Uwch Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr
Dyddiad cau: 01/04/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cyflenwi Trwyddedau / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203711
Y rôl
Fel Uwch Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol rheoli dŵr yng Nghymru. Dyma gyfle cyffrous i ddarparu arbenigedd arbenigol wrth asesu a phenderfynu ar geisiadau am drwyddedau ansawdd dŵr cymhleth. Bydd eich gwaith yn cefnogi defnyddio ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a’u diogelu, gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda pholisïau, prosesau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Byddwch yn gweithredu fel arbenigwr dibynadwy o fewn y Tîm Cyflenwi Trwyddedau, gan roi cyngor ar ddehongli a gweithredu deddfwriaeth berthnasol. Bydd eich gwybodaeth a'ch arweinyddiaeth yn hollbwysig wrth fynd i'r afael â heriau trwyddedu arferol a strategol, gan sicrhau bod trwyddedau'n parhau i fod yn effeithiol ac yn cyd-fynd â gofynion rheoleiddio sy'n datblygu.
Bydd cydweithio’n rhan ganolog o’ch rôl. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o fewn y Tîm Cyflenwi Trwyddedau ac ar draws y Gwasanaeth Trwyddedu ehangach, gan rannu arbenigedd a mynd i'r afael â materion cymhleth gyda'ch gilydd. Drwy weithio fel tîm a gwneud defnydd o gryfderau unigol, byddwch yn helpu i sicrhau effeithlonrwydd ac ysgogi rhagoriaeth o fewn gweithrediadau trwyddedu CNC.
Mae hyn yn fwy na swydd — mae'n gyfle i gael effaith ystyrlon ar amgylchedd a chymunedau Cymru. Ymunwch â ni i ddiogelu ein hadnoddau dŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Joanne Fitton.
joanne.fitton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain y gwaith o benderfynu ar drwyddedau cymhleth a gwneud penderfyniadau o dan ddeddfwriaeth ansawdd dŵr drwy gynnal asesiad technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC pan fyddant ar gael, a rhoi, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn terfynau amser.
- Arwain ar ddylanwadu ar fframweithiau mentora a hyfforddi a’u rhoi ar waith i gynorthwyo datblygiad technegol swyddogion trwyddedu eraill o fewn yr adran trwyddedu ansawdd dŵr a, lle bo’n berthnasol, ar draws y gwasanaeth trwyddedu, gan sicrhau cysondeb yn y dull gweithredu.
- Profiad helaeth o wneud penderfyniadau trwyddedu gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau a meddalwedd technegol a/neu raglenni modelu fel sy'n ofynnol gan y gyfundrefn ansawdd dŵr.
- Arwain ar gefnogi timau gweithredol trwy ddarparu arbenigedd mewn trafodaethau cyn ymgeisio a gwaith ar ôl rhoi trwydded ar gyfer sawl math o geisiadau ym maes ansawdd dŵr.
- Nodi a darparu cyfleoedd ar gyfer newidiadau i brosesau a gweithdrefnau.
- Darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol trwy gydlynu newid sy'n arwain at well profiad mewnol ac allanol i randdeiliaid o'r Gwasanaeth Trwyddedu.
- Cydlynu ac arwain wrth baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau caniatâd ar gyfer eich maes gwaith penodedig.
- Cynrychioli'r Gwasanaeth Trwyddedu ar grwpiau technegol mewnol perthnasol a digwyddiadau rhanddeiliaid allanol perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Addysg hyd lefel gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth wyddonol berthnasol.
2. Dealltwriaeth fanwl o'r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n berthnasol i'r broses ansawdd dŵr.
3. Profiad helaeth o asesu ceisiadau cymhleth ar gyfer trwyddedau ansawdd dŵr .
4. Sgiliau hyfforddi a mentora.
5. Agwedd gref tuag at gyflenwi sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
6. Hanes o ddarparu atebion amserol trwy ddadansoddi gwybodaeth a phenderfyniadau yn effeithiol ar sail risg.
7. Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.