Peiriannydd Perfformiad Asedau
Dyddiad cau: 23/07/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Cross Hands
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Perfformiad Asedau’r De-orllewin / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 15/08/2025
Rhif swydd: 202748
Y rôl
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy’n datblygu a chyflawni cynlluniau rheoli asedau perygl llifogydd yn y tymor hir. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu i nodi’r angen a’r cyfleoedd am asedau newydd ac yn sicrhau bod asedau perygl llifogydd critigol presennol yn cael eu rheoli’n briodol nawr ac yn y dyfodol. Mae asedau perygl llifogydd yn cynnwys amddiffynfeydd arfordirol a llanwol, muriau llifogydd ac argloddiau ar lannau afonydd, yn ogystal â fflodiardau, llifddorau a gorsafoedd pwmpio.
Rydym yn chwilio am unigolion â chymwysterau addas i gasglu a dadansoddi data asedau a gwybodaeth perygl llifogydd er mwyn llunio nodiadau briffio, achosion busnes, adroddiadau a chontractau i lywio camau gweithredu a phrosiectau a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau ledled De Cymru.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol wedi ennill profiad perthnasol mewn nifer o rolau a/neu sefydliadau ac wedi datblygu dealltwriaeth dda o natur dechnegol y swyddogaeth yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol.
Bydd y swydd wedi’i lleoli yn y swyddfa yn bennaf ond gall olygu teithio rhwng lleoliadau gwahanol CNC, yn ogystal â gweithio mewn sefydliadau partner ac adeiladau eraill. Hefyd, bydd gofyn i chi weithio allan yn y maes, gan weithio mewn gwahanol safleoedd a lleoliadau, a bydd gofyn i chi fynd ag offer perthnasol gyda chi ar gyfer hyn.
Mae CNC yn ymatebwr Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae hyn yn golygu efallai y bydd gofyn i’r holl staff ymgymryd â gweithgareddau ar lefel sy’n gymesur â’r sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol yn eu rôl, i gynorthwyo wrth sicrhau bod y ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni.
Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer unigolyn technegol sydd ag angerdd am weithio gyda’r amgylchedd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Ne Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gareth.Richards@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r Tîm Perfformiad Asedau yn rhan o’r Swyddogaeth Rheoli’r Perygl o Lifogydd. Rydym yn casglu data, ac yn dadansoddi ac yn gwerthuso’r wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar flaenoriaethau i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli’r System Rheoli Asedau Cenedlaethol (AMX) a data cysylltiedig, gan gynnwys casglu data arolygon.
- Dadansoddi gwybodaeth am asedau a data perygl llifogydd er mwyn pennu’r angen i reoli asedau perygl llifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
- Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y ceir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Tymor Canolig.
- Cynnal astudiaethau cyn-ddichonoldeb o Gynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd a Chynlluniau Rheoli Traethlin.
- Cynnal asesiadau peirianneg.
- Rheoli prosiectau cyfalaf a refeniw bach/canolig eu gwerth (hyd at £100,000).
- Dylunio, cost a budd, blaenoriaeth risg, cwmpasau prosiectau, gwerthuso tendrau, ac adrodd ar gyfer prosiectau. Gweithredu fel uwch-ddefnyddiwr hefyd.
- Monitro cydymffurfiaeth â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.
- Goruchwylio ymgynghorwyr a chontractwyr ar fframweithiau.
- Bod yn gynrychiolydd fel partner proffesiynol mewn grwpiau llifogydd, grwpiau arfordirol a digwyddiadau cymunedol.
- Cynorthwyo awdurdodau rheoli risg, cymunedau a rhanddeiliaid eraill a rhoi cyngor iddynt.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
-
Addysg hyd at lefel gradd mewn peirianneg sifil, neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol.
-
Gwybodaeth dda o TGCh, gan gynnwys Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Chynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) (e.e. ARCGIS, AutoCAD). Byddai gwybodaeth dda am gronfeydd data AMX yn fanteisiol.
-
Ymwybyddiaeth dda o iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol, e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015.
-
Gwybodaeth am ddylunio ym maes peirianneg sifil ac arferion contractau adeiladu.
-
Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu fodlonrwydd i weithio tuag at aelodaeth ohono, megis ICE/CIWEM.
-
Byddai profiad o reoli prosiectau a PRINCE 2 yn ddymunol
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.