Cymorth Technegol, Syrfëwr (Rheoli Ystadau)
Dyddiad cau: 10 Ebrill 2025 | Cyflog: Grade 4 £32,544 - £35,377 per annum| Lleoliad: Llanymddyfri
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 202641
Y rôl
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth technegol i’r Uwch Syrfëwr Arbenigol (Asiant Tir) ac yn ymgymryd â rhan allweddol wrth reoli rhaglenni a phrosiectau rheoli’r ystad o fewn daliad tir Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â chyfarwyddyd y Stiward Tir.
Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cynnal rhestrau eiddo tir ac eiddo, rheoli cofnodion ariannol, goruchwylio systemau cronfa ddata, a defnyddio offer mapio GIS i gefnogi gweithgareddau rheoli ystadau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gyflwyno a rheoli amrywiaeth o raglenni sy'n gysylltiedig â rheolaeth effeithlon ac effeithiol o'r ystâd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at stiwardiaeth adnoddau tir ac i gefnogi ystod eang o fentrau rheoli ystadau sy’n chwarae rhan hanfodol wrth warchod a gwella amgylchedd naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Paul Dann, paul.dann@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi'r Asiant(wyr) Tir trwy gynllunio a monitro’r dull o reoli ystadau yn effeithiol i gyfrannu at raglenni corfforaethol a dangosyddion perfformiad allweddol.
- Ymateb i geisiadau gweithredol am osod amodau ar gyfyngiadau ystadau ar gyfer holl weithrediadau'r goedwig neu weithrediadau ar dir y mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n berchen arno neu'n ei reoli.
- Byddwch yn meithrin cydberthnasau mewnol ac allanol â chwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol, ac yn ennyn dealltwriaeth o'r rolau perthnasol sy'n cyflawni canlyniadau ar gyfer y busnes.
- Ategu tîm y rhaglen ac ystadau a chyfrannu at dargedau a dangosyddion perfformiad y tîm.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ystadau a chyfreithiol sy'n ymwneud â pherchnogaeth tir yr ystad gyhoeddus yn eich ardal ddaearyddol.
- Diweddaru a rheoli set ddata gorfforaethol i gynnwys mapio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), stocrestr tir ac eiddo a rheoli ystadau.
- Gwella ffyrdd o weithio a chynnig awgrymiadau er mwyn newid. Dysgu o brofiad ac adborth adeiladol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad blaenorol mewn rôl sy’n ymwneud ag ystadau.
- Sgiliau cynllunio da.
- Sgiliau trefnu da.
- Y gallu i weithio ar y cyd ag aelodau eraill o'r tîm ac asiantau tir allanol a chyda dealltwriaeth o gyflawni nodau'r timau gweithredol.
- Y gallu i fonitro cynnydd gwaith, nodi bylchau wrth gyflawni blaenoriaethau a chymryd camau unioni i wella’r gwasanaeth a sicrhau bod amser ac ymdrech yn cael eu hailddyrannu’n briodol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol) gyda disgwyliad i ddatblygu sgiliau Cymraeg i Lefel B2 – lefel canolradd uwch (gallu trafod materion gwaith) yn dilyn rhaglen hyfforddiant y cytunir arni.
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Buddion
Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.