Uwch Syrfëwr Arbenigol
Dyddiad cau: 16/04/2025 | Cyflog: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Resolfen, Coed y Cymoedd
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoli Tir / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 200901
Y rôl
Byddwch yn gweithio gyda'r Syrfëwr Arbenigol a'r Syrfëwr Cymorth Technegol, fel rhan o dîm Rheoli Tir Canol De Cymru, o fewn y tîm Tir ac Asedau yng Ngweithrediadau De Cymru. Mae'r tîm Rheoli Tir yn helpu i sicrhau bod y tir rydym yn ei reoli yn ddiogel ac yn groesawgar, fel y gall pawb fwynhau ymweld ag Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru.
Byddwch yn cefnogi ac yn hysbysu gwaith amrywiol y tîm Gweithrediadau Canol De Cymru yn y rhan unigryw a phrysur hon o Gymru. Mae'r gwaith yn ymwneud ag agweddau amrywiol ar weithrediadau coedwigaeth, rheoli tir, rheoli asedau llifogydd a dŵr, trafod cytundebau tir amgylcheddol, arwain ar gaffael tir, cefnogi'r gwaith o gyflawni cytundebau masnachol, rheoli cytundebau prydlesu a mynediad, goruchwylio cytundebau rheoli cymunedol a phob agwedd ar stiwardiaeth tir ragweithiol.
Mae angen i chi fod yn frwdfrydig, yn flaengar, yn bragmatig ac yn ymarferol gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog ac yn gallu gweithio'n agos gyda nifer o gwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid i ymgorffori egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chyflawni canlyniadau lles mewn ardal amrywiol o Gymru.
Byddwch yn darparu rôl broffesiynol, arbenigol, lefel uchel yng Nghanol De Cymru. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am (yn uniongyrchol a thrwy'r cyngor a roddir) sicrhau bod CNC yn rheoli'r risgiau sylweddol – yn ariannol, yn gyfreithiol, yn weithredol - a’r risgiau o ran enw da sy'n deillio o reoli tir ac asedau yn ardal Canol De Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rhianon Bevan ar Rhianon.Bevan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Fel Asiant Tir sydd â chymwysterau proffesiynol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor ac arbenigedd proffesiynol awdurdodol i uwch reolwyr i gynorthwyo CNC gyda stiwardiaeth tir, cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoli cyllideb yn strategol. Byddwch yn trafod telerau ac yn arwain y broses o gaffael tir, prisio asedau, a rhoi cyngor proffesiynol ar faterion cyfreithiol a threth sy'n gysylltiedig â stiwardiaeth tir. Byddwch yn atebol am y cyngor hwn a fydd yn sail i benderfyniadau risg uchel.
- Bydd gennych gyfrifoldeb gweithredol am arwain a rheoli grwpiau gorchwyl cymhleth a phrosiectau proffil uchel sy'n cynnwys staff arbenigol/technegol amlswyddogaeth.
- Byddwch yn atebol am gyfarwyddo cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac am ddarparu gwybodaeth i asiantau cyfreithiol i gefnogi achosion llys, trawsgludo ac ymgyfreitha.
- Byddwch yn gyfrifol ac yn atebol am drafodion tir a setlo hawliadau.
- Byddwch yn cyfrannu eich gwybodaeth a'ch crebwyll proffesiynol at ddatblygu cynlluniau busnes, strategaeth, polisi a chanllawiau.
- Byddwch yn hyfforddi, yn mentora ac yn cefnogi cydweithwyr ar draws Gweithrediadau naill ai yn rhinwedd eich swydd fel Asiant Tir ar gyfer lle neu fel arweinydd technegol ar gyfer maes pwnc penodol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth gyfan.
- Byddwch yn gweithio gydag arbenigwyr technegol eraill yn CNC, gan arwain lle y bo'n briodol, i hyrwyddo arferion cynghori a rheoleiddio cyson ar draws cyfundrefnau swyddogaethol.
- Byddwch yn cynrychioli CNC fel arbenigwr proffesiynol ar fforymau mewnol ac allanol sy'n gweithredu ar lefel Cymru a'r DU.
- Byddwch yn atebol am feithrin, cynnal a gwella'r berthynas â rhanddeiliaid a thimau rheoli mewnol ac allanol.
- Byddwch yn atebol am gynnal eich achrediad proffesiynol personol (RICS) a sicrhau bod y datblygiadau diweddaraf yn y maes proffesiynol yn cael eu hadlewyrchu yn eich gwaith a'ch cyfraniadau at gynhyrchu strategaethau, polisïau a chanllawiau
- Byddwch yn cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi eu bodloni.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Aelodaeth Syrfëwr Siartredig lawn o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
- Profiad perthnasol sylweddol yn y maes a'r gallu i ddangos lefel uchel o wybodaeth a hygrededd personol a phroffesiynol ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Y gallu i reoli prosiectau a rhaglenni gwaith cymhleth.
- Gwybodaeth fanwl am reoli tir ac eiddo er mwyn darparu cyngor gwrthrychol i eraill ar faterion arbenigol.
- Sgiliau rhyngbersonol a dylanwadu ardderchog a'r gallu i ddatblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau da gydag amrywiaeth o unigolion ac ar bob lefel.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.