Uwch-swyddog Gorfodi
Dyddiad cau: 20/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Cardiff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddio Gwastraff / Gweithrediadau Canol De Cymru
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 28/07/2025
Rhif swydd: 200995
Y rôl
A ydych chi’n barod i gymryd yr awenau wrth fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol? Fel Uwch-swyddog (Gorfodi) yn Nhîm Rheoleiddio Gwastraff Canol De Cymru, byddwch ar flaen y gad o ran diogelu adnoddau naturiol De Cymru. Byddwch yn arwain y gwaith o gynllunio a chyflawni gwaith gorfodi yn un o’r ardaloedd diwydiannol mwyaf cymhleth a phroffil uchel yn y rhanbarth.
Mae hon yn rôl ymarferol, ag effaith uchel. Byddwch yn rheoli ymchwiliadau mawr i weithrediadau gwastraff anghyfreithlon, yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio busnes strategol, ac yn llunio blaenoriaethau gorfodi’r tîm gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Byddwch hefyd yn hyfforddi a chefnogi cydweithwyr, gan helpu i feithrin gallu ar draws y tîm a’r sefydliad ehangach.
Gyda thîm sy’n cynnwys swyddogion gorfodi, prentisiaid ac arbenigwyr troseddau gwastraff, byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran gyrru ein diwylliant gorfodi a sicrhau ein bod yn cyflawni nodau llesiant a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
O gynnal gwiriadau trwyddedau pysgota â gwialen ar lan afonydd i arwain ymchwiliadau troseddol amlasiantaeth, mae’r rôl hon yn cynnig amrywiaeth, her a’r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau mewnol a phartneriaid allanol, gan ymweld â safleoedd gweithredol yn rheolaidd a chyfrannu’n uniongyrchol at ddyfodol amgylcheddol Cymru.
Rydym yn cynnig gweithio hyblyg, hybrid wedi’i leoli yn ein swyddfa ym Mhlas yr Afon, a byddwch yn cael eich cefnogi gyda chyfleoedd hyfforddi, datblygiad a’r offer y mae eu hangen arnoch i ffynnu yn y rôl.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Eleanor Davies at Eleanor.Davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Defnyddio a datblygu ymchwilwyr a gosod tasgau arferol ar eu cyfer.
- Ymgymryd â rôl uwch-ymchwilydd mewn achosion troseddau amgylcheddol.
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Darparu barn a chyngor arbenigol ynghylch gweithdrefnau gorfodi, casglu tystiolaeth a cheisiadau am warantau, yn unol â pholisïau a deddfwriaeth bresennol, i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd camau gweithredu priodol yn unol â’i bolisi gorfodi ac erlyn.
- Cynllunio a chyflawni gwaith gorfodi yn ymwneud â physgodfeydd yn unol â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol i alluogi CNC i gymryd camau priodol yn unol â’u polisi gorfodi ac erlyn.
- Mentora a datblygu aelodau o’r tîm mewn perthynas â pholisïau, gweithdrefnau a thechnegau gorfodi newydd a phresennol, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon.
- Cysylltu â thimau mewnol eraill a sefydliadau allanol er mwyn sefydlu ffynonellau o wybodaeth ac er mwyn crynhoi a rhannu cyngor a gwybodaeth fel bod gan yr holl bartïon yr wybodaeth angenrheidiol i berfformio a chyflawni eu gwaith.
- Mynd i’r llys i gynrychioli a rhoi tystiolaeth ar ran y sefydliad er mwyn sicrhau y cymerir camau gorfodi priodol yn unol â pholisïau gorfodi CNC.
- Efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan yn grwpiau technegol / strategol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol.
- Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
- Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Dealltwriaeth eang o gyfundrefnau deddfwriaethol CNC.
- Profiad o weithio fel rheoleiddiwr / gorfodwr.
- Profiad o gynnal ymchwiliadau a pharatoi a chyflwyno dogfennau achos i’r llys.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, ac ennill cefnogaeth trwy ddylanwadu.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.