaeth am beirianneg i gyflawni rhaglen waith â blaenoriaethau yn unol â thargedau amser, cost, ac ansawdd ar gyfer cyflenwi tasgau ar asedau rheoli perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru a thir a reolir.
  • Cyflenwi rhaglen ar gyfer archwilio asedau perygl llifogydd ac asedau Cyfoeth Naturiol Cymru a thir a reolir.
  • Gweithredu fel "arbenigwr" ar faterion gwyddonol, technegol a pheirianyddol cymhleth.
  • Sicrhau bod yr holl asedau risg uchel yn parhau i fod yn weithredol drwy wneud gwaith cynnal a chadw yn rheolaidd.
  • Darparu cynlluniau a systemau gwaith fel y gellir gweithredu ein hasedau a’n hoffer rheoli perygl o lifogydd yn ddiogel ac yn effeithiol.
  • Darparu cymorth peirianneg a phrosiect hanfodol er mwyn cyflenwi’r rhaglen waith cynnal a chadw/gwella asedau flynyddol.
  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cael eu cwblhau yn unol â thargedau amser, cost, ac ansawdd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn peirianneg neu bwnc cysylltiedig (hanfodol) neu brofiad sylweddol mewn pwnc cysylltiedig.

  2. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol fel Sefydliad y Peirianwyr Sifil neu Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd, neu’n gweithio tuag at fod yn aelod o gyrff o’r fath.

  3. Wedi ennill (neu’n gallu gweithio tuag at ennill) cymwysterau iechyd a diogelwch perthnasol. (IOSH, NEBOSH)

  4. Mae’n hanfodol bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth drylwyr o Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, yn enwedig o ran cyfrifoldebau’r dylunydd.

  5. Profiad o reoli rhaglenni.

  6. Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd allu ysgogi a sefydlu diwylliant cadarnhaol o welliant parhaus.

  7. Ymgymryd â rôl wrth gefn ar gyfer rheoli rhybuddion am lifogydd neu ddigwyddiadau, gan gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Grŵp Cydgysylltu Tactegol neu Strategol fel sy’n briodol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf