Prif Syrfëwr
Dyddiad cau: 02/04/2025 | Cyflog: Gradd 9 £59,547 - £65,004 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm y Prif Syrfewyr /Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £59,547 yn codi i £65,004 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 201642
Y rôl
Fel aelod allweddol o Dîm Rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio a llywio cyfeiriad strategol y sefydliad. Yn ogystal â’ch cyfrifoldebau swyddogaethol craidd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi trawsnewid CNC, gan sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu rheoli’n gynaliadwy. Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfrannu at newid ystyrlon a chael effaith sylweddol ar ddyfodol stiwardiaeth amgylcheddol yng Nghymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Rachel Chamberlain.
rachel.chamberlain@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rhoi cymorth proffesiynol, cyngor, arweiniad a sicrwydd i Gyfarwyddiaethau CNC ar bob agwedd o Arolygu.
- Mae hon yn rôl Pennaeth Proffesiwn strategol ar gyfer Gwasanaethau Arolygu lle mae’r rhan fwyaf o waith achos arferol yn cael ei wneud yn bennaf gan weithwyr eiddo proffesiynol eraill o fewn CNC gyda chymeradwyaeth a sicrwydd ansawdd penodol yn cael eu darparu gan y Prif Syrfëwr.
- Arwain ar ddatblygu ac ymgorffori cyfeiriad strategol ar gyfer dulliau arolygu ar draws holl swyddogaethau CNC lle gofynnir am gytundebau cyfreithiol i gefnogi rheolaeth gynaliadwy ar dir ac eiddo, (boed yn eiddo i CNC neu eraill). Mae hyn yn cynnwys Stiwardiaeth Tir (sut yr ydym yn cyflawni Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol (SMNR) ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n uniongyrchol yn ein gofal), Rheoli Perygl Llifogydd (sut rydym yn rheoli’r asedau perygl llifogydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt) , Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol (sut rydym yn ymyrryd ar dir sy’n eiddo i eraill i hyrwyddo natur) ac yn cefnogi’r rhain yn unol ag agweddau arolygu ein rheolaeth o gyfleusterau CNC.
- Arwain ar gyfer pennu cyfeiriad a gweithredu a sicrhau bod safonau proffesiynol yn cael eu cynnal ymysg gweithwyr eiddo proffesiynol ar draws pob Cyfarwyddiaeth.
- Gweithredu fel Pennaeth Proffesiwn ar gyfer Syrfewyr yn CNC gan gefnogi datblygiad proffesiynol staff Ystadau, cynrychioli CNC wrth ddelio â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a chyrff proffesiynol perthnasol eraill a sicrhau bod yr Ystad yn cyflawni yn unol ag egwyddorion SMNR..
- Goruchwylio, darparu a chynnal yr holl ganllawiau ystadau mewnol gan sicrhau eu bod yn gyfredol o ran deddfwriaeth a chyfraith achosion.
- Ymgymryd â chymeradwyaeth/argymhelliad lefel uwch ar gyfer yr holl drafodion cyfreithiol a phrisio sy'n ymwneud ag eiddo, yn unol â chynlluniau dirprwyo perthnasol, gan gynnwys caffaeliadau a gwarediadau, er mwyn sicrhau dull cyson ac er mwyn darparu swyddogaeth sicrwydd.
- Cydgysylltu â'r Gwasanaethau Cyfreithiol a rhoi cyngor i bob Cyfarwyddiaeth ar faterion sy'n ymwneud ag eiddo.
- Gweithredu fel cleient deallus gwasanaethau cyfreithiol allanol sy’n ymwneud â thir ac eiddo.
- Arwain ar brynu arolygon a brynwyd i mewn a gwasanaethau arbenigol cysylltiedig.
- Rheoli atebolrwydd cyhoeddus a hawliadau iawndal sy'n deillio o dir ac eiddo gan gynnwys cyfarwyddo cyfreithwyr a'r contract ar gyfer gwasanaethau syrfewyr allanol gan gynnwys cynlluniau llifogydd cyfalaf.
- Gweithio gyda sectorau allweddol, rhanddeiliaid ac uwch gydweithwyr allanol, Gweinidogion, gwleidyddion a swyddogion (ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol) a dylanwadu arnynt i sicrhau bod CNC yn cyflawni ei rolau a’i ddyletswyddau yn y maes hwn, ac yn dylanwadu’n llwyddiannus ar bolisi a strategaeth sefydliadau, gweithredwyr a grwpiau eraill i gefnogi rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol a llif y buddion.
- Cydweithio â'ch Rheolwr i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol cytunedig.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Byddwch yn syrfëwr siartredig (MRICS neu FRICS) gyda phrofiad amlwg o weithio a chyflawni ar lefel uwch yn y sector tir ac eiddo.
2. Byddai cael achrediad Prisiwr Cofrestredig neu barodrwydd i gael achrediad yn well.
3. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â Safonau Arolygu Proffesiynol ochr yn ochr â gyrwyr polisi Llywodraethau Cymru a’r DU ym maes rheoli tir ac ystadau.
4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau, y gyrwyr a’r rhwystrau cymhleth a wynebir gan CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni canlyniadau Rheoli Adnoddau Naturiol Cynaliadwy yng Nghymru drwy reoli tir ac ystadau.
5. Dealltwriaeth fanwl o reolaeth tir ac ystadau a gyrwyr a sut i ryddhau’r ddarpariaeth ymhellach.
6. Gweithio gyda thirfeddianwyr eraill a chydag awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, Parciau Cenedlaethol a sefydliadau perthnasol eraill
7. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
8. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn y maes cyhoeddus.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.