Uwch Swyddog – Dadansoddwr Trosedd

Dyddiad cau: 04/05/2025 | Cyflog: £41,132 - £44,988  | Lleoliad: Caerdydd, Parc Cathays

 

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cefnogaeth Gorfodaeth Ganolog / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201019

Y rôl

Mae rôl y Dadansoddwr Troseddau yn rhan o’r Tîm Cymorth Gorfodi Canolog sydd wrth wraidd swyddogaeth cudd-wybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r tîm bach hwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws pob rhan o swyddogaethau CNC i ddarparu amrywiaeth o gynhyrchion sy'n cael eu harwain gan gudd-wybodaeth. 

Yn ogystal â gweithio gyda chydweithwyr CNC, mae’r Tîm Cymorth Gorfodi Canolog yn gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, ac mae’r Dadansoddwr Troseddau’n ganolog i’r gwaith hwn gan ddarparu amrywiaeth o gynhyrchion dadansoddol i gefnogi ein gwaith.  

Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni cynlluniau gorfodi tactegol a strategol ar lefel genedlaethol a lleol.  Bod yn gyfrifol am arwain cyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) at Asesiadau'r DU o Droseddau Amgylcheddol.  Darparu sgiliau dadansoddi arbenigol i ddatblygu ymchwiliadau Cyfoeth Naturiol Cymru ymhellach, gan fynd i'r afael ag achosion difrifol ac achosion a drefnir o weithgareddau anghyfreithlon.  Datblygu diwylliant gorfodi a lywir gan wybodaeth o fewn y tîm a'r sefydliad ehangach.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Ian Thomas at ian.g.thomas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mharc Cathays, Caerdydd

Er bod penodiadau'n cael eu gwneud fel arfer o fewn 4 i 6 wythnos i'r dyddiad cau, bydd angen gwiriadau fetio a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar lefel fetio NPPV3 cyn y gall ddechrau yn y rôl. Gall y gofyniad hwn ymestyn y cyfnod penodi cychwynnol hwn.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynhyrchu'r Asesiad Troseddau Strategol blynyddol ar gyfer CNC.
  • Cynhyrchu’r Asesiadau Troseddau Tactegol i’w defnyddio ym mhroses pennu tasgau CNC.
  • Bod yr unig unigolyn cyfrifol am ddadansoddi data troseddau a gwybodaeth gan sawl ffynhonnell er mwyn llywio ein strategaeth.
  • Bod yn gyfrifol am greu adroddiadau pwrpasol o wybodaeth er mwyn cyfeirio ein dyletswyddau gorfodi.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu asesiad strategol ledled y DU gydag asiantaethau partner.
  • Cynorthwyo ag ymchwiliadau a helpu i ddatblygu strategaeth er mwyn darparu adroddiadau cywir ac amserol o wybodaeth i'r sefydliad ehangach.
  • Cynnal astudiaethau manwl o fygythiadau gwyddonol i'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan greu proffiliau o broblemau neu dargedau (y mae'r ddau yn gynhyrchion gwybodaeth allweddol fel y'u diffinnir gan y Model Gwybodaeth Cenedlaethol).
  • Cynorthwyo grwpiau technegol/strategol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn fforymau allanol.
  • Hyfforddi a mentora aelodau'r tîm.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau. 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster cydnabyddedig, gradd neu wybodaeth gyfatebol.
  2. Sgiliau dadansoddi sy'n eich galluogi i ddadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth gymhleth.
  3. Gwybodaeth arbenigol a byddwch yn arbenigwr mewn ystod o bynciau yn ymwneud â'ch maes arbenigol gan eich galluogi i weithio fel arbenigwr lleol.
  4. Dealltwriaeth eang o drefniadau deddfwriaethol allweddol.
  5. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda busnes a reoleiddir a'r cyhoedd ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  6. Delio gyda sefyllfaoedd ac unigolion heriol mewn modd cyfforddus a chymwys.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 
  • Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf