Prif Beiriannydd Gweithrediadau (perygl o lifogydd)

Dyddiad cau: 30/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Aberystwyth, Llanymddyfri, Talybont ar Usk neu Y Trallwng.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Peirianneg Integredig, Canolbarth Cymru / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 18/08/2025

Rhif swydd: 202687

Y rôl

A ydych chi’n beiriannydd sifil profiadol sy’n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd? Ymunwch â ni fel Prif Beiriannydd Gweithrediadau a chwaraewch rhan ganolog wrth gyflawni gwaith hanfodol yn ymwneud â rheoli’r perygl o lifogydd a gwytnwch amgylcheddol ledled Canolbarth Cymru.


Mae hon yn swydd fawr ei heffaith, a byddwch yn arwain y broses o gynllunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau — o gynnal a chadw asedau llifogydd a chynlluniau gwella cyfalaf i waith yn ymwneud â rheoli llifogydd yn naturiol a phrosiectau amddiffyn yr arfordir. Byddwch yn allweddol i’r broses o wneud penderfyniadau ac yn arbenigwr technegol, gan reoli contractwyr, llunio datrysiadau, gan sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n ddiogel, yn effeithlon, ac i safon uchel.


Byddwch hefyd yn gyfrifol am gynllunio ymateb brys Cyfoeth Naturiol Cymru i lifogydd, gan ddatblygu a phrofi ein cynlluniau digwyddiadau wrth gefn ac arwain ymarferion hyfforddi — gan sicrhau ein bod yn barod i ymateb pan fydd cymunedau ein hangen fwyaf.


Mae’r rôl hon yn berffaith i rywun sydd â chefndir cadarn ym maes peirianneg sifil ac sy’n angerddol dros ddatrysiadau cynaliadwy ar sail natur. Byddwch yn defnyddio eich arbenigedd i wneud y canlynol:
•    Arwain ar ddylunio a rheoli prosiectau peirianneg sifil ar raddfa fach i raddfa ganolig;
•    Goruchwylio’r broses o archwilio asedau a chynllunio i’w cynnal a chadw er mwyn sicrhau gwydnwch y seilwaith yn yr hirdymor;
•    Gweithredu fel cleient, dylunydd neu brif ddylunydd o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015;
•    Cefnogi a chynghori ar ddiogelwch cronfeydd dŵr, draenio tir a chynlluniau perygl o lifogydd;
•    Helpu i lunio’r defnydd o systemau rheoli asedau newydd a gwella effeithlonrwydd digidol;
•    Cyfrannu at brosiectau traws-swyddogaethol a chydweithio â rhanddeiliaid ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru a thu hwnt.


I beiriannydd brwdfrydig sy’n barod i arwain, bydd hon yn garreg filltir nodedig o’i lwybr gyrfa, sy’n cynnig gweithio hybrid a hyblyg, amgylchedd tîm cefnogol, a’r cyfle i reoli prosiectau ystyrlon o feddwl am gysyniad i’w gyflawni.


Os ydych yn ffynnu mewn rôl sy’n cyfuno her dechnegol, goruchwyliaeth strategol a budd uniongyrchol i’r gymunedol — hoffem glywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nicholas Thompson at Nicholas.Thompson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

 Mae peirianneg integredig yn cyfuno rolau peirianwyr perygl o lifogydd, peirianwyr coedwigaeth, peirianwyr cronfeydd dŵr a pheirianwyr systemau draenio tir. Mae’r rôl hon wedi’i hariannu’n benodol i arwain ar waith yn ymwneud â’r perygl o lifogydd a chefnogi eraill ym maes adeiladu cronfeydd dŵr a system draenio tir a rheoli asedau yng Nghanolbarth Cymru.   Bydd y rôl hon yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni gwaith adeiladu a chynnal a chadw ar gynlluniau sy’n cefnogi cymunedau lleol sydd mewn perygl o lifogydd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain y gwaith o greu’r rhaglen flynyddol ar gyfer cynnal a chadw asedau perygl o lifogydd.
  • Ymateb i asedau sy’n methu, cynllunio’r gwaith yn y rhaglen flynyddol, neu baratoi ar gyfer gwaith atgyweirio.
  • Arwain y gwaith o lunio’r ymateb i ddigwyddiadau llifogydd a’r adolygiad parhaus ohono. 
  • Cynlluniau wrth gefn a gweithredu, gan sicrhau bod ymarferion ymateb i ddigwyddiadau rheolaidd yn cael eu cynnal. 
  • Noddi a/neu ymgymryd â rôl Rheolwr Prosiectau ar gyfer prosiectau peirianneg sifil ar raddfa fach i ganolig a nodir gan Weithrediadau a Rheolwr y Gwasanaethau Dadansoddol, gan ddarparu barn a chyngor arbenigol ar faterion peirianneg a thechnegol.
  • Cyflwyno prosiectau ar gyfer adrannau mewnol eraill fel Hydrometreg a Thelemetreg a’r Bwrdd Perygl Llifogydd er mwyn ailgodi taliadau i ariannu’r rhaglen cynnal a chadw refeniw. 
  • Llunio adroddiadau ariannol, er mwyn gallu rhoi amcangyfrif cywir o dargedau cost a chyllidebau a raglennir.  
  • Gweithio gyda’r tîm caffael i bennu fframweithiau contractwyr.
  • Cynnal tendrau a gwerthusiadau. 
  • Darparu cyngor a chynorthwyo â’r gwaith o integreiddio gwaith cynnal a chadw er diogelwch cronfeydd dŵr, gweithgareddau ardaloedd draenio mewnol, a rhaglenni cynnal a chadw asedau.
  • Ymgymryd â rolau ffurfiol cleient a/neu ddylunydd/prif ddylunydd i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli).
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a mewnbynnu i systemau technoleg gwybodaeth newydd fel AMX i wella effeithlonrwydd CNC. Gweithredu fel pwynt cyswllt ac uwch-ddefnyddiwr ar gyfer y systemau hyn.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymwysterau – mae gradd mewn peirianneg sifil, neu gymhwyster cyfwerth, yn ddymunol yn ogystal â thystysgrif adeiladu NEBOSH. Diploma Cenedlaethol Uwch/Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn peirianneg sifil neu gymhwyster cyfwerth yw’r gofyniad sylfaenol, yn ogystal â phrofiad perthnasol sylweddol. Dylai’r ymgeisydd fod hefyd yn gweithio tuag at statws Peiriannydd Siartredig neu ddynodiad proffesiynol priodol arall.
  2. Gwybodaeth eang am ddylunio ac arferion adeiladu ym maes peirianneg sifil, ynghyd â gwybodaeth sylfaenol am hydroleg sianeli. Y gallu i ddatblygu a defnyddio atebion arloesol i broblemau. 
  3. Yn y rôl hon, bydd disgwyl i chi gefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch drwy fynd ati i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau y darperir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC. 
  4. Rheoli prosiectau – byddai cymhwyster ymarferydd PRINCE2 yn ddymunol. 
  5. Sgiliau tirfesur cymwys. Sgiliau AutoCAD. Mae gweithio ar y cyd gyda thimau eraill ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sefydlu partneriaethau wrth gyflawni amcanion perygl llifogydd CNC yn rhan hanfodol o’r rôl.
  6. Cyfrannu at rota dyletswydd ymateb i ddigwyddiadau CNC. 
  7. Y gallu i ymgymryd â ‘rôl cleient a dylunydd’, er mwyn cydymffurfio â Deddf Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015. 
  8. Sgiliau trefnu da ac ym meysydd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a’r system gwybodaeth ddaearyddol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf