Arbenigwr Ecoleg Forol
Dyddiad cau: 02/04/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cynghori ar Ynni Adnewyddadwy / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 202443
Y rôl
Fel Cynghorydd Arbenigol Ecoleg Benthig MaCE, byddwch yn arwain ar ddarparu cyngor technegol arbenigol ar ecoleg benthig, yn enwedig mewn perthynas â datblygiadau morol megis prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr. Bydd eich mewnwelediadau a’ch arweiniad yn chwarae rhan ganolog wrth lunio penderfyniadau, polisïau, strategaethau a rhaglenni’r Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i gydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws CNC, gan gyfrannu at ein Rhaglen Forol ar draws y sefydliad, gan gynnwys y Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr. Byddwch hefyd yn sefydlu ac yn meithrin partneriaethau â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cyrff Cadwraeth Natur Statudol eraill, swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector, a’u hymgynghorwyr.
Bydd eich gwaith yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygu cynaliadwy yn amgylchedd morol Cymru, gan sicrhau cydbwysedd rhwng cynnydd a chadwraeth ecolegol.
Byddwch yn atebol i Arweinydd y Tîm Cynghori ar Ynni Adnewyddadwy, a byddwch yn rhan o dîm deinamig sy'n ymroddedig i gefnogi gweledigaeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy ac ecosystem forol sy’n ffynnu.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Becky Tillson at rebecca.tillson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth mewn perthynas â mamaliaid morol.
- Cynnig cyngor technegol arbenigol yn fewnol i lywio ymatebion Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol i waith achos allanol, a hefyd i bennu gwaith achos mewnol sy'n cael ei reoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (er enghraifft, trwyddedau morol). Bydd cyngor mewnol hefyd yn llywio swyddogaethau rheoli morol ac arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol.
- Darparu cyngor technegol arbenigol yn allanol ar gyfer (a) datblygwyr a rheoleiddwyr ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a (b) fforymau rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol, ac (c) cyflawni rôl tyst arbenigol mewn ymchwiliadau fel y bo'n briodol.
- Arwain ar waith datblygu canllawiau gwaith achos perthnasol.
- Datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
- Cysylltu â rhanddeiliaid allanol megis cynrychiolwyr o'r sector, Llywodraeth Cymru, partneriaid, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cyfrannu at waith grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Gwybodaeth o’r canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) penodedig; sbardunau polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) penodedig a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
2. Profiad sylweddol o ran darparu cyngor technegol morol arbenigol, ar lefel ranbarthol neu ar lefel Cymru gyfan, ym maes ecoleg benthig forol.
3. Profiad o: ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr.
4. Gwybodaeth dechnegol arbenigol yn ymwneud ag ecoleg benthig.
5. Gweithio gyda/o fewn Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth natur statudol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cyrff cyhoeddus a chyrff cynrychioliadol y sector morol.
6. Sgiliau rheoli prosiectau, cynllunio gwaith a blaenoriaethu da.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.