Arbenigwr Monitro Ansawdd Aer
Dyddiad cau: 01/04/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Ansawdd Aer / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 201309
Y rôl
Fel Arbenigwr Monitro Ansawdd Aer, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dull Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o fonitro ansawdd aer. Byddwch yn allweddol wrth ddatblygu canllawiau ac adnoddau arloesol i gefnogi'r maes hollbwysig hwn, gan sicrhau bod ein staff yn elwa o'ch arbenigedd technegol a'ch gwybodaeth am fframweithiau deddfwriaethol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddiogelu a gwella'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn y rôl hon, byddwch yn cynnal trosolwg strategol o’r sector monitro ansawdd aer, gan aros gam o flaen y tueddiadau sy’n dod i’r amlwg a nodi eu goblygiadau posibl i CNC. Mae hwn yn gyfle i gael effaith sylweddol ar bolisi ac arfer amgylcheddol, gan weithio gyda thîm deinamig sy'n ymroddedig i ysgogi canlyniadau cynaliadwy.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jiping Shi at Jiping.Shi@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi'r Cynghorydd Ansawdd Aer Arweiniol drwy arwain y gwaith o ddatblygu cyngor a chanllawiau ar gyfer monitro ansawdd yr aer ar safleoedd a reoleiddir gennym, i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mabwysiadu dull cymesur sy'n seiliedig ar risg ar gyfer darparu cyngor statudol a rheoleiddio yn unol â diben Cyfoeth Naturiol Cymru
- Gweithredu fel y prif ddarparwr cymorth technegol i staff mewn Gweithrediadau ar gyfer canllawiau monitro ansawdd aer, safonau rhyngwladol a chenedlaethol a ddefnyddir yn gyffredin wrth fonitro allyriadau, a darparu cymorth technegol a chyngor i staff yn Llywodraeth Cymru.
- Fel rhan o'r Tîm Ansawdd Aer, chi fydd y prif ddarparwr cyngor o ran monitro allyriadau i’r aer o'r safleoedd a reoleiddir gan gynnwys llygryddion cemegol cyffredin o’r aer, enghreifftiau o ddiddymu prosesau, strategaethau monitro, technegau monitro a ddefnyddir yn gyffredin a chynlluniau sicrwydd ansawdd. Byddwch yn gallu darparu cyngor ar gymwysiadau penodol mewn perthynas â monitro allyriadau ar gyfer ffermio dwys, bioaerosolau, sŵn, arogl ac ymateb i ddigwyddiadau yn ôl y galw.
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer monitro cyfran ansawdd aer gyda'r cymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a'r DU, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon i rannu a chyd-weithio ar ddatblygu cyngor a chanllawiau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Bydd gan yr Arbenigwr Technegol ar fonitro ansawdd aer brofiad uniongyrchol o fonitro allyriadau i'r aer, naill ai fel rheoleiddiwr neu weithredwr a gwybodaeth arbenigol o'r cynllun monitro MCERTS ar gyfer technegau monitro allyriadau i’r aer ac allyriadau, a'r safonau/canllawiau sy'n eu rheoleiddio
2. Rhaid meddu ar radd mewn pwnc perthnasol. Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog, yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol effeithiol, ac yn gallu gweithio'n dda fel aelod o dîm.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.