Uwch-gynghorydd Arbenigol, Dulliau Rheoliadol

Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Dulliau Rheoliadol Dŵr/ Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: 12 mis o ddyddiad yr apwyntiad

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweliad: 22 Gorffennaf 2025

Rhif swydd: 201553

Y rôl

Yn y rôl hon byddwch yn:
• arbenigwr rheoliadol blaenllaw ac yn cymhwyso gwybodaeth am reoleiddio amgylcheddol ar draws sawl cyfundrefn.
• arweinydd arbenigol ar gyfer cyflawni prosiectau rheoliadol, megis cyfrannu at ddatblygiad deddfwriaeth newydd a deall yr effeithiau posibl ar Cyfoeth Naturiol Cymru.
• gweithio gydag eraill i ddatblygu prosesau ac offer sy’n berthnasol i nifer o gyfundrefnau rheoliadol.
• cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau drwy gyfrannu at grwpiau llywodraethu traws-swyddogaethol. 
• cefnogi timau eraill ar draws yr adran, gyda gweithgareddau cynllunio gwaith.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Eleanor Ellick trwy eleanor.ellick@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae’r rôl Uwch-gynghorydd Arbenigol, Dulliau Rheoliadol hon yn rhan o Dîm Dulliau Rheoliadol Ansawdd Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr adran Tystiolaeth, Trwyddedu a Pholisi.

Mae’r rôl hon yn cefnogi gweithio strategol ar draws y timau Dulliau Rheoliadol a Pholisi, gan wneud cysylltiadau a chymhwyso arferion rheoliadol gorau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar y dull rheoliadol, cyngor technegol, a chanllawiau ar gyfer pob sector perthnasol.
  • Rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol a deddfwriaeth newydd, a dehongli deddfwriaethau, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) a meysydd cyfrifoldeb penodol.
  • Arwain ar brosiectau cenedlaethol i gyflawni datrysiadau integredig wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda sy’n hybu newid a gwelliannau effeithiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gyfer busnesau ledled Cymru, neu eu cefnogi.
  • Nodi a rheoli unrhyw risgiau i enw da ac i’r sefydliad, gan ddangos barn gadarn ac ymwybyddiaeth wleidyddol dda wrth wneud penderfyniadau.
  • Arwain yn benodol ar y gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm wydnwch technegol a deddfwriaethol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
  • Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu defnyddio yn y meysydd gwaith y mae’r tîm yn ymgymryd â hwy. 
  • Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes, gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran gweithgareddau niwclear a gweithgareddau rheoleiddiedig nad ydynt yn niwclear.
  2. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau’r llywodraeth/rheoleiddwyr, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  3. Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a’r sefydliad ehangach.
  4. Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion gweithgareddau rheoliadol.
  5. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf