Biolegydd Pysgodfeydd
Dyddiad cau: 27/04/2025 | Cyflog: £36,246 | Lleoliad: Hyblyg yn Ne Ddwyrain / De Canolbarth Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Asesu Amgylcheddol / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos sy’n dechrau 12/05/2025
Rhif swydd: 201151
Y rôl
Mae Tîm Asesu a Chynghori Amgylcheddol De Ddwyrain Cymru yn dîm amlswyddogaethol sy'n cynnal arolygon ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ecoleg ddaearol ac ecoleg dŵr croyw, ansawdd dŵr a physgodfeydd. Mae ein gwaith yn darparu tystiolaeth sy’n helpu i gyflawni canlyniadau amgylcheddol ar gyfer y Lle, gan hefyd fodloni gofynion statudol a chenedlaethol.
Mae'r tîm yn un o'r 6 Thîm Asesu a Chyngor Amgylcheddol sy'n gweithredu ledled Cymru.
Cefnogi cynllunio a gweithredu rhaglenni monitro ac asesu a chyfrannu at raglenni adrodd.
Cyflwyno rhaglenni monitro amgylcheddol (pysgodfeydd yn bennaf) drwy arwain ar weithgarwch arolygu a monitro gan gynnwys, pan fo angen ymateb i ddigwyddiadau, cynllunio ac amserlennu rhaglenni gwaith a chyflawni.
Fel swyddog monitro technegol mewn disgyblaeth fonitro benodol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi cyflwyno rhaglenni monitro amgylcheddol trwy ddadansoddi, dehongli ac adrodd ar samplau a/neu ddata amgylcheddol.
Cefnogi’r Arweinydd Tîm i gynllunio, cydgysylltu ac olrhain darpariaeth rhaglenni monitro, yn ogystal â chysylltu â Gwasanaethau Dadansoddol CNC, timau OMAR a thimau eraill sy’n seiliedig ar le ar ofynion samplu.
Mae swydd wedi dod ar gael ar gyfer biolegydd pysgodfeydd sydd â phrofiad o fonitro pysgodfeydd/cyfrifwyr pysgod a dadansoddi data, i helpu i gyflawni nifer o brosiectau monitro pysgod ledled Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Peter Clabburn ar Peter.Clabburn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cydlynu a goruchwylio'r gwaith o leoli, gweithredu a datblygu offer cyfrif pysgod mewn safleoedd monitro sefydledig, gan gynnwys gosodiadau ARIS/DIDSON cymhleth.
- Prosesu data cyfrif pysgod gan ddefnyddio technegau amrywiol, dadansoddi data pysgodfeydd ac amgylcheddol, a dehongli canfyddiadau i gefnogi amcanion y prosiect.
- Cynnal a diweddaru data monitro â sicrwydd ansawdd mewn cronfeydd data perthnasol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â safonau Ewropeaidd, y DU a CNC. Ymgymryd â gweinyddu systemau, sicrhau ansawdd data, ac adrodd.
- Darparu cyngor technegol arbenigol i randdeiliaid mewnol ac allanol, gan sicrhau bod penderfyniadau yn seiliedig ar farn wyddonol gadarn ac arferion gorau.
- Cynhyrchu adroddiadau technegol yn dehongli setiau data cenedlaethol a lleol at ddefnydd gweithredol, ymchwiliadau cyhoeddus, ac achosion cyfreithiol.
- Cynorthwyo i gynllunio, amserlennu ac olrhain rhaglenni arolygu a monitro blynyddol, gan gynnwys gweithgareddau samplu. Cyfrannu at gyflwyno'r rhaglenni hyn a chynghori ar waith monitro anarferol.
- Cefnogi datblygiad a gweithrediad dulliau cyfrif, monitro ac adrodd pysgod newydd, gan gydweithio â sefydliadau partner lle bo angen.
- Helpu i ddatrys materion lleol trwy ddarparu cyngor gwyddonol a thechnegol ar fonitro data, gan gefnogi gwneud penderfyniadau gweithredol.
- Cynnal a chaffael offer samplu arbenigol i sicrhau bod rhaglenni monitro yn cael eu cyflwyno'n effeithiol.
- Ymateb i geisiadau am ddata monitro o fewn terfynau amser penodedig a sicrhau bod yr holl ddata a gesglir yn gyson â gofynion rheoleiddio.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o ddadansoddi samplau, monitro / gwyliadwriaeth yn y maes, dehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol a gwybodaeth ymarferol o ystod eang o weithgareddau a methodolegau monitro. Mae gwybodaeth benodol am fonitro pysgodfeydd, yn enwedig cyfrifwyr pysgod awtomataidd, yn ddymunol iawn.
- Bydd gennych radd neu gyfwerth mewn bioleg, ecoleg neu wyddor amgylcheddol
- Arbenigedd mewn gwyddor pysgodfeydd ac ecoleg.
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol a gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol.
- Sgiliau dadansoddol da gan gynnwys ystadegau, a gwybodaeth am drin data a chronfeydd data, yn ofynnol.
- Cyfathrebwr ardderchog gyda sgiliau trefnu da.
- Y gallu i wneud gwaith maes mewn amgylcheddau sydd weithiau'n anodd yn gorfforol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.