Arweinydd y Tîm Diwydiant a Rheoleiddio Gwastraff
Dyddiad cau: 16/07/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Caerdydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoleiddio Diwydiant Canol De Cymru / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 200985
Y rôl
Ydych chi’n barod i gymryd yr awenau wrth amddiffyn amgylchedd Cymru rhag effeithiau diwydiant? Rydym yn chwilio am arweinydd dynamig a brwdfrydig i reoli ein Tîm Rheoleiddio Diwydiant yng Nghanol De Cymru.
Yn y rôl effaith uchel hon, byddwch yn arwain tîm o swyddogion arbenigol sy’n rheoleiddio rhai o’r safleoedd diwydiannol mwyaf cymhleth a risg uchel yn y rhanbarth. Bydd cyfle gennych i ddylanwadu ar berfformiad amgylcheddol ar draws amrywiaeth eang o sectorau—gan gefnogi arloesedd, sicrhau cydymffurfedd, a gyrru newid gwirioneddol yn y ffordd y mae diwydiant yn rhyngweithio â’n byd naturiol.
Byddwch yn rheoli a datblygu tîm o 12 aelod, yn goruchwylio archwiliadau safle, yn cysylltu â rhanddeiliaid o gwmnïau rhyngwladol a chymunedau lleol, ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at leihau allyriadau a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Dyma eich cyfle i gyfuno arbenigedd technegol ag arweinyddiaeth strategol—a helpu i lunio dyfodol gwyrddach i Gymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Fiona Hourahine at fiona.hourahine@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli a datblygu tîm mawr o swyddogion rheoleiddio a gorfodi a bod yn gwbl atebol am eu perfformiad, eu cyfraniad, eu datblygiad a’u llesiant, iechyd a diogelwch.
- Defnyddio gwybodaeth arbenigol a thechnegol o ddiwydiant, gwastraff a gorfodi, paratoi a chyflwyno cynllun gwaith blynyddol eich tîm a chynhyrchu adroddiadau perfformiad a sicrwydd cysylltiedig.
- Bod yn gyfrifol am benderfyniadau rheoleiddio ar lefel lle, gan sicrhau y glynir at y Cod Rheoleiddwyr a’n Hegwyddorion Rheoleiddio.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol a dylanwadol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol) ar lefel uwch (e.e. ymgysylltu â chyfarwyddwyr mewn cwmnïau amlwladol).
- Cyfrannu eich gwybodaeth dechnegol a’ch profiad o reoli rhanddeiliaid at wneud penderfyniadau’n seiliedig ar risg gan y tîm a’r busnes ehangach.
- Bod yn gyfrifol am gyllidebau dirprwyedig y tîm a phrosiectau.
- Rheoli ymateb y tîm i ddigwyddiadau a chwynion ac ymateb iddo.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o reoli llinell.
- Profiad o feysydd gwaith perthnasol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o reoli materion cynhennus a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd.
- Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cadarn.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio (gan gynnwys gorfodi) a rheoli digwyddiadau.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.