Dyddiad cau: 13/04/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweinydd a Storfa / Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amswe, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Dyddiad cyfweld: 21/04/2025

Rhif swydd: 201833, 203755

Y rôl

Fel Peiriannydd Gweinydd, byddwch yn gyfrifol am gynnal amgylchedd cyfrifiaduro diogel, effeithlon sy'n perfformio'n dda. O fonitro rhagweithiol a datrys problemau i reoli cylch bywyd llawn adnoddau cyfrifiaduro a meddalwedd, byddwch yn sicrhau bod ein systemau'n gweithredu'n ddi-dor. Gan weithio'n agos gyda’r Arweinydd Tîm Gweinyddion a chydweithwyr DDaT, byddwch yn cyfrannu at welliannau seilwaith, yn cefnogi prosiectau DDaT allweddol, ac yn helpu i ysgogi arloesedd ar draws y sefydliad.

Y tu hwnt i weithrediadau o ddydd i ddydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn llywodraethu gwasanaethau, monitro perfformiad, a rheoli digwyddiadau, gan sicrhau bod gwasanaethau DDaT yn bodloni safonau y cytunwyd arnynt. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau arbenigol, gan gynnwys mudo ac uwchraddio gweinyddwyr, a gweithredu technolegau newydd, gan gadw seilwaith CNC yn wydn ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

Os ydych chi'n angerddol am wneud y gorau o atebion technoleg, aros ar y blaen i dueddiadau'r diwydiant, a chael effaith wirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Ian Johns ar Ian.Johns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Ni fu erioed amser pwysicach i ymuno â CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol pobl a byd natur Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar wneud ein gwasanaethau’n well ac yn symlach i ddinasyddion, busnesau a rhanddeiliaid Cymru.

Sefydlwyd adran TGCh CNC yn 2013 a mabwysiadodd fodel cwmwl-yn-gyntaf heb dechnolegau etifeddol na mudo. Mae is-dimau TGCh yn datblygu, yn rheoli ac yn cefnogi adnodd Azure mawr aml-ranbarth sy'n cefnogi gwasanaethau cynnal bywyd i'r genedl 24x7. Gyda dros 100 o gymwysiadau gwe, cronfeydd data cysylltiedig a rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau, modelau amgylcheddol amser real, rhybuddion ac adroddiadau cyhoeddus a gwaith casglu data IOT o dros 650 o leoliadau anghysbell - nid yw gwaith diddorol a chyffrous byth yn bell i ffwrdd! 

Ein huchelgais yw magu a meithrin mwy o dalent ym meysydd data, digidol a thechnoleg yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod. I wneud hynny, rydym yn cydweithio â phartneriaid dylunio a datblygu arbenigol i wella gallu a sgiliau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Drwy greu timau cymysg o bobl o’n timau ein hunain yn CNC a’n partneriaid cyflawni, rydym yn gweithio ar y cyd i gyflawni nodau a chanlyniadau a rennir er mwyn cyflawni ar gyfer cenedl Cymru yn unol â Strategaeth Ddigidol a Chorfforaethol CNC. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Sicrhau iechyd, perfformiad, ac argaeledd cyfrifiaduro a storio, gan gadw at lywodraethu a safonau DDaT.
  • Datrys digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn brydlon, gan sicrhau cydymffurfiaeth â chytundebau lefel gwasanaeth.
  • Dilyn a chyfrannu at weithredu cynllun gwaith y Tîm Gweinyddwyr a Storio.
  • Cydweithio ag Uwch Beirianwyr i ddatrys problemau a gwella perfformiad systemau byw.
  • Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i dimau cymorth rheng flaen ac eilaidd.
  • Cadw at amserlenni cynnal a chadw rhagweithiol, gan uwchraddio a gwella gwasanaethau arferol.
  • Canfod a datrys materion technegol yn effeithlon, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar wasanaethau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Ardystiad MCSE/MCSA/Azure neu brofiad cyfatebol
  2. Azure Cloud - IaaS cyffredinol, SaaS, PaaS Windows Server, Azure Virtual Desktop
  3. Profiad o Weinyddu Windows (AD DS, GPO, DNS), Gweinyddu Office 365
  4. Sgiliau cyfathrebu a datrys problemau rhagorol
  5. Hanes profedig o gefnogi a chynnal seilwaith yn ôl cytundebau lefel gwasanaeth
  6. Gwybodaeth am Reoli Gwasanaeth ITIL – yn benodol Rheoli Digwyddiadau a Phroblemau

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf