Swyddog Gorfodi Amgylcheddol
Dyddiad cau: 06/04/2025 | Cyflog: Gradd £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Llaneirwg, Caerdydd
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 201140
Y rôl
Bydd deiliad y swydd yn diogelu ac yn gwella’r amgylchedd trwy ymchwilio’n effeithiol ac effeithlon i droseddau amgylcheddol cymhleth ar draws amrywiaeth o gyfundrefnau. Rhoi cymorth ac arweiniad gweithrediadol ar orfodi i’r sefydliad ehangach.
Byddwch yn gweithio yn Nhîm Rheoleiddio Gwastraff y De-ddwyrain yng Ngweithrediadau'r De-ddwyrain yn Llaneirwg, Caerdydd. Mae'r tîm yn cynnwys Swyddogion Rheoleiddio Gwastraff, Swyddogion Gorfodi Gwastraff Anghyfreithlon, Gorfodi Pysgodfeydd, Rheoleiddio Gwastraff Peryglus a Mynd i'r Afael â Throseddau Gwastraff.
Byddwch yn gweithio yn y swyddfa yn bennaf ond gallai olygu teithio rhwng gwahanol leoliadau CNC, yn ogystal â gweithio mewn sefydliadau partner a safleoedd eraill. Byddwch hefyd yn gweithio yn yr awyr agored ar wahanol safleoedd ac efallai y byddwch yn gweithio mewn amodau annymunol o bryd i'w gilydd.
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys ymchwilio i droseddau gwastraff anghyfreithlon ar raddfa fawr a gorfodi camau gweithredu priodol. Gall hyn gynnwys cyhoeddi llythyrau rhybuddio, cyflwyno rhybuddion gorfodi, a pharatoi ffeiliau achos ar gyfer y llys.
Yn dilyn hyfforddiant digonol, bydd rhan o'r rôl hon hefyd yn cynnwys dyletswyddau gorfodi pysgodfeydd, megis gwirio trwyddedau gwialen a mynd i'r afael â materion fel rhwydo anghyfreithlon a sathru ar wahanol afonydd a phyllau.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â David Griffiths, david.griffiths@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu or Kate Rodgers kate.rodgers@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Darparu cymorth gorfodi i’r sefydliad ehangach.
- Cyflenwi a rhoi cymorth i weithrediadau gwyliadwriaeth.
- Darparu barn a chyngor ynghylch gweithdrefnau gorfodi, casglu tystiolaeth a cheisiadau am warantau, yn unol â pholisïau a deddfwriaeth bresennol, er mwyn galluogi CNC i gymryd camau gweithredu priodol yn unol â’i bolisi gorfodi ac erlyn.
- Mentora a datblygu aelodau o’r tîm mewn perthynas â pholisïau, gweithdrefnau a thechnegau gorfodi newydd a phresennol, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon.
- Cysylltu â thimau mewnol eraill a sefydliadau allanol er mwyn sefydlu ffynonellau o wybodaeth ac er mwyn crynhoi a rhannu cyngor a gwybodaeth fel bod gan yr holl bartïon y wybodaeth angenrheidiol i berfformio a chyflawni eu gwaith.
- Mynychu’r llys i gynrychioli a rhoi tystiolaeth ar ran y sefydliad er mwyn sicrhau y cymerir camau gorfodi priodol yn unol â pholisïau gorfodi CNC.
Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion. - Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Dealltwriaeth o drefnau deddfwriaethol allweddol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Y gallu i ymdrin â sefyllfaoedd ac unigolion heriol mewn modd cyfforddus a chymwys.
- Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.