Swyddog Rheoliddio Diwydiant a Gwastraff
Dyddiad cau: 20 Ebrill 2025 | Cyflog: £36,246 – £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Llaneirwg, Caerdydd
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 200996
Y rôl
Bydd deiliad y swydd yn diogelu ac yn gwella'r amgylchedd drwy reoleiddio safleoedd gwastraff mewn modd effeithiol ac effeithlon. Ymateb yn ddiogel, yn amserol ac yn effeithlon i ddigwyddiadau/adroddiadau amgylcheddol a chynnal gwaith ymchwilio priodol.
Drwy gymhwyso ein Hegwyddorion Rheoleiddio - sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, cymryd camau gorfodi cymesur a sicrhau manteision lluosog gweladwy o ganlyniad i'n hymyriadau rheoleiddio.
Byddwch yn gweithio yn Nhîm Rheoleiddio Gwastraff De Canolog yng Ngweithrediadau'r De-Canolog yn Llaneirwg, Caerdydd. Mae'r tîm yn cynnwys Swyddogion Rheoleiddio Gwastraff, Swyddogion Gorfodi Gwastraff Anghyfreithlon, Gorfodi Pysgodfeydd, Rheoleiddio Gwastraff Peryglus a Mynd i'r Afael â Throseddau Gwastraff.
Byddwch yn gweithio yn y swyddfa yn bennaf ond gallai olygu teithio rhwng gwahanol leoliadau CNC, yn ogystal â gweithio mewn sefydliadau partner a safleoedd eraill. Byddwch hefyd yn gweithio yn yr awyr agored ar wahanol safleoedd ac efallai y byddwch yn gweithio mewn amodau annymunol o bryd i'w gilydd.
Bydd eich cyfrifoldebau yn canolbwyntio ar reoleiddio cyfleusterau rheoli gwastraff a ganiateir ar draws De-ddwyrain Cymru, megis Gorsafoedd Trosglwyddo Gwastraff a Chyfleusterau Ailgylchu Metel. Yn ogystal, byddwch yn rhan o dîm sy'n ymchwilio i achosion o lygredd ac yn mynd i'r afael â gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon, gan gynnwys tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Eleanor Davies, eleanor.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Asesu cydymffurfiaeth mewn gweithfeydd a safleoedd gwastraff.
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Lle nodir diffyg cydymffurfiaeth, argymell yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol i sicrhau bod gweithredwyr yn ailddechrau cydymffurfio cyn gynted â phosibl, gyda’r effaith amgylcheddol leiaf posibl ac ystyriaeth o'r effeithiau economaidd.
- Helpu i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer safleoedd a reoleiddir.
- Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
- Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a lles cadarnhaol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Wybodaeth a phrofiad naill ai o weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth dda o brosesau busnesau masnachol a’r pwysau arnynt.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnes a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio problemau a chael cefnogaeth drwy ddylanwadu
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.